English icon English
Jeremy Miles Colin Williams-2

Dathlu cyfraniad Yr Athro Emeritws Colin H. Williams i bolisi iaith

Celebrating Professor Emeritus Colin H. Williams’ contribution to language policy

Ddydd Iau 8 Chwefror daeth arbenigwyr rhyngwladol ynghyd i drafod llwyddiannau a heriau gwarchod ieithoedd lleiafrifol, ac i ddiolch i’r Athro Emeritws Colin H Williams am ei gyfraniad i bolisi iaith.

Roedd y digwyddiad, Arloesi ac Arfer Da mewn Polisi Iaith, yn gyfle i siaradwyr o Gymru, Iwerddon, yr Alban, Gwlad y Basg, Catalwnia a Chanada drafod profiadau a syniadau am feysydd amrywiol fel trosglwyddo iaith, hyrwyddo, deddfu, a’r heriau i wleidyddion a chymdeithas yn ehangach.

Trefnwyd y gynhadledd ar y cyd rhwng Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru ac Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: “Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth glir ar gyfer y Gymraeg, a chynlluniau arloesol i droi’r weledigaeth yna’n realiti. Roedd y gynhadledd yn gyfle i ni rannu ein profiadau, i wrando ac i ddysgu gwersi gan wledydd eraill.

“Roedd yn gyfle hefyd i ni ddod at ein gilydd i ddiolch am gyfraniad sylweddol yr Athro Emeritws Colin H Williams i bolisi iaith, a hynny gerbron cynulleidfa Gymreig a rhyngwladol. Mae gwaith ymchwil a chyngor doeth Colin wedi bod yn amhrisiadwy ac mae bob amser yn barod i helpu ac i herio’n adeiladol.”

Dywedodd Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, Dr Dylan Foster Evans: “I ni yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, mae arbenigedd, haelioni a chefnogaeth yr Athro Colin H. Williams yn ysbrydoliaeth ddyddiol. Roedd y gynhadledd hon yn gyfle i weld a gwerthfawrogi effaith y rhinweddau hynny ar gydweithwyr a chyfeillion ledled y byd. Roedd yn fraint cael bod yn rhan o ddigwyddiad i anrhydeddu Colin, a’i gyfraniadau yntau i’r trafodaethau yn graff, yn fentrus ac yn arloesol, fel o hyd. Mae heriau o’n blaenau ni oll yn ein gwahanol feysydd, ond mae Colin yn ein hysbrydoli ni oll i’w hwynebu â hyder.”

Dywedodd Dr Ane Ortega o’r prosiect Equiling yng Ngwlad y Basg: “Un o’r pethau mae ymchwilwyr ac ymgyrchwyr ieithoedd lleiafrifol wedi’i ddysgu yw pa mor bwysig yw cydweithio, dysgu oddi wrth ein gilydd, dychmygu ffyrdd newydd o wneud pethau, a rhoi cefnogaeth i’n gilydd. Mae’r Athro Colin Williams yn gredwr mawr yn hyn, ac mae ei holl ymweliadau â rhannau eraill o’r byd a’i ysgrifennu helaeth yn brawf o hynny. Nid ar gyfer y Gymraeg yn unig y mae ei waith - mae ar gyfer pob iaith leiafrifol, a thrwy hynny’n arwain at greu byd mwy cyfartal.

“Roedd yn fraint cymryd rhan yn y gynhadledd er anrhydedd i Colin, ac i ddangos y parch a’r diolchgarwch sydd gennym ni fel Basgwyr iddo. Eskerrik asko bihotz bihotzez, Colin!”

Dywedodd Dr Maite Puigdevall Serralvo o Brifysgol Agored Catalwnia: "Roedd y gynhadledd yn ddathliad o gyfraniad rhagorol a pharhaus yr Athro Emeritws Colin Williams i hyrwyddo polisi iaith yng Nghymru ac mewn llawer o gymunedau ieithoedd lleiafrifol eraill yn Ewrop ac ar draws y byd. Roedd y gynhadledd yn adlewyrchu’r ffordd y bu’n gweithio yn ystod ei yrfa hir wrth chwilio am ymyriadau arfer gorau a allai gryfhau a hyrwyddo polisïau ac arferion mewn cyd-destunau ieithoedd lleiafrifol eraill.

"Ond i mi, y peth pwysicaf oedd dod at ein gilydd i ddangos parch a chariad gan fyfyrwyr, ffrindiau, cydweithwyr a theulu tuag at waddol ei waith a’r effaith bersonol y mae ei fentora, anogaeth, haelioni a’i gefnogaeth wedi’i chael ar gynifer ohonom. Dyma’r ffordd orau i ddweud diolch i Colin am yr hyn mae wedi’i wneud i ni i gyd, y cyfraniad academaidd, gwleidyddol ond hefyd y cyfraniad personol."

Nodiadau i olygyddion

Roedd Colin Williams ymhlith disgyblion cyntaf Ysgol Gyfun Rhydfelen. Yn dilyn gyrfa fel darlithydd ac Athro yn Adran Daearyddiaeth Prifysgol Swydd Stafford, ac wedyn fel ymchwilydd ar brosiect Gwyddoniadur Pobl Canada, ‘Multicultural History Society’ ym Mhrifysgol Toronto, Canada,  penodwyd yn Athro yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, yn 1994. Yn ddiweddar, cafodd ei benodi’n Athro Emeritws Prifysgol Caerdydd. Mae’n gymrawd Sefydliad Von Hügel, Prifysgol Caergrawnt. Mae wedi’i ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Ymhlith ei ymchwil, mae prosiectau sy’n cymharu Comisiynwyr Iaith Ewrop a Chanada; mae hefyd wedi cynnal astudiaeth o strategaethau iaith yng Nghanada ac Ewrop. Bu’n un o brif awduron yr Adroddiad From Act to Action a oedd yn ymwneud â gweithredu deddfwriaeth polisi iaith. Bu’n Aelod o Bwyllgor Gwyddonol Lingua Mon, Barcelona, 2007–2013. Bu’n un o 6 arbenigwr byd-eang i lywio strategaeth 20 mlynedd y Wyddeleg. Bu’n Aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg gynt.