English icon English

Cynllun adfywio Casnewydd gwerth £17m diolch i Trawsnewid Trefi

Newport’s £17m regeneration thanks to Transforming Towns

O stondinau marchnad dan do ac arcedau siopa i amgueddfa a chanolfan hamdden fodern, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi gweld drosti ei hun sut mae £17m o gyllid Trawsnewid Trefi wedi'i ddefnyddio yng Nghasnewydd.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi derbyn y cyllid ers 2018 trwy'r rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio (TRI) a'r rhaglen Trawsnewid Trefi (TT).

Yn ystod yr ymweliad, gwelodd y Gweinidog sawl prosiect drosti ei hun gan gynnwys:

  • Y farchnad dan do newydd a gefnogir gan fenthyciad TRI o £2m
  • Y Llyfrgell Ganolog a'r Amgueddfa lle cwblhawyd gwaith adnewyddu ym mis Chwefror diolch i £1.3m o gyllid TT
  • Canolfan Hamdden a Lles Casnewydd gyda chymorth grant TT gwerth £7m
  • Tŵr y Siartwyr, sydd wedi ei drawsnewid yn westy pedair seren diolch i fwy na £600k o gyllid TRI
  • Yr Arcêd Farchnad restredig Gradd II sydd wedi'i hailddatblygu gyda £1.2m o gyllid grant TT

Wrth siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: "Roedd yn wych ymweld â Chasnewydd i weld yr effaith gadarnhaol y mae cyllid wedi'i chael ar ganol y ddinas.

"Rydym am i ganol trefi a dinasoedd ledled Cymru fod yn galon i gymunedau Cymru, lle gall pobl gael mynediad at wasanaethau, siopau, gofod cymunedol a diwylliannol.

"Mae adfywio canol ein trefi yn gymhleth a dim ond os oes gennym ddealltwriaeth ar y cyd o'r materion sy'n eu hwynebu fydd hyn yn digwydd. Mae'r rhain yn cynnwys y cynnydd mewn datblygiadau y tu allan i'r trefi sy'n dibynnu ar drafnidiaeth ceir preifat, y twf mewn siopa ar-lein, a thynnu gwasanaethau hanfodol yn ôl.

"Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi wedi'i chynllunio i helpu i wrthdroi'r dirywiad hwn, gyda £125 miliwn dros dair blynedd i ailgreu trefi ledled Cymru."