English icon English

Goroeswyr