Beirniadu agwedd “ddinistriol” at ddatganoli
Criticism of “destructive” approach to devolution
Mae Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn Llywodraeth Cymru, wedi beirniadu agwedd unochrog a dinistriol Llywodraeth y Deyrnas Unedig at ddatganoli.
Daw ei rybudd cyn iddo draddodi araith yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas y Bar ar gyfer Cyfraith Gyfansoddiadol a Gweinyddol, union 24 mlynedd ers i Gynulliad Cenedlaethol Cymru – sef Senedd Cymru nawr – ddod i fodolaeth.
Dywedodd Mick Antoniw nad yw’r setliad datganoli yn ystod y cyfnod hwn erioed wedi bod dan gymaint o straen ag y mae nawr, gan gyfeirio at yr achosion niferus pan fo Llywodraeth y DU wedi torri Confensiwn Sewel. Mae’r Confensiwn hwn yn datgan na fydd Senedd y DU fel arfer yn deddfu mewn materion datganoledig heb gydsyniad y seneddau datganoledig.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Deddf Marchnad Fewnol y DU, y Ddeddf Cymwysterau Proffesiynol a’r Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau wedi dod i rym heb gydsyniad Senedd Cymru. Yn y misoedd diwethaf, mae Senedd Cymru hefyd wedi pleidleisio i wrthod cydsyniad ar gyfer Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir a’r Bil Mudo Anghyfreithlon. Mae’r ddau fil hyn wrthi’n mynd drwy’r broses ddeddfwriaethol ar hyn o bryd.
Dywedodd Mick Antoniw:
“Er ein hymdrechion ni i weithio ar y cyd, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dewis arddel agwedd ganolog, unochrog a dinistriol tuag at y setliad datganoli.
“Droeon, maen nhw wedi bwrw ymlaen â deddfwriaeth mewn meysydd datganoledig heb gydsyniad Senedd Cymru. Wrth wneud hynny, maen nhw’n amharchu corff sydd wedi’i ethol yn ddemocrataidd ac yn atal y bobl wnaeth ethol ei aelodau rhag cael atebolrwydd. Dydy’r setliad datganoli erioed wedi bod dan gymaint o straen â hyn yn ystod yr holl amser ers ei sefydlu, 24 mlynedd yn ôl.
“Ac mae’r cyfansoddiad dan straen mewn ffyrdd eraill heblaw am yr ymosodiadau hyn ar y setliad datganoli. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn fwriadol yn tanseilio seneddau a’r llysoedd, sefydliadau sy’n gwneud gwaith hanfodol o ran craffu, gwirio a chadw cydbwysedd. Mae rhyddid sifil dan warchae, gan gynnwys drwy’r Bil Trefn Gyhoeddus sy’n bygwth gwanhau rhyddid sylfaenol o ran yr hawl i brotestio. Ac yn sgil cyflwyno cardiau adnabod pleidleiswyr, cafodd tua 14,000 eu troi i ffwrdd o orsafoedd pleidleisio yn etholiadau lleol Lloegr, gan godi pryderon mawr am uniondeb y system etholiadol.”
Ychwanegodd Mick Antoniw:
“Dydy parhau â phethau fel y maent ddim yn opsiwn, ac mae’r sylfeini ar gyfer diwygio eisoes wedi’u sefydlu. Nododd y Comisiwn ar Ddyfodol y Deyrnas Unedig, a gafodd ei gadeirio gan Gordon Brown, gyfres o gynigion radical tua diwedd y llynedd ar gyfer diwygio cyfansoddiadol – gan gynnwys ail-lunio Confensiwn Sewel mewn ffordd newydd sy’n rhoi grym cyfreithiol iddo. Erbyn diwedd eleni, mae disgwyl y bydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad terfynol, gan adeiladu ar ei adroddiad interim ar ôl parhau â’i sgwrs â phobl Cymru.
“Mae’n ddyletswydd ar bob gwleidydd i adeiladu ar y sylfeini hyn, gwrando ar farn y bobl ry’n ni’n eu gwasanaethu, parchu’r cyfansoddiad a sicrhau bod gennym strwythurau wedi’u diwygio sy’n gallu gwella canlyniadau a chryfhau cymunedau.”