Adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar reoleiddio diogelwch tomenni glo yng Nghymru yn ‘garreg filltir bwysig’
Law Commission’s report on regulating coal tip safety in Wales a ‘significant milestone’
Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu argymhellion Comisiwn y Gyfraith i wella diogelwch tomenni glo yng Nghymru, gan ddweud y byddant yn helpu i lywio deddf newydd i sicrhau bod pobl sy'n byw ac yn gweithio'n agos at domenni yn teimlo'n ddiogel.
Mae adroddiad y corff annibynnol, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn tynnu sylw at y bylchau sylweddol yn y ddeddfwriaeth bresennol mewn perthynas â rheoli, monitro a goruchwylio tomenni segur.
Cyflwynodd 36 o argymhellion ar gyfer gwelliannau – gan gynnwys creu awdurdod goruchwylio newydd.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters,:
“Diogelwch ein cymunedau sy’n byw yng nghysgod y tomenni hyn yw ein blaenoriaeth erioed.
“Rydym wedi darparu'r cymorth ariannol i alluogi awdurdodau lleol i atgyweirio a chynnal a chadw tomenni glo.
“Ac rydym wedi neilltuo £44.4 miliwn arall dros y tair blynedd nesaf er mwyn i'r gwaith hanfodol hwn allu parhau.”
Fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i wella diogelwch tomenni glo yn ystod tymor y Senedd hon, bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, yn cyhoeddi Papur Gwyn ar Ddiogelwch Tomenni Glo (Cymru) ddechrau mis Mai.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog y bydd hyn yn gyfle i gasglu safbwyntiau’r cyhoedd ar y cynlluniau hyn, a fydd yn darparu “dull cyson o reoli, monitro a goruchwylio tomenni”.
Mae bron i 2,500 o domenni glo segur ledled Cymru – mae 327 o’r rhain yn y categori gradd uwch, ac mae mwy yn dal i gael eu nodi. Gyda chanran uchel o domenni wedi'u lleoli ar dir preifat, ymdrinnir â materion diogelu data o hyd cyn y gellir cyhoeddi rhestr lawn o’u lleoliadau.
Mewn ardaloedd lle ceir tomenni gradd uwch, mae'r wybodaeth eisoes wedi'i rhannu ag awdurdodau lleol a Fforymau Lleol Cymru Gydnerth i helpu i greu cynlluniau argyfwng.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu'r Awdurdod Glo i gynnal archwiliadau ar y cyd ag awdurdodau lleol, ac mae’n gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys diwydiant gofod y DU i brofi technolegau cyntaf o’u math yn y byd i ddarparu gwybodaeth am symudiadau tir a chyfundrefnau dŵr.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymgysylltu â'r sector ymchwil drwy Platfform yr Amgylchedd Cymru i gasglu’r dystiolaeth orau bosibl ynghylch sut y gallai newid hinsawdd effeithio ar sefydlogrwydd hirdymor tomenni.
O ystyried yr heriau hirdymor y mae newid hinsawdd yn eu peri i domenni glo, mae Llywodraeth Cymru wedi ailadrodd ei galwadau ar Lywodraeth y DU i ddarparu'r cymorth ariannol ar gyfer rhaglen adfer a chyweirio.
Ychwanegodd Mr Waters:
“Nid yw setliad ariannu Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu'r costau anghymesur o fynd i'r afael â gwaddol glofaol y DU.
“Mae'n gwbl annheg ac, yn blwmp ac yn blaen, yn anghynaliadwy i San Steffan barhau i ddadlau y dylai cymunedau Cymru ysgwyddo'r costau hyn.”