English icon English

Ystadegau newydd: Cymru ar y trywydd iawn ar gyfer targedau hinsawdd, ond newidiadau mawr i ddod mewn ‘degawd o weithredu’

New stats: Wales is on track for climate targets, but big changes lie ahead in ‘decade of action’

Dyna oedd geiriau’r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James wrth i ddata a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 7) ddangos bod Cymru’n disgwyl cyrraedd ei tharged ar gyfer 2020 i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a’i bod yn symud i’r cyfeiriad cywir i osgoi cynhesu byd-eang peryglus.

Gostyngodd allyriadau 40% yn 2020, gan ragori ar y targed o ostyngiad o 27% o gymharu â 1990. Mae Cymru hefyd yn debygol o fod wedi cyrraedd ei chyllideb garbon gyntaf (2016-2020), a bennodd darged cyfreithiol o gyflawni gostyngiad cyfartalog o 23% o gymharu â 1990. Mae'r data diweddaraf yn cadarnhau ein bod yn debygol o fod wedi perfformio'n well na'n cyllideb garbon gan sicrhau gostyngiad cyfartalog o 28%.

I gyd-fynd â’r data, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Hadroddiad Allyriadau Sector Cyhoeddus cyntaf i gadw cofnod o’i huchelgeisiau beiddgar i weld y sector cyhoeddus cyfan yn niwtral o ran carbon erbyn 2030, gan gynnwys y GIG a’r holl awdurdodau lleol.

Wrth adlewyrchu ar y ffigurau, diolchodd Julie James AS i gymunedau a sefydliadau ledled Cymru am eu hymdrechion ond rhybuddiodd fod angen gwneud llawer mwy yn fyd-eang a gartref er mwyn osgoi anhrefn hinsawdd.

Mae cyfiawnder cymdeithasol a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd wrth galon blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

Nawr mae'r argyfwng ynni a'r argyfwng costau byw yn dangos bod angen i Gymru ddyblu ei hymdrechion. Mae gwyddonwyr hefyd wedi bod yn glir bod Cymru’n arbennig o agored i lifogydd eithafol wrth i’r newid yn yr hinsawdd ddwysáu, gyda methu gweithredu’n sicr o beryglu llesiant cenedlaethau’r dyfodol.

Mae Cymru Sero Net yn manylu ar fwy na 120 o bolisïau a chynigion, gan gynnwys adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd a chynyddu plannu coed mewn  cymunedau, fel rhan o ymdrechion i gyflawni allyriadau sero net erbyn 2050.

Mae cynllun Cymru gyfan sydd ar droed yn tynnu sylw at yr angen am i bawb yng Nghymru wneud eu rhan i leihau allyriadau, gyda mwy na hanner angen eu sbarduno gan newidiadau cymdeithasol neu ymddygiadol gyda gostyngiad mawr yn yr ynni a'r adnoddau naturiol rydym yn eu defnyddio. Mae hyn yn golygu bod y llywodraeth, cymunedau a busnesau yn cydweithio i newid y ffordd rydym yn teithio, yn siopa ac yn gwresogi ein cartrefi, wrth newid i ddeiet carbon is.

Gan alw am agwedd Tîm Cymru barhaus, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

“Mae data heddiw yn gam pwysig ar ein siwrnai tuag at Gymru lanach, wyrddach. Mae’r ffigurau’n dangos ein bod ni ar y trywydd iawn, ac rydw i eisiau diolch i bawb sydd wedi ein helpu i gyrraedd y garreg filltir hollbwysig yma.

“Er bod rhaid i ni barhau i ysgwyddo ein cyfrifoldeb byd-eang i amddiffyn ein planed werthfawr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ni all Llywodraeth Cymru weithio ar ei phen ei hun i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae pawb yng Nghymru wedi dechrau sylweddoli manteision newid, ac nid nawr yw’r amser i orffwys.

“Rhaid i’r 2020au fod yn ddegawd o weithredu. Bydd lleihau allyriadau yn fwy yn y degawd hwn nag mewn unrhyw gyfnod o ddeng mlynedd blaenorol yn her aruthrol ac efallai y bydd angen i ni wneud dewisiadau anodd. Ond, os ydyn ni eisiau gweld Cymru lanach, gadarnach a mwy llewyrchus, mae’n her y mae’n rhaid i ni ei hwynebu gyda’n gilydd.”