English icon English

Cymru yn dathlu 'cyrchfan numéro un' ar gyfer allforion bwyd a diod gydag arddangosfa goginio Ffrengig

Wales celebrates ‘destination numéro un’ for food and drink exports with French culinary showcase

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi Ffrainc fel 'cyrchfan numéro un' ar gyfer allforion bwyd a diod o Gymru mewn dathliad bwyd yn Lyon.

Mewn diwydiant sy'n werth £150 miliwn i economi Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno â Hybu Cig Cymru, Arloesi Bwyd Cymru a chwmnïau bwyd a diod o Gymru i gynnal digwyddiad arddangos blasus fel rhan o'u presenoldeb yn Ffrainc yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd a menter 'Cymru yn Ffrainc' Llywodraeth Cymru.

Mae Cymru yn Ffrainc yn ddathliad dros flwyddyn o ddigwyddiadau diwylliannol, busnes a chwaraeon sydd wedi'u cynllunio i gryfhau'r cysylltiadau presennol a meithrin cysylltiadau newydd rhwng y ddwy wlad. 

Daeth y digwyddiad heddiw [dydd Llun 25 Medi], a gynhaliwyd yn y Cite Internationale de la Gastronomie yn Lyon, â'r gorau o ddoniau bwyd, coginio a diwylliannol Cymru at ei gilydd, gan gynnwys cynhyrchwyr fel Distyllfa Penderyn, Snowdonia Cheese Company a Cwm Farm Charcuterie.

Lyon yw un o brif ddinasoedd Llywodraeth Cymru yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd diolch i ganolfan fwyd byd-eang y rhanbarth a’i statws fel ail ddinas Ffrainc. Mae'r ardal hefyd yn adnabyddus am ei gwerthoedd tebyg i Gymru gyda phwyslais ar gynhwysiant, amrywiaeth a chynaliadwyedd.

Mae Ffrainc nid yn unig y gyrchfan uchaf ar gyfer allforion bwyd a diod Cymru, ond hi hefyd yw ail fuddsoddwr mewnol mwyaf Cymru a'r bedwaredd gyrchfan allforio fwyaf ar gyfer nwyddau. Mae tua 81 o fusnesau o Ffrainc yng Nghymru yn cyflogi dros 10,000 o bobl.

Llywyddodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans dros y digwyddiad, oedd yn cynnwys:

  • Danteithion blasus: cafwydd arddangosfa o lu o stondinau o ystod eang o gynhyrchion bwyd o Gymru sydd wedi cyrraedd y bwrdd bwyd yn Ffrainc. O gawsiau i gigoedd, cafodd y rhai oedd yn bresennol gyfle i flasu a dysgu am y bwydydd gwych hyn.
  • Arddangosfeydd coginio: arddangosfa coginio byw, dan arweiniad y cogydd talentog o Gymru, Elwen Roberts.
  • Celfyddydau diwylliannol: perfformiadau gan gôr yr Urdd, Cor Hafodwenog, a'r grŵp dawns cyfoes Qwerin - y ddau yn dangos amrywiaeth gyfoethog diwylliant Cymru.

Meddai’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:

"Mae'r arddangosfa hon nid yn unig yn ddathliad o'n diwydiant bwyd a diod ffyniannus ond hefyd yn dyst i'r cysylltiadau cryf rhwng Cymru a Ffrainc. Mae'n gyfle i flasu Cymru a chreu cysylltiadau parhaol a fydd yn gwneud mwy i wella ein hallforion."

Bydd Llywodraeth Cymru yn bresenol mewn amrywiol weithgareddau diwylliannol yn Ffrainc drwy gyfnod Cwpan Rygbi'r Byd, wrth i drydydd digwyddiad chwaraeon mwyaf y byd gael ei gynnal yn y wlad tan ddiwedd mis Hydref.