Cadarnhau'r camau nesaf i fynd i'r afael ag effaith perchnogaeth ail gartrefi ar gymunedau Cymru
Next steps confirmed to tackle impact of second home ownership on Wales’ communities
Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, newydd rannu manylion cynllun peilot i fynd i'r afael â'r effaith y mae perchenogaeth ail gartrefi yn ei chael ar rai cymunedau yng Nghymru.
Wrth siarad yn y Senedd, cadarnhaodd y Gweinidog y bydd y peilot yn dwyn ynghyd amrywiaeth o gamau ar gyfer mynd i'r afael â’r effeithiau y gall niferoedd mawr o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr eu cael ar gymuned.
Dywedodd y Gweinidog wrth Aelodau’r Senedd fod Dwyfor wedi cael ei ddewis ar gyfer cynllun peilot a fydd yn cael ei lansio ym mis Ionawr gyda chymorth Cyngor Gwynedd.
Bydd cam cyntaf y cynllun peilot yn adeiladu ar y cymorth ymarferol y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei ddarparu i fynd i'r afael â fforddiadwyedd a faint o dai sydd ar gael a bydd yn cael ei deilwra i ddiwallu anghenion pobl yr ardal. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cadarnhau yn dilyn y Gyllideb, ac mae’r Gweinidog yn awyddus i edrych ar gynlluniau rhannu ecwiti, opsiynau rhentu, a'r hyn a wnawn ynghylch cartrefi gwag.
Bydd dwy swydd bwrpasol yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cynllun peilot yn yr ardal i gysylltu'r ymyriadau, ymgysylltu â chymunedau a sicrhau'r effaith fwyaf bosibl.
Hefyd, lansiodd y Gweinidog ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig ym maes cynllunio.
Bydd hwn yn ceisio barn ar ddefnyddio 'gorchymyn dosbarthiadau' ym maes cynllunio a fyddai'n caniatáu i awdurdodau cynllunio lleol ei gwneud yn ofynnol gwneud ceisiadau cynllunio ar gyfer ail gartrefi ychwanegol a llety gwyliau tymor byr mewn ardaloedd lle maent yn achosi anawsterau sylweddol i gymunedau.
Bydd yr ymgynghoriad yn llywio ail gam y peilot a allai olygu gwneud newidiadau i systemau cynllunio, trethu a thwristiaeth.
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:
"Rydym eisiau i bobl ifanc gael gobaith realistig o allu prynu neu rentu tai fforddiadwy yn yr ardal lle cawsant eu magu fel y gallant fyw a gweithio yn eu cymunedau lleol.
"Gall niferoedd uchel o ail gartrefi ail a chartrefi gwyliau mewn un ardal fygwth y Gymraeg yn ei chadarnleoedd ac effeithio ar gynaliadwyedd rhai ardaloedd gwledig.
"Rydym yn genedl groesawgar ac mae twristiaeth yn rhan bwysig o’n heconomi gan ddod â swyddi ac incwm i sawl rhan o Gymru. Ond dydyn ni ddim eisiau pentrefi sy’n orlawn o bobl yn y tymor gwyliau ond fel y bedd yn ystod misoedd y gaeaf am nad oes neb yn byw ynddynt.
"Mae'r rhain yn faterion cymhleth ac nid oes atebion cyflym. Efallai na fydd yr hyn a allai fod yn iawn i un gymuned yn gweithio i un arall. Bydd angen i ni gyflwyno amrywiaeth o gamau, does dim un bwled arian penodol yma!"
Yn ogystal, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, lansiad ymgynghoriad ar fesurau ychwanegol wedi'u teilwra'n benodol ar gyfer y cymunedau hynny lle siaredir y Gymraeg yn helaeth.
Bydd hyn yn sail i Gynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg Llywodraeth Cymru, a bydd yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gynnal cymunedau Cymraeg fel lleoedd y mae modd defnyddio'r iaith yn hwylus.
Dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
"Rydym yn dymuno i'n cymunedau Cymraeg barhau i fod yn lleoedd sydd ag economi hyfyw, lle y gall pobl leol, yn enwedig pobl ifanc, fyw a gweithio a lle gall yr iaith a’n diwylliant Cymreig ffynnu.
"Er nad oes atebion hawdd, rwy'n hyderus y bydd yr ymyriadau a gynigir heddiw yn gwneud llawer i fynd i'r afael â'n hamcan o sicrhau bod pobl mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith yn gallu fforddio byw yn y cymunedau y cawsant eu magu ynddynt."