English icon English
David and Ann Gale-2

Buddsoddiad o chwarter biliwn o bunnoedd i ofal cymunedol yn cadw pobl yn iach gartref ac i osgoi derbyniadau i'r ysbyty

Quarter of a billion-pound investment into community care keeping people well at home and preventing hospital admissions

Mae mwy na chwarter biliwn o bunnoedd o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru wedi helpu pobl hŷn i gael gofal yn eu cartrefi eu hunain ac wedi osgoi miloedd o arosiadau diangen mewn ysbytai.

Mae £146.2m wedi cael ei fuddsoddi drwy'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol i helpu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i ddarparu gwasanaethau ymyrraeth gynnar a chymunedol - gan gefnogi 600,000 o bobl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ochr yn ochr â hyn, buddsoddwyd £70m i ddatblygu hybiau cymunedol ledled Cymru, ac mae £60.5m pellach wedi'i ddarparu i gefnogi pobl sydd angen gofal, cymorth ac adsefydlu i fyw'n annibynnol gartref.

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden,

"Rydym am i bobl fyw bywydau da, iach ac annibynnol am mor hir â phosibl, yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain.

"Mae gofal cymunedol yn cael ei gydnabod yn eang fel modd o wella canlyniadau i bobl hŷn a phobl ag anghenion cymhleth, ac mae ymchwil yn dangos fod pobl yn gwella'n well yng nghysur eu cartrefi eu hunain yn hytrach nag mewn ysbyty. 

"Mae ein buddsoddiad sylweddol i wasanaethau yn y gymuned yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â heriau yn gynnar i gadw pobl yn iachach yn y tymor hir, gan helpu i atal derbyniadau i'r ysbyty y gellir eu hosgoi."

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, helpodd gwasanaethau fel Gofal a Thrwsio - i atal dros 3,000 o dderbyniadau i'r ysbyty ledled Cymru y llynedd drwy addasiadau ac atgyweiriadau I gartrefi.

Gan ganolbwyntio ar wella diogelwch oedolion hŷn, mae'r tîm yn gwneud gwelliannau cyflym i gartrefi sydd wedi'u teilwra i anghenion yr unigolyn, trwy sylwi ar risgiau posibl ac atal anafiadau a allai arwain at orfod mynd i'r ysbyty.

Helpodd eu gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach i arbed tua £10m i'r GIG yng Nghymru y llynedd - gan arbed 31,000 o ddyddiau gwely yng Nghymru drwy fynd i'r afael â rhyddhau gohiriedig.

Cafodd David Gale, 82 oed, ei ganfod ar lawr ei gartref gyda chyflymder calon isel iawn ac fe'i derbyniwyd i Ysbyty Tywysoges Cymru, lle derbyniodd reolydd calon.

Roedd ei deulu'n poeni na fyddai ganddo'r gefnogaeth gywir o gwmpas y tŷ ar ôl ei ryddhau, ac y gallai ei symudedd cyfyngedig arwain at risg uwch o gwympo.

Cysylltwyd â thîm Gofal a Thrwsio Sir Pen-y-bont ar Ogwr drwy'r Gwasanaeth Ysbyty i Gartref ac fe wnaethon nhw ymweld â David yn ei gartref ddiwrnod ar ôl ei ryddhau i asesu ei anghenion.

Gweithiodd y tîm yn gyflym i wneud addasiadau i wella hygyrchedd ac annibyniaeth David, gan osod canllaw grisiau a chanllawiau dur y tu allan.

Dywedodd David:

"Mae Gofal a Thrwsio wedi helpu cymaint. Maen nhw wedi gosod canllawiau o gwmpas ein cartref, mae ein dreif yn serth iawn ac mae'r canllaw sydd wedi'i gosod wedi ein helpu ni i adael y tŷ yn ddiogel ac rydyn ni'n teimlo'n llawer mwy hyderus pan fyddwn ni'n mynd allan nawr.

Cawsom ganllawiau gafael yn yr ystafell ymolchi i'n helpu ni i fynd i mewn ac allan o'r bath, a chanllaw ar y grisiau - felly mae gennym un bob ochr bellach sy'n helpu llawer ac yn ei gwneud hi’n fwy diogel wrth i ni fynd i fyny ac i lawr y grisiau. Rydyn ni hefyd wedi cael canllaw yn yr ardd gefn i'n helpu i gyrraedd y sied a’r toiled tu allan yn fwy diogel. Fe wnaethant hefyd osod llinell Teleofal i ni.

Rwy’n teimlo, heb yr addasiadau hyn, y byddem wedi gorfod edrych ar opsiynau eraill. Felly, mae’n ein gwneud ni mor hapus ein bod gallu aros yn ein cartref, lle rydyn ni wedi magu ein plant, cael cymaint o atgofion hapus ac yng nghwmni cymdogion hyfryd,

Ni allaf weld dim bai ar yr help rydym wedi'i gael gan Gofal a Thrwsio. Mae wedi ein helpu i deimlo'n fwy diogel wrth fynd o amgylch ein cartref ac rydym mor ddiolchgar iddynt am bopeth maen nhw wedi'i wneud i ni."

