English icon English
Building safety pic-2

Galw am ddull gweithredu ledled y DU o ran diogelwch adeiladau

Calls for a UK-wide approach to building safety

Mae Julie James, y Gweinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd, wedi galw o'r newydd am ddull ledled y DU o ddiogelu adeiladau wrth iddi nodi'r cynnydd y mae Cymru wedi'i wneud o ran cywiro diffygion mewn adeiladau yng Nghymru.

Galwodd heddiw ar Lywodraeth y DU i ymestyn ei haddewid i ddatblygwyr yn Lloegr yn unig, sy'n ymrwymo datblygwyr i atgyweirio adeiladau yr oeddent yn ymwneud â'u datblygu, i weddill y DU.

Rhybuddiodd y Gweinidog fod y "dull unochrog" presennol o ymdrin â diogelwch adeiladau yn ei gwneud yn anos sicrhau bod datblygwyr yn cymryd eu cyfrifoldebau i gyfrannu at gostau datrys materion diogelwch adeiladau yng Nghymru o ddifrif.

Mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi £375m tuag at atgyweirio materion a nodwyd yn gysylltiedig â diogelwch adeiladau.

Mae Cymru'n mabwysiadu "dull adeilad cyfan" o ymdrin â diogelwch adeiladau ac mae wedi ymrwymo i gywiro materion ehangach yn gysylltiedig â diogelwch tân – nid dim ond problemau cladin.

Mewn datganiad i Aelodau'r Senedd heddiw, dywedodd Julie James: "Rydym yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gywiro diffygion o ran diogelwch adeiladau – heb i'r costau hyn gael eu trosglwyddo i lesddeiliaid – ac i ddiwygio cyfraith diogelwch adeiladau. Ond mae llawer o bethau y gall ein llywodraethau eu gwneud i wella diogelwch adeiladau ledled y DU.

"Roeddwn felly'n siomedig iawn pan gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Ffyniant Bro a Chymunedau, Michael Gove addewid datblygwyr i Loegr yn unig fis diwethaf.

"Mae Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth yr Alban dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Llywodraeth Leol a Thai, Shona Robison a minnau wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i fabwysiadu ymagwedd y DU gyfan at yr addewid. 

"Mae dull unochrog Llywodraeth y DU tuag at faterion diogelwch adeiladau yn ei gwneud yn anos sicrhau bod pob datblygwr yn cymryd ei gyfrifoldebau i gyfrannu tuag at gostau datrys problemau diogelwch adeiladau yng Nghymru o ddifrif.

"Mae'n llesteirio ein gallu i ddwyn datblygwyr a gweithgynhyrchwyr i gyfrif i gywiro eu camgymeriadau ac mae'n mynd yn groes i'r Adolygiad diweddar o Gysylltiadau Rhynglywodraethol.

"Mae hefyd yn creu mwy o ddryswch i drigolion ar adeg pan fo angen cysondeb ac eglurder arnynt."  

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cyfarfodydd parhaus gyda Llywodraeth y DU ynghylch diogelwch adeiladau ac mae'n parhau i bwyso i:

  • Newid yn y llythyrau addewid gyda datblygwyr ac yn y cytundebau cyfreithiol manwl i sicrhau ymrwymiad cyfatebol a chymesur i hunan-adfer ledled y DU.
  • Dylai Llywodraeth y DU ddyblu ei hymdrechion i gyflwyno cynllun yswiriant indemniad proffesiynol credadwy, fforddiadwy i'r DU gyfan eleni a chomisiynu gwaith i greu cynllun yswiriant cydymaith ar gyfer ardystio gwaith adfer, sy'n cynnwys agweddau perthnasol ar ddiogelwch tân.
  • I’r Ardoll Diogelwch Adeiladau gael ei hymestyn ar draws y DU.
  • Cymorth gan yr Ysgrifennydd Gwladol Michael Gove i geisio cyllid cyfalaf ac adnoddau ychwanegol gan Drysorlys EM ar gyfer diogelwch adeiladau.

Mae'r Gweinidog hefyd yn ysgrifennu at randdeiliaid i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am hynt y gwaith atgyweirio sydd ar y gweill ledled Cymru.

"Mae ein rhaglen atgyweirio yn mynd y tu hwnt i osod cladin allanol yn lle'r hen rai. Mae'n cynnwys systemau compartmenteiddio, rhybuddion tân a gwacáu a llethu," meddai.

"Mae'r dull adeiladau cyfan hwn yn rhoi diogelwch pobl yn gyntaf ond mae'n fwy cymhleth nag un sy'n delio â cladin yn unig. Mae hefyd yn ddrutach.

"Rydym wedi clustnodi £375m dros y tair blynedd nesaf i fuddsoddi mewn gwaith atgyweirio - mae hyn ddwywaith cyfran y boblogaeth i'r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi’i ddatgan ei bod yn bwriadu ei wario mewn ardaloedd cyfatebol yn Lloegr o fewn y cyfnod hwn.

"Wrth wraidd ein dull gweithredu mae'r gred sylfaenol y dylai datblygwyr gyfrannu tuag at gostau datrys y problemau hyn. Ni ddylai lesddeiliaid a thrigolion orfod talu'r bil."