English icon English
Long Course Weekend - 29072019 HF-235 - credit Activity Wales-2

Digwyddiadau cyffrous ar y gweill: Llywodraeth Cymru yn cefnogi Love Trails, Gŵyr, Long Course Weekend, Sir Benfro a Marathon Llwybr Eryri

Lots to see and do: Welsh Government supporting Love Trails, Gower, Long Course Weekend, Pembrokeshire and Snowdonia Trail Marathon

Mae Llywodraeth Cymru, drwy Digwyddiadau Cymru, yn cefnogi haf o ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon cyffrous ledled y wlad, yn erbyn tirweddau eiconig Cymru.

Mae Gŵyl Love Trails yn dod yn ôl i Benrhyn Gŵyr y penwythnos hwn. Mae Penrhyn Gŵyr yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, a dyma ŵyl redeg a cherddoriaeth gyntaf y byd, sy’n cynnig rhaglen lawn o weithgareddau fel arforgampau, ioga, syrffio a cherddoriaeth fyw dros bedwar diwrnod.

Long Course Weekend yw’r digwyddiad aml-chwaraeon mwyaf yn Ewrop. Mae’n cynnwys marathon, nofio yn y dŵr agored a rhedeg pellteroedd hir. Mae’n denu dros 12,000 o athletwyr a 36,000 o gefnogwyr o 44 gwlad, i gystadlu yn Ninbych y Pysgod, Sir Benfro dros dri diwrnod y penwythnos hwn.

Yn dechrau ar 10 Gorffennaf, am ddau ddiwrnod, mae Marathon Eryri XTERRA yn cynnal Marathon Llwybr, Marathon Eithafol, Hanner Marathon a Ras 10k, gan ddechrau ym mhrif ganolfan awyr agored y wlad, Llanberis, ar odre’r Wyddfa.

Rhoddodd pandemig COVID stop ar bob digwyddiad wyneb yn wyneb. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, a chyda chymorth na welwyd mo’i debyg o’r blaen gan y Gronfa Adferiad Diwylliannol, mae’r wlad wedi adfer ac yn barod i groesawu’r byd yn ôl.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Rwyf wrth fy modd yn gweld y  tri digwyddiad gwych hyn yn cael eu cynnal yn ein gwlad dros yr wythnosau nesaf. 

“Wrth inni adfer o bandemig COVID, mae Cymru yn dychwelyd i’w chapasiti llawn ar gyfer cynnal digwyddiadau, ac mae’r digwyddiadau gwahanol iawn hyn yng Ngŵyr, Sir Benfro a Gwynedd yn dangos hynny.

“Yn ystod y pandemig, bu Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r sector digwyddiadau, ac rydyn ni’n parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau nid yn unig mae’r sector yn goroesi yn dilyn y ddwy flynedd diwethaf, ond ei fod yn ffynnu yn y dyfodol hefyd.

“Pob lwc i bawb sy’n cystadlu yn y rasys y penwythnos hwn, a chroeso’n ôl i’r holl wylwyr!”

Dywedodd Tim Lloyd, Cyfarwyddwr Always Aim High Events, sydd wedi trefnu’r Marathon Llwybr Eryri XTERRA:

“Marathon Llwybr Eryri XTERRA yw un o’n digwyddiadau mwyaf y flwyddyn, ac rydyn ni wrth ein boddau’n dod yn ôl i Lanberis – dyma ein cartref ni.

“Fel ein holl ddigwyddiadau, rydyn ni wir yn ceisio arddangos y lleoliad drwy chwaraeon. Mae dathlu’r diwylliant, yr hanes a’r iaith yn bwysig inni, ac mae’n rhan hanfodol o’n hymdrechion parhaus i gefnogi’r economi lleol a chymunedau lleol. Rydyn ni’n dwlu ar y digwyddiad hwn ac mae’n wych yn ei weld yn mynd o nerth i nerth bob blwyddyn. 

“Hoffen ni hefyd ddiolch i Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru am eu cymorth parhaus – yn ogystal â’r gymuned leol yn Llanberis.”

Nodiadau i olygyddion

According to latest figures from 2019, events supported through Event Wales attracted 200,000 visitors to Wales which generated £33.35 million in direct economic impact/net additional spend into Wales and supported more than 770 jobs in the wider tourism economy.

During the pandemic, the Cultural Recovery Fund from the Welsh Government provided more than £108 million of financial support to the cultural, creative, events and sport sectors.