English icon English

Cefnogaeth o fudd i gyn-filwyr

Support will benefit veterans

Cyn Sul y Cofio, mae Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb am y Lluoedd Arfog, Ken Skates, wedi croesawu'r newyddion am £3.5m o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU ar gyfer y rhaglen Lleihau Digartrefedd Cyn-filwyr.

Dywed Ysgrifennydd y Cabinet y bydd Llywodraeth Cymru nawr yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i wneud y mwyaf o hyn er budd cyn-filwyr yng Nghymru.

Yn gynharach yr wythnos hon, cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet â chyn-filwyr a'u teuluoedd yn Shotton i glywed am yr hyn y mae Cofio yn ei olygu iddyn nhw. Siaradodd hefyd mewn cynhadledd Cyflogwyr y Lluoedd Arfog a noddir gan Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd ac ymwelodd â ffair swyddi lle yr oedd 49 o Gyflogwyr ynghyd â dros 140 o bobl oedd wedi gadael gwasanaeth milwrol a chyn-filwyr.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet: "Mae'r adeg hon o'r flwyddyn yn gyfle pwysig i gofio ac anrhydeddu'r rhai sydd wedi marw neu wedi cael eu hanafu mewn rhyfeloedd wrth amddiffyn y Deyrnas Unedig.

"Mae cyhoeddiad Llywodraeth y DU o gyllid ychwanegol ar gyfer y rhaglen Lleihau Digartrefedd i Gyn-filwyr yn newyddion cadarnhaol a byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU fel bod hyn o fudd i gyn-filwyr yng Nghymru.

"Rydym hefyd yn croesawu cyhoeddi Bil drafft yn y DU a gynhaliwyd yr wythnos hon i sefydlu Comisiynydd y Lluoedd Arfog i gynrychioli buddiannau personél y Lluoedd Arfog yng Nghymru ac ar draws y DU.

"Rwyf wedi bod yn trafod â Gweinidogion y DU ynghylch cefnogaeth i gyn-filwyr a byddaf yn parhau i wneud hynny."