English icon English
llywodraeth-cymru-ysgol-llanrug-2111

Cyfle teg i bawb siarad Cymraeg

Fair opportunity for all to speak Welsh

Bil newydd y Gymraeg ac Addysg i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn colli cyfle i ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus.

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Bil y Gymraeg ac Addysg, gyda'r nod o roi cyfle teg i bob plentyn yng Nghymru siarad Cymraeg yn annibynnol ac yn hyderus erbyn 2050, beth bynnag fo'u cefndir neu eu haddysg.

Ar hyn o bryd, mae gallu disgyblion i siarad Cymraeg yn amrywio'n sylweddol yn dibynnu ar ba ysgol y maent yn ei mynychu. Bydd y Bil yn mynd ati i gau’r bwlch o ran gallu disgyblion yn y Gymraeg erbyn iddynt adael yr ysgol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, Jeremy Miles: "Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac mae'r cynigion hyn yn ymwneud â rhoi cyfle tecach i blant a phobl ifanc ddod yn siaradwyr Cymraeg. Mae cefnogaeth eang i'n gweledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg, a heddiw, rydym yn cymryd cam hanfodol tuag at wireddu'r uchelgais honno.

"Fel llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i adeiladu Cymru lle mae'r Gymraeg yn ffynnu ym mhob cymuned, a lle gall pob un fod yn falch o'u treftadaeth a'u sgiliau dwyieithog neu amlieithog."

Mae'r Bil hefyd yn mynd ati i sicrhau bod addysg drochi Gymraeg ar gael ar draws Cymru.

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: "Mae ein dull o drochi dysgwyr yn y Gymraeg yn unigryw i ni yng Nghymru, ac rwy'n ymfalchïo yn yr hyn y mae ein hathrawon yn ei wneud bob dydd. Mae’r Bil yn brosiect hirdymor a byddwn yn parhau i gefnogi ein hysgolion i gyflwyno mwy o Gymraeg i'w gweithgareddau."

Mae'r gefnogaeth i ysgolion yn cynnwys gweithio gyda’r sector i gynyddu nifer yr athrawon all weithio drwy gyfrwng y Gymraeg, datblygu sgiliau iaith y gweithlu presennol, a darparu deunyddiau dysgu Cymraeg.

Dywedodd Lisa Jenkins, Uwch Bennaeth Cynorthwyol Ysgol Stanwell: “Rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr i wneud ein dysgwyr yn hyfedr yn y Gymraeg ac wedi buddsoddi'n sylweddol mewn hyrwyddo manteision dwyieithrwydd. Ers 2023 mae wedi bod yn un o'n blaenoriaethau gwella ysgol ac mae'n ffocws ar lawer o'n gwaith o ran datblygu safonau, gwerthoedd a sgiliau.

“Rydyn ni wedi addasu ein hamserlen i gynyddu nifer y gwersi Cymraeg ym Mlynyddoedd 7 ac 8 i sicrhau eu bod yn cael eu trochi yn yr iaith yn amlach ac rydym yn awyddus i recriwtio siaradwyr Cymraeg i gefnogi yn ein gweledigaeth hirdymor. Bwriad y Bil newydd hwn yw adeiladu'r sylfeini ac rydym yn cefnogi unrhyw fesurau sy'n cefnogi ysgolion i gyflawni hyn.”

Rhannodd Isabella Colby Browne, a aned yn America a symudodd i Sir y Fflint yn ifanc, ei phrofiad: “Am gyfnod fel dysgwr, roeddwn yn eiddigeddus iawn o fy ffrindiau oedd wedi mynd i ysgolion Cymraeg. Fodd bynnag, wrth fynd i ysgol Saesneg ac yna penderfynu dysgu Cymraeg yn ddiweddarach, dwi wedi cael fy mhrofiad unigryw a chyffrous fy hun o ddysgu’r iaith."

Mae'r Bil yn cyflwyno dull safonol ar gyfer disgrifio gallu yn y Gymraeg i bobl o bob oed, cam sydd wedi ei groesawu gan arweinwyr busnes. Dywedodd Siân Goodson, Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni chwilio gweithredol Goodson Thomas, "Rydym yn cydnabod gwerth galluogi pobl ifanc i fod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus erbyn iddynt adael yr ysgol. Rydym yn aml yn cael sgyrsiau gydag ymgeiswyr sy'n tanamcangyfrif eu sgiliau iaith ac yn gweithio gyda nhw i bontio'r bwlch rhwng eu galluoedd canfyddedig â disgwyliadau ein cleientiaid.”

Nodiadau i olygyddion

 

Dyfyniadau llawn:

Lisa Jenkins, Uwch Bennaeth Cynorthwyol Ysgol Stanwell:  “Rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr i wneud ein dysgwyr yn hyfedr yn y Gymraeg ac wedi buddsoddi'n sylweddol mewn hyrwyddo manteision dwyieithrwydd. Ers 2023 mae wedi bod yn un o'n blaenoriaethau gwella ysgol ac mae'n ffocws ar lawer o'n gwaith o ran datblygu safonau, gwerthoedd a sgiliau. Rydyn ni wedi addasu ein hamserlen i gynyddu nifer y gwersi Cymraeg ym Mlynyddoedd 7 ac 8 i sicrhau eu bod yn cael eu trochi yn yr iaith yn amlach ac rydym yn awyddus i recriwtio siaradwyr Cymraeg i gefnogi yn ein gweledigaeth hirdymor.

