English icon English
P1011416

15 miliwn o brydau ysgol am ddim wedi’u gweini fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio

15 million free school meals served as part of Co-operation Agreement

Mae 15 miliwn o brydau ysgol am ddim wedi cael eu gweini mewn ysgolion cynradd ledled Cymru fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Mae darparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yn ymrwymiad allweddol yn y rhaglen, a lofnodwyd ddwy flynedd yn ôl. Bydd pob plentyn ysgol gynradd a thros 6,000 o ddisgyblion oed meithrin sy’n mynychu ysgol a gynhelir yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim erbyn diwedd 2024.

Cyhoeddir yr ail adroddiad blynyddol am gynnydd o dan y Cytundeb Cydweithio heddiw.

Drwy gydweithio, mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi cyflawni ystod eang o ymrwymiadau yn 2023, gan gynnwys:

  • Cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd – mae 15 miliwn o brydau bwyd wedi cael eu gweini ac mae 142,000 o ddisgyblion wedi dod yn gymwys hyd yma.
  • Estyn gofal plant am ddim i ragor o blant dwy flwydd oed, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddarparu a chryfhau gofal plant cyfrwng Cymraeg.
  • Cyflwyno pecyn radical o fesurau i greu cymunedau lleol ffyniannus, helpu pobl i fyw’n lleol a mynd i’r afael â niferoedd uchel o ail gartrefi mewn sawl ardal yng Nghymru.
  • Lansio cwmni ynni newydd i Gymru – Ynni Cymru – sydd ym mherchnogaeth y cyhoedd, i ddatgloi ein potensial ynni gwyrdd.
  • Cyflwyno deddfwriaeth, a fydd, os cytunir arni, yn gwneud y Senedd yn ddeddfwrfa fwy modern ac effeithiol.
  • Parhau â’r rhaglen Arfor, a fydd yn rhoi hwb economaidd i Wynedd, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin ac Ynys Môn ac yn cryfhau’r Gymraeg yno.
  • Buddsoddi mwy mewn mesurau i reoli a lliniaru llifogydd i ymateb i berygl cynyddol llifogydd, drwy gronfa gwerth £214m ar gyfer cynlluniau llifogydd.
  • Cefnogi a chryfhau newyddiaduraeth leol yng Nghymru gyda chyllid newydd, a chefnogi cwmnïau yng Nghymru i ddatblygu cynnwys dwyieithog ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc.
  • Cyflwyno’r hwb iechyd meddwl cyntaf yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc mewn argyfwng sydd angen cymorth brys. Mae hyn yn rhan o’n hymrwymiad i ddarparu cyfleusterau iechyd meddwl cymunedol.
  • Lansio cynllun Benthyciadau i Ddatblygwyr ar gyfer Diogelwch Adeiladau Cymru, gwerth £20m, i ddarparu benthyciadau di-log i helpu datblygwyr i gyflawni gwaith unioni i ddiogelu adeiladau 11 metr o uchder a mwy yng Nghymru rhag tanau.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydyn ni wedi cydweithio’n agos ar ystod eang o ymrwymiadau sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl ledled Cymru - o brydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd ac ehangu gofal plant ar gyfer plant dwy flwydd oed i fuddsoddi mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd.

“Rydw i’n edrych ymlaen at barhau â’r berthynas hon wrth i ni ddechrau blwyddyn olaf y cytundeb.”

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth:

“Mae cydweithio pan fo gennym dir cyffredin yn enghraifft o wleidyddiaeth aeddfed ac yn dda i Gymru. Mae’r Cytundeb Cydweithio yn nodi ystod o bolisïau penodol yr ydym wedi ymrwymo i gydweithio arnyn nhw ac mae’r ail adroddiad blynyddol hwn yn nodi’r cynnydd rydyn ni wedi’i wneud. Rydyn ni’n parhau i ymrwymo i’r uchelgeisiau cyffredin hyn ar gyfer pobl Cymru.”