English icon English
Lynne Neagle new-2

Buddsoddi dros £44 miliwn i roi hwb i safonau a chefnogi addysg

Over £44 million invested to boost standards and support education

Mae dros £44m yn cael ei ddyfarnu i brosiectau i gefnogi blaenoriaethau allweddol mewn addysg yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar feysydd sy'n cynnwys llythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth dros y tair blynedd nesaf.

Mae grantiau wedi eu dyfarnu i amrywiaeth o sefydliadau (o'r trydydd sector a'r sector cyhoeddus, i brifysgolion a chwmnïau preifat) i ddarparu’r arbenigedd, yr hyfforddiant a'r deunyddiau sydd eu hangen ar ysgolion a lleoliadau.

Rhoddir blaenoriaeth i gefnogi ystod o feysydd allweddol, gan gynnwys:

  • Helpu plant i wneud gwell cynnydd mewn mathemateg a rhifedd
  • Rhoi hwb i addysgu gwyddoniaeth
  • Grymuso ysgolion i gynllunio cwricwlwm diddorol a heriol i'w dysgwyr
  • Parhau â'r Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol, gan ddarparu cyfleoedd cerddoriaeth i blant
  • Addysg feithrin i roi'r dechrau gorau i blant
  • Datblygu cymorth ac arbenigedd cyson i Gymru gyfan ar gyfer Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
  • Helpu plant i ddatblygu eu creadigrwydd

Fel rhan o’r £44m, lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet alwad newydd am gynigion grant pellach heddiw, gan wahodd ceisiadau o hyd at £11.9 miliwn gan sefydliadau addas, i ariannu prosiectau yn y meysydd a ganlyn:

  • Cryfhau sgiliau cyfrifiadurol a digidol plant
  • Datblygu mathemateg mewn ysgolion cynradd
  • Llythrennedd i wella cyrhaeddiad mewn lleferydd, iaith a darllen

 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

"Mae hwn yn fuddsoddiad enfawr mewn cefnogaeth o safon uchel, sy'n gyson i’n holl ysgolion yng Nghymru. Rydym yn helpu ysgolion i gynyddu buddsoddiad mewn safonau llythrennedd a rhifedd, i herio eu dysgwyr ac ymgysylltu â nhw ar draws y cwricwlwm, ac i gynnal ein buddsoddiad mwyaf erioed mewn addysg gerddoriaeth - fel bod pob plentyn, beth bynnag fo'i gefndir, yn gallu profi llawenydd cerddoriaeth.

"Rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi galwad newydd am gynigion ar gyfer cymorth cenedlaethol ar lythrennedd, mathemateg ar lefel gynradd, sgiliau cyfrifiadurol a digidol."