“Mae ein hathrawon Cymraeg ymroddedig yn gweithio gyda'n hysgolion bwydo cynradd ar hyn o bryd i gyflwyno gwersi Cymraeg i ddisgyblion Blwyddyn 6 yn eu hysgolion i ddatblygu hyder a geirfa.

“Rydyn ni wedi llwyddo i ennill Gwobrau Siarter Iaith Efydd, Arian ac Aur a byddwn yn parhau i sicrhau bod gan ein dysgwyr y sgiliau a'r hyder angenrheidiol i gyfrannu at y gymuned leol a’r gymuned fyd-eang. Bwriad y Bil newydd hwn yw adeiladu'r sylfeini ac rydym yn cefnogi unrhyw fesurau sy'n cefnogi ysgolion i gyflawni hyn.”

Isabella Colby-Browne: “Am gyfnod fel dysgwr, roeddwn yn eiddigeddus iawn o fy ffrindiau oedd wedi mynd i ysgolion Cymraeg. Fodd bynnag, wrth fynd i ysgol Saesneg ac yna penderfynu dysgu Cymraeg yn ddiweddarach, dwi wedi cael fy mhrofiad unigryw a chyffrous fy hun o ddysgu’r iaith. Fy mhrif ffurf o ddysgu yw trwy wersi wythnosol ar-lein gyda Dysgu Cymraeg Ar-lein, yn ogystal â thaith gyffrous i Nant Gwrtheyrn ar gyfer cwrs preswyl canolradd. Roedd y sesiynau hyn i gyd am ddim i mi oherwydd roeddwn i dan bump ar hugain oed, ac rwy’n teimlo’n hynod fendigedig am y profiadau a’r cyfleoedd a gynigiwyd i mi. Ar ôl ennill y Medal Bobi Jones yn Eisteddfod yr Urdd, teimlaf fod fy ngwaith caled wedi talu ar ei ganfed ac ni allaf aros i weld beth sydd nesaf.” 

Siân Goodson, Goodson Thomas: "Fel cwmni chwilio gweithredol dwyieithog wedi’i leoli yng Nghymru, rydym yn cydnabod gwerth galluogi pobl ifanc i fod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus erbyn iddynt adael yr ysgol. Rydym yn aml yn cael sgyrsiau gydag ymgeiswyr sy'n tanamcangyfrif eu sgiliau iaith ac yn gweithio gyda nhw i bontio'r bwlch rhwng eu galluoedd canfyddedig â disgwyliadau ein cleientiaid.

Gyda dros hanner ein tîm yn rhugl yn y Gymraeg, mae’r iaith yn agwedd sylfaenol o’n gwaith a’n diwylliant ac rydym yn ymroddedig i weithio gyda sefydliadau ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yng Nghymru i sicrhau bod eu hanghenion ieithyddol yn cael eu diwallu’n effeithlon."

Cynnwys y Bil

  • Darparu sail statudol ar gyfer y targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn ogystal â thargedau eraill sy'n ymwneud â defnyddio'r iaith, gan gynnwys yn y gweithle ac yn gymdeithasol;
  • Sefydlu dull safonol ar gyfer disgrifio gallu yn y Gymraeg yn seiliedig ar lefelau cyfeirio cyffredin Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar Ieithoedd;
  • gwneud darpariaeth ynghylch dynodi categorïau iaith statudol ar gyfer ysgolion, ynghyd â gofynion ar gyfer faint o addysg Gymraeg a ddarperir (gan gynnwys y lleiafswm), a nodau dysgu Cymraeg sydd ynghlwm wrth y categorïau;
  • Cysylltu'r cynllunio iaith a wneir ar lefel genedlaethol (drwy osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg), ar lefel awdurdod lleol (drwy osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynhyrchu Cynlluniau Strategol Lleol Cymraeg mewn Addysg), ac ar lefel ysgol (drwy osod dyletswydd ar ysgolion i gynhyrchu cynlluniau darparu addysg Gymraeg);
  • Bydd sefydlu corff statudol, y Sefydliad Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, yn gyfrifol am gefnogi pobl (o bob oed) i ddysgu Cymraeg.

Ymgynghori

  • Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad 12 wythnos ar y cynigion ar gyfer Bil Addysg Cymru 27 Mawrth – 16 Mehefin 2023.
  • O'r 583 ymateb i'r ymgynghoriad, roedd y rhan fwyaf yn gyffredinol gadarnhaol o'r cynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg.
  • Ar 21 Chwefror 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru grynodeb o ymatebion.

Y camau nesaf

  • Bydd y Bil yn mynd trwy broses graffu'r Senedd tan Haf 2025.