English icon English

Arbed arian, gwella eich iechyd a helpu'r amgylchedd

Save money, improve health, and help the environment

Wedi gorwneud pethau dros y Nadolig? Hoffech chi fynd yn ffit ac yn iach yn y Flwyddyn Newydd? Beth am fanteisio ar un o'r llawer o lwybrau cerdded a beicio sydd ar garreg eich drws?

Waeth a ydych yn meddwl am gefnu ar eich car a chymudo mewn ffordd iachach, fwy costeffeithiol, mynd am dro ar y penwythnos neu gynllunio taith feicio gyda ffrindiau a theulu, mae'n debyg y bydd cyfle yn agos, gyda dros 2,000km o lwybrau cerdded a beicio o ansawdd uchel eisoes ar gael ledled Cymru.

Yn dilyn misoedd o ymgynghori cyhoeddus a chan weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, mae Awdurdodau Lleol wedi cyhoeddi eu Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol, sy'n cynnwys rhestr gynhwysfawr o lwybrau teithio llesol wedi'u cymeradwyo'n llawn. Maen nhw ar gael ar MapiauDataCymru.

Mae'r mapiau'n dod â llwybrau presennol yn ogystal â chynlluniau newydd ynghyd i ddarparu llwybrau newydd a llwybrau wedi'u gwella yn y tymor byr a'r hirdymor, gyda chyllid gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Mae rownd gyllid 2023-24 bellach ar agor ar gyfer ceisiadau, ac mae Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol i wneud cais am gyllid gan y gronfa gwerth £55 miliwn i'w helpu i wireddu eu huchelgeisiau ar gyfer teithio llesol yn eu cymunedau.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog gyda Chyfrifoldeb am Drafnidiaeth, Lee Waters:

"Mae annog pobl i gefnu ar eu ceir a gwneud teithiau byr ar droed neu ar eu beiciau yn her fawr inni – ond her mae'n rhaid inni fynd i’r afael â hi os ydyn ni am gyrraedd ein targed ar gyfer allyriadau sero net erbyn 2050.

"Mae angen inni greu'r seilwaith cywir a rhoi'r llwybrau cywir ar waith i sicrhau bod cerdded neu feicio'n opsiwn ymarferol ar gyfer ein teithiau bob dydd – mae angen inni sicrhau bod gwneud y peth iawn yn hawdd.

"Mae llawer i'w wneud o hyd, ond mae'n dda gen i weld ein bod yn symud yn y cyfeiriad iawn."