Cefnogi pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal i lwyddo yn hanfodol – meddai'r Gweinidog
“It’s crucial care-experienced young people can access the support they need to succeed” – says Minister
Mae'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, wedi pwysleisio pa mor bwysig yw sicrhau bod pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn gallu cael gafael ar gymorth iechyd meddwl, a hynny i'w helpu "i lwyddo mewn bywyd".
Aeth Ms Murphy a'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, Dawn Bowden i weld Fy Nhîm Cefnogol, sydd wedi'i leoli yn hen Ysgol Gynradd Victoria Village ym Mhont-y-pŵl, i ddysgu mwy am y cymorth iechyd meddwl a ddarperir i bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal.
Mae rhaglen Fy Nhîm Cefnogol (MyST) Rhanbarthol Gwent yn wasanaeth iechyd meddwl arbenigol i bobl ifanc hyd at 18 oed. Yn y gorffennol, mae'r rhaglen, sy'n cefnogi plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, wedi elwa ar gyllid o fwy na £1.4 miliwn gan Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Llywodraeth Cymru.
Ei nod yw sicrhau bod plant a phobl ifanc, a'u rhwydweithiau cymorth, yn cael y cyfle gorau posibl i lwyddo drwy ystod o waith seicolegol uniongyrchol a dull system gyfan o ymdrin â gofal.
Mae'r rhaglen yn defnyddio amrywiaeth eang o fodelau seicotherapiwtig ac mae wedi rhoi cymorth i 97 o blant a phobl ifanc ag anghenion iechyd meddwl cymhleth a'r oedolion hynny sy'n eu cefnogi dros y deuddeg mis diwethaf.
Yn ogystal â'r gwaith dwys hwn, mae hefyd yn rhoi cymorth seicolegol i 30 o bobl ifanc eraill sy'n rhan o wasanaethau plant.
Dywedodd rhiant, sydd wedi elwa ar gymorth gan ymarferydd therapiwtig arweiniol o Fy Nhîm Cefnogol: "'Pan mae hi (yr ymarferydd) yn dod draw, mae ganddi ei chwpan ei hun fel aelod o'r teulu.
"Rydyn ni'n siarad am lawer o bethau ond dyw hi byth yn beirniadu. Mae hi'n un dda am wrando a does gen i ddim gair drwg i'w ddweud amdani.
"Byddwn i wedi hoffi cael gwasanaeth fel hi pan oeddwn i'n blentyn. Mae MyST wedi gwneud cymaint i fy nwy ferch."
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy: "Mae'r cymorth iechyd meddwl yma'n hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i lwyddo mewn bywyd.
"Mae Fy Nhîm Cefnogol yn hollbwysig wrth roi cymorth therapiwtig fydd yn gwella eu hiechyd meddwl a'u llesiant."
Dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, Dawn Bowden: "Mae angen inni sicrhau bod plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal, ar gyrion gofal ac mewn gofal maeth yn cael y cymorth cywir i fyw bywydau sefydlog.
"Drwy raglenni fel Fy Nhîm Cefnogol, sy'n dod ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd a sefydliadau addysgol at ei gilydd, gallwn sicrhau bod y sylfeini ar waith i gyflawni hyn."
Nodiadau i olygyddion
The My Support Team programme embodies the Welsh Government’s NEST framework – Nurturing, Empowering, Safe and Trust – for improving mental health and wellbeing services for babies, children and young people, and their families.
Pic caption: Minister for Mental Health and Wellbeing Sarah Murphy and Minister for Social Care and Children Dawn Bowden with therapeutic foster carers and Jennie Welham (far right) from My Support Team
(from left) Therapeutic foster carers Ashleigh Taylor, Paula Matthews, Minister for Mental Health and Wellbeing Sarah Murphy, Minister for Social Care and Children Dawn Bowden, therapeutic foster carer Sharon-Ann Jones and Jennie Welham, Regional Programme Director - My Support Team.