Cymru’n dechrau rhoi brechiadau atgyfnerthu ar gyfer y gwanwyn o'r wythnos hon
Spring rollout of boosters begins in Wales this week
Mae brechiadau atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn yn cael eu cyflwyno yng Nghymru o'r wythnos hon.
Yn y cyfnod diweddaraf hwn o’r rhaglen frechu bydd pobl dros 75 oed, pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal ac unigolion 12 oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan yn cael gwahoddiad i fynd am eu brechiad atgyfnerthu.
Yn ogystal, bydd pant 5 i 11 oed yn dechrau cael cynnig eu brechlyn cyntaf o heddiw ymlaen hefyd. Bydd angen i rieni a gwarcheidwaid roi caniatâd iddyn nhw gael y brechlyn.
Mae byrddau iechyd ledled Cymru wedi bod yn cynllunio ar gyfer cyfnod diweddaraf y rhaglen frechu ers sawl mis.
Mae pawb sy’n gymwys am frechiad atgyfnerthu yn y gwanwyn yn cael eu hannog i aros am eu gwahoddiad gan eu bwrdd iechyd neu eu meddyg teulu.
Daw hyn ar ôl i Eluned Morgan dderbyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) i roi brechiad atgyfnerthu arall i bobl sy’n wynebu risg uwch o gael COVID-19 difrifol.
Cynghorir brechiad atgyfnerthu yn y gwanwyn oddeutu 6 mis ar ôl y dos diwethaf o’r brechlyn i gynnal lefelau uchel o imiwnedd ar gyfer y rheini y bernir eu bod yn fwyaf agored i niwed.
Mae byrddau iechyd hefyd yn cynnig apwyntiadau i blant 5 i 11 oed ar gyfer eu brechlyn cyntaf. Dyma gynnig rhagofalus i gynyddu eu himiwnedd yn erbyn COVID-19 difrifol cyn ton bosibl yn y dyfodol ac i amharu cyn lleied ag sy’n bosibl ar eu haddysg.
Bydd y rhan fwyaf o blant 5 i 11 oed yn cael cynnig dau ddos o’r brechlyn, 12 wythnos ar wahân.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: “Mae’n bwysig ein bod yn cynnal lefelau uchel o amddiffyniad rhag COVID-19 a bod pawb sy’n cael cynnig brechiad atgyfnerthu yn y gwanwyn yn derbyn y gwahoddiad.
“Rydym yn dilyn y cyngor diweddaraf gan JCVI a byddem yn annog pawb sy’n gymwys i aros i gael cynnig eu brechiad atgyfnerthu yn y gwanwyn.”
Nodiadau i olygyddion
JCVI statement advice for spring boosters: https://www.gov.uk/government/news/jcvi-advises-a-spring-covid-19-vaccine-dose-for-the-most-vulnerable
JCVI advice for vaccinating 5-11s: https://www.gov.uk/government/publications/jcvi-update-on-advice-for-covid-19-vaccination-of-children-aged-5-to-11/jcvi-statement-on-vaccination-of-children-aged-5-to-11-years-old