English icon English

AMRC Cymru yn cynnal prosiect i hybu cynhyrchiant a lleihau allyriadau

AMRC Cymru hosts project to boost productivity and cut emissions

Mae prosiect ymchwil a datblygu arloesol i wella cynhyrchiant a pherfformiad amgylcheddol busnesau yn y sectorau awyrofod a bwyd a diod yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC) Cymru ym Mrychdyn. 

Mae Ffatri 4.0 yn gydweithrediad rhwng AMRC Cymru, Airbus a chwmnïau bwyd a diod.  Y nod yw creu glasbrint ar gyfer ffatrïoedd yn y dyfodol gan wella gwydnwch busnes, cynhyrchiant a chynaliadwyedd tra'n cynyddu'r capasiti ar gyfer ymchwil gydweithredol gyda diwydiant, a mwy o fuddsoddiad ymchwil a datblygu yng Nghymru. 

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd y prosiect yn creu chwe swydd ymchwil newydd yn AMRC Cymru. 

Y busnesau bwyd sy'n cymryd rhan yn y prosiect yw The Pudding Compartment o Sir y Fflint a Distyllfa Castell Hensol o Fro Morgannwg.   

Bydd y prosiect yn edrych ar sut y gall busnesau barhau i gynyddu cynhyrchiant tra'n cyrraedd targedau allyriadau carbon sero-net drwy dechnolegau clyfar.  Mae'n seiliedig ar y rhagdybiaeth y gellir cyflymu nodau cynaliadwyedd a chynhyrchiant y sector gweithgynhyrchu drwy fabwysiadu ac integreiddio technolegau gweithgynhyrchu digidol yn llwyddiannus. 

Bydd gwersi a ddysgwyd o'r prosiect yn cael eu defnyddio i helpu cwmnïau eraill.   

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Mae Ffatri 4.0 yn brosiect arloesol sy'n cefnogi ymchwil a datblygu yng Nghymru, tra hefyd yn gwneud gwaith pwysig i gynghori ffatrïoedd y dyfodol.  Mae busnesau am gynyddu cynhyrchiant ac mae angen iddynt wneud hynny ond rhaid iddynt wneud hynny tra'n ystyried yr effeithiau amgylcheddol.   

"Mae'n wych gweld AMRC Cymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr ymchwil bwysig hon a fydd o fudd arbennig i'r sectorau awyrofod a bwyd a diod.  Mae'n cyd-fynd â nodau ehangach ein Cynllun Gweithgynhyrchu o greu'r amgylchedd iawn i fusnesau lwyddo." 

Dywedodd Lesley Griffiths y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru: "Rwy'n falch o weld cwmnïau bwyd a diod yn manteisio ar y cyfleusterau rhagorol yn AMRC Cymru.  Bydd y gwaith a wneir o fudd i gynhyrchiant y sector yn y dyfodol, tra'n rhoi hwb i enw da Cymru am ymchwil a datblygu.   

"Bydd y gwersi a ddysgwyd fel rhan o'r prosiect hwn o fudd i fusnesau ledled Cymru a thu hwnt.  Mae'n arbennig o gadarnhaol gweld sectorau'n cydweithio ar ymchwil fel hyn, a oedd yn un o amcanion AMRC Cymru." 

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau AMRC Cymru, Jason Murphy: 

"Rydym wedi ein cyffroi gan y cyfle a ddaw yn sgil y prosiect hwn i drosglwyddo gwybodaeth a rhannu syniadau ar draws y ddau sector hynod bwysig hwn i economi Cymru. 

"Bydd Ffatri 4.0 yn gwneud cyfraniad sylweddol i nodau 'Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)', 'Cymru 4.0 – Cyflawni Trawsnewidiad Economaidd ar gyfer Gwell Dyfodol Gwaith' a 'Fframwaith Datgarboneiddio i Gymru'. 

Bydd y gwersi a ddysgwyd yn cael eu rhannu'n eang ar draws sector gweithgynhyrchu Cymru er mwyn gwella cynhyrchiant, hybu gwydnwch busnesau, a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwastraff. “

Agorodd AMRC Cymru yn 2019.  Mae'n cael ei reoli gan Brifysgol Sheffield a chafodd y gwaith adeiladu gwerth £20m ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.  Mae Airbus yn denant fel rhan o'i brosiect Wing of Tomorrow.