Yr Ysgrifennydd Iechyd yn chwifio'r faner dros Gymru yn India
Health Secretary flying the flag for Wales in India
Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles yn India yr wythnos hon i ailgadarnhau a chryfhau'r cysylltiadau ym maes gofal iechyd rhwng Cymru a'r wlad.
Y llynedd, llofnododd Llywodraeth Cymru gytundeb â Llywodraeth Kerala i ddod â grŵp cychwynnol o 250 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol o India i weithio yn y GIG yng Nghymru. Ers hynny, rydym wedi rhagori ar y targed hwn ac mae mwy na 300 o nyrsys a meddygon bellach wedi’u recriwtio i weithio yng Nghymru, gyda llawer o’r rhain yn gweithio yma’n barod.
Yn ogystal â'r buddsoddiad sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud bob blwyddyn i hyfforddi a recriwtio staff ar gyfer y GIG o Gymru ac o bob rhan o'r DU, mae recriwtio rhyngwladol hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi'r GIG.
Yn Kerala, bydd yr Ysgrifennydd Iechyd yn cwrdd â staff sydd ar fin dechrau gweithio yng Nghymru. Mae disgwyl iddo hefyd ymweld ag un o ysbytai'r llywodraeth i ddeall yn well y system gofal iechyd yn India a lle mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n dod i Gymru wedi hyfforddi.
Cyn Dydd Gŵyl Dewi, bydd yn dod â blwyddyn Cymru yn India 2024 i ben yn ffurfiol mewn digwyddiad ym Mumbai. Mae'r ymgyrch hon wedi gweld calendr dwys o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn India ac yng Nghymru i dynnu sylw at y cysylltiadau dwfn o ran treftadaeth, addysg, y celfyddydau, chwaraeon a'r economi rhwng y ddwy wlad.
Bydd sawl cyfarfod i drafod gofal iechyd, masnach a buddsoddi rhwng Cymru ac India yn cael eu cynnal hefyd.
Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles: "Mae cysylltiadau sylweddol a dwfn yn bodoli rhwng Cymru ac India, ac rwy'n falch o fod yn ymweld â Mumbai a Kerala i ailgadarnhau a chryfhau'r rhain.
"Ar draws meysydd addysg, y celfyddydau, chwaraeon, busnes a gofal iechyd, mae Cymru ac India yn fan geni a chartref i nifer o grewyr ac arloeswyr mwyaf blaenllaw y byd. Mae blwyddyn Cymru yn India 2024 wedi bod yn allweddol wrth ddathlu hyn.
"Mae recriwtio'n foesegol yn rhyngwladol yn rhan o'n strategaeth ar gyfer y gweithlu i sicrhau bod gan y Gwasanaeth Iechyd y bobl a'r sgiliau cywir y mae eu hangen. Mae nyrsys a meddygon o Kerala yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi'r Gwasanaeth Iechyd ac rydym am sicrhau bod eu profiad yng Nghymru yn gadarnhaol ac yn gyfoethog, gan eu helpu i dyfu'n broffesiynol ar yr un pryd."