Dywedodd Kelly Williams, uwch weithiwr achos gyda Gofal a Thrwsio Sir Pen-y-bont ar Ogwr:

"Mae gwasanaeth o’r Ysbyty i Gartref Gofal a Thrwsio yn gwella llif cleifion ac yn lleihau'r tebygolrwydd y bydd pobl yn cael eu haildderbyn i'r ysbyty. Mae'r gwasanaeth yn adnabod cleifion lle bo pryder am eu tai a allai achosi oedi cyn iddynt ddychwelyd gartref. Yna mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, cleifion a'u teuluoedd i wneud y gwelliannau angenrheidiol i'r cartref i alluogi rhyddhau'n gyflym ac yn ddiogel.

"Roeddem yn hapus i gefnogi rhyddhau Mr Gale o'r ysbyty drwy osod addasiadau a Teleofal yn ei gartref gan ein Swyddog Diogelwch Cartref, sy'n cael ei ariannu drwy ein gwasanaeth tasgmon ymateb cyflym.

"Does dim dwywaith nad yw cartref diogel a chynnes yn hanfodol i iechyd a lles da. Mae cartref diogel a chynnes yn hanfodol i unrhyw un sy'n cael ei ryddhau fel y gallant barhau i wella. Gall tai anniogel neu wael effeithio'n sylweddol ar iechyd meddwl a chorfforol ac felly mae'n hanfodol bod tai yn cael eu hystyried fel rhan o daith rhyddhau claf."

Mae 91% o bobl sy'n defnyddio gwasanaethau Gofal a Thrwsio yn dweud bod eu hannibyniaeth wedi gwella ac mae llawer yn dweud eu bod yn teimlo'n llai ynysig.

Yn genedlaethol, y llynedd fe arbedodd Gofal a Thrwsio tua £25,000,000 i'r GIG yng Nghymru a thros £850,000 i Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn sgil llai o dderbyniadau i'r ysbyty a llai o angen galwadau ambiwlans.

Ychwanegodd y Gweinidog:

"Mae'r tîm Gofal a Thrwsio yn enghraifft wych o wasanaeth yn y gymuned, sy’n gwneud gwahaniaeth radical i fywydau'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, trwy eu dull gofal cyfannol ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

"Rwy'n falch bod cyllid Llywodraeth Cymru, fel y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol a'r Gronfa Tai â Gofal, yn helpu sefydliadau fel Gofal a Thrwsio i barhau â'u gwaith amhrisiadwy o ran cadw pobl yn iach a galluogi pobl i gael eu rhyddhau o'r ysbyty mor gynnar â phosibl i wella, lle maent yn gwneud hynny orau, gartref.

"Mae ein cyllid hefyd yn helpu i atal pobl rhag cael eu derbyn a'u haildderbyn i'r ysbyty, sydd wedi bod yn hanfodol wrth leddfu'r pwysau ar wasanaethau iechyd cyn y gaeaf."

Nodiadau i olygyddion

Regional Integration Fund:  £146.2 million recurrent to end of March 2027. 

  • The Health and Social Care Regional Integration Fund (the RIF) is a 5-year fund to deliver a programme of change from April 2022 to March 2027, which seeks to create sustainable system change through the integration of health and social care services. Key features and values of the fund include;
    •  A strong focus on prevention and early intervention
    • Developing and embedding national models of integrated care (also referred to as models of care)
    • Actively sharing learning across Wales through Communities of Practice
    • Sustainable long-term resourcing to embed and mainstream new models of care
    • Creation of long-term pooled fund arrangements
    • Consistent investment in regional planning and partnership infrastructure.
  • The Regional Integration Fund is provided directly to the seven Regional Partnership Boards to lead organisations, manage regional design and effective use of resources.
  • Regional Partnership Boards bring together health boards, local authorities and the third sector to meet the care and support needs of people in their area.

Integration and Rebalancing Capital Fund: £70 million per annum from 2024-25 to 2026-27.  

  • The Integrated Health and Social Care Hubs (IHSCH) Programme was established to deliver the Programme for Government (PfG) commitments to ‘Invest in a new generation of integrated health and social care centres across Wales’ and ‘Develop more than 50 local community hubs to co-locate front-line health and social care and other services.

Housing with Care Fund (Capital): £60.5 million in 2024-2025. 

  • The fund is aimed at supporting the provision of supported housing and accommodation for vulnerable people in society with care and support needs. The primary objective is to provide financial support to ensure that delivery organisations continue developing and/or purchasing properties for people with care and support needs to live independently in their communities.

 

Care & Repair

  • careandrepair.org.uk
  • Via a mix of Local Health Board Funding and RIF, their Hospital to a Healthier Home service has helped save the Welsh NHS around £10m last year by saving 31,000 bed days in Wales by tackling delayed discharges.
  • Care and Repair has saved the Welsh NHS around £25,000,000 and the Welsh ambulance service more than £850,000 due to fewer admissions and ambulance call outs in 2023-2024.
  • The team also supports older patients in hospitals with housing problems that could delay their return home, to ensure a quick and safe discharge - saving an estimated 31,000 bed days annually in Wales, improving patient flow and reducing re-admissions.