English icon English

Ystadegau newydd yn dangos bod Cymru yn cynnal cyfraddau ailgylchu o safon byd, er gwaetha’r pandemig

New stats show Wales upholds world class recycling rates, despite pandemic

Llwyddoddd Cymru - sydd yn drydydd yn y byd ar hyn o bryd am ailgylchu – i gynnal ei chyfraddau ailgylchu rhagorol y llynedd er gwaethaf y pandemig, yn ôl ystadegau newydd ar gyfer 2020-21 sydd wedi’u datgelu heddiw.

Yn genedlaethol, roedd y gyfradd ailgylchu yn 65.4% gyda deunaw o’r 22 o awdurdodau lleol yn rhagori ar y targed statudol o 64%, a 13 yn nodi cynnydd mewn perfformiad o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Yn eithriadol, mae’r targed statudol nesaf o 70% erbyn 2024-2025 wedi’i gyrraedd eisoes gan Sir Benfro, Ceredigion, Conwy a Bro Morgannwg.

Yn fwy na hynny, yn ysbryd ‘lleihau, ailddefnyddio, wedyn ailgylchu’ - lle mae lleihau gwastraff yn nod blaenoriaeth – gwelwyd y sbwriel oedd yn cyrraedd safleoedd tirlenwi yn gostwng ar gyfer 2020-21 i lai na 5%. Mae hyn yn newyddion da i gynlluniau economi gylchol beiddgar Llywodraeth Cymru, sy'n amlinellu targed uchelgeisiol i sicrhau dim gwastraff yng Nghymru erbyn 2050.

Credir mai gostyngiad mewn gweithrediadau busnes yn ystod y pandemig, gan gynnwys cau lletygarwch a swyddfeydd, yw'r sbardun y tu ôl i'r ffigurau gwastraff cyffredinol is. Mae cynnydd mewn gwastraff cartref yn adlewyrchu hyn hefyd, wrth i fwy o bobl dreulio amser gartref.

Pam mae'r ystadegau hyn yn bwysig? Er mwyn mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur, mae symud i economi gylchol - lle mae deunyddiau’n cael eu defnyddio a gwastraff yn cael ei osgoi - yn hanfodol. Mae ein defnydd a’r gwastraff cysylltiedig yn cyfrannu'n allweddol at yr allyriadau sy'n cynhesu ein planed, y dirywiad mewn bioamrywiaeth ac mae hefyd yn niweidiol i iechyd y cyhoedd. Bydd symud i economi gylchol nid yn unig yn rhoi hwb i'n harfer defnydd sengl ac yn lleihau ein hallyriadau, ond hefyd bydd yn meithrin gwytnwch y gadwyn gyflenwi wrth i ddeunyddiau sy’n cael eu hailddefnyddio aros yng Nghymru a chymryd lle ein dibyniaeth ar ddeunyddiau crai o dramor.

Mae'r gyfradd uchel o ailgylchu o gartrefi yng Nghymru yn arbed mwy na 400,000 o dunelli o CO2 y flwyddyn rhag cael ei ryddhau i'r atmosffer ac mae'n gyfraniad allweddol at fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Mae Cymru wedi bod yn berfformiwr nodedig yn y DU ers amser maith o ran cyfraddau ailgylchu. Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru o £1 biliwn ers datganoli mewn ailgylchu o gartrefi wedi helpu i weld ei chyfraddau’n cynyddu’n hynod sydyn o ddim ond 4.8% yn 1998-1999 i fwy na 65% yn 2020-21. Yn ôl yr astudiaeth fyd-eang ddiweddaraf gan Eunomia (2017), mae Cymru yn y trydydd safle yn y byd y tu ôl i'r Almaen a Thaiwan ar y bwrdd arweinwyr ailgylchu byd-eang.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

“Mae ein hystadegau ailgylchu o safon byd diolch i ymdrech Tîm Cymru. Maen nhw’n dangos yr hyn y gallwn ni ei gyflawni pan fydd y llywodraeth, busnesau a'r trydydd sector yn gweithio gyda'i gilydd tuag at nod cyffredin.

“Maen nhw hefyd yn dangos, er bod buddsoddiad a gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn elfennau allweddol yn y llwyddiant hwn, yn y pen draw, y bobl sy'n ailgylchu gartref ym mhob rhan o Gymru sy’n bennaf gyfrifol am y cyflawniad. Mae ein symudiad i economi gylchol yn llesol er mwyn helpu ein busnesau cartref i ffynnu, gan ein helpu i ddatgarboneiddio, lleihau gwastraff a chefnogi ein hadferiad o'r pandemig.

“Yn ogystal â bod wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol eisoes i’n hallyriadau, mae ein henw rhagorol am ailgylchu yn llwyfan gwych i ni adeiladu arno wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur, fel ein bod yn gallu trosglwyddo Cymru gydnerth, werdd a llewyrchus i genedlaethau'r dyfodol.”