£25m i gychwyn prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd Cymru
£25m to kick-start free school meals for all primary school children in Wales
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod £25m yn cael ei fuddsoddi yng ngheginau a neuaddau bwyta ysgolion fel rhan o gynlluniau i gyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd Cymru.
Mae’r polisi yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, a fydd yn ymestyn prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd dros y tair blynedd nesaf.
O fis Medi, bydd rhai o blant ieuengaf ysgolion cynradd yn dechrau cael prydau ysgol am ddim wrth i’r polisi gael ei gyflwyno’n raddol.
Gan weithio gydag ysgolion ac awdurdodau lleol, bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i gynllunio a pharatoi’r seilwaith sydd ei angen i bob disgybl cynradd gael prydau ysgol am ddim erbyn Medi 2024.
Mae cyllid refeniw o hyd at £200m wedi’i neilltuo i awdurdodau lleol gyflawni’r ymrwymiad - £40m i’w ddarparu yn 2022-23, £70m yn 2023-24 a £90m yn 2024-25.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:
“Gyda’n gilydd, rydyn ni wedi ymrwymo ar y cyd i sicrhau na fydd un plentyn yng Nghymru yn llwgu, ac y bydd pob plentyn yn ein hysgolion cynradd yn cael pryd ysgol am ddim.
“Rydyn ni’n wynebu argyfwng costau byw na welwyd ei debyg. Rydyn ni’n gwybod bod plant iau yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi incwm cymharol, a dyna pam mai ein dysgwyr ieuengaf fydd y cyntaf i elwa.
“Mae’r argyfwng costau byw yma yn cael ei deimlo gan deuluoedd ar draws Cymru - mae ymestyn cwmpas prydau ysgol am ddim yn un o nifer o fesurau rydyn ni’n eu cymryd i gefnogi teuluoedd drwy’r cyfnod anodd yma.”
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price:
“O siarad gyda rhieni eraill, mae’n glir iawn bod angen cymaint o gefnogaeth ar deuluoedd gyda chostau byw ag sy’n bosibl, yn enwedig o ystyried yr heriau ariannol ychwanegol mae pobl yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn dechrau’r broses o roi polisi ar waith a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i lawer ar hyd a lled y wlad. Mae’n gam pwysig tuag at gyflawni un o’n prif addewidion yn y Cytundeb Cydweithio, ac yn enghraifft o sut mae cydweithio cadarnhaol yn gwneud gwahaniaeth i bobl ar lawr gwlad.
“Mae’r arian gyfalaf newydd hwn yn cefnogi cychwyn y broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd. Mae hefyd yn rhan o agenda ehangach i ddefnyddio’r grymoedd sydd gyda ni yng Nghymru i fynd i’r afael â thlodi plant, sy’n effeithio ar draean o’n plant. Bydd cael gwared ar y stigma sy'n gysylltiedig â chael cinio am ddim yn golygu bod plant yn cael pryd o fwyd iach yn ystod cam ffurfiannol yn eu datblygiad - all plant sydd eisiau bwyd ddim dysgu na chyflawni eu gwir botensial. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n gweithredu dros Gymru ac yn gwneud gwahaniaeth.”