Deddf newydd yn rhoi rhyddid sylfaenol yn y fantol – Y Cwnsler Cyffredinol
New legislation puts fundamental freedoms at risk – Counsel General
Mae prif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio'r Senedd bod Deddf Trefn Gyhoeddus Llywodraeth y DU yn rhoi’r rhyddid sydd wedi bod gan bobl yn y gorffennol i brotestio’n heddychlon yn y fantol.
Dywedodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, mewn datganiad fod y pwerau newydd yn llaw drwm ac yn llym, a bod perygl y gallent ddifetha ffydd pobl mewn plismona.
Mae'r Ddeddf Trefn Gyhoeddus yn rhoi pwerau ychwanegol i'r heddlu i atal protestiadau sy'n cael eu gweld yn rhy dreisgar neu sy'n amharu ar bobl eraill yn ormodol. Mae hyn yn cynnwys troseddau newydd sy'n ymwneud â ‘chloi’n sownd’, ehangu'r defnydd o bwerau stopio a chwilio, a chyflwyno gorchmynion newydd yn gwahardd protestio, sy'n gallu atal pobl rhag mynd i brotestiadau.
Daeth y Ddeddf hon yn gyfraith yn y dyddiau cyn coroni'r Brenin, ac mae'r Heddlu Metropolitanaidd wedi cyfaddef na ddylai fod wedi arestio chwe phrotestiwr, a gafodd eu harestio er gwaethaf y ffaith nad oedd unrhyw dystiolaeth eu bod yn bwriadu defnyddio dyfeisiau ‘cloi’n sownd’.
Mae nifer o sefydliadau wedi beirniadu'r Ddeddf, gan gynnwys Amnest Rhyngwladol, Liberty a Big Brother Watch. Mae Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol Senedd y DU a Chomisiynydd Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig hefyd wedi mynegi pryderon y byddai'r Ddeddf yn peryglu'r hawl sylfaenol i ymgymryd â phrotestio heddychlon.
Mater a gedwir yn ôl gan Senedd y DU yw plismona, ac mae'r heddlu yn gweithredu yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, cadarnhaodd Mick Antoniw y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda heddluoedd i fonitro effaith y Ddeddf Trefn Gyhoeddus yng Nghymru.
Dywedodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad:
“Mae'r Ddeddf Trefn Gyhoeddus yn rhoi'r hawl sylfaenol i brotestio’n heddychlon yn y fantol. Mae rhyddid a hawliau hanesyddol gan bobl i godi llais yn erbyn awdurdod, i ddweud eu dweud ac i ddadlau dros newid.
“Mae amrywiaeth o bwerau gan yr heddlu eisoes i gymryd camau yn erbyn protestiadau sy'n dreisgar neu sy'n amharu ar bobl eraill yn ormodol. Byddai wedi bod yn well dod o hyd i ffyrdd o helpu i sicrhau bod pwerau presennol yn cael eu defnyddio mewn modd cymesur. Ond yn lle hynny, mae pwerau newydd ac eithafol yn cael eu cyflwyno, sy'n raddol danseilio'r hawl i brotestio’n heddychlon.
“Rwy'n poeni'n arbennig am ehangu'r pwerau i stopio a chwilio – mae heddluoedd eisoes yn defnyddio'r pŵer hwn yn anghymesur yn achos cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.”
Aeth y Cwnsler Cyffredinol ymlaen i ddweud:
“Mae'r darpariaethau yn y Ddeddf Trefn Gyhoeddus – darpariaethau sy’n cynrychioli cam yn ôl ac sydd wedi eu gorfodi ar bobl Cymru gan Lywodraeth y DU – yn dangos yn glir pam mae angen brys i ddatganoli plismona a chyfiawnder troseddol. Dim ond pan fydd rheolaeth dros y system gyfiawnder yng Nghymru yn ein dwylo ni'n gyfan gwbl y bydd modd inni sicrhau ei bod yn gweithio mewn ffordd sy'n gydnaws yn llawn ag anghenion a blaenoriaethau pobl a chymunedau Cymru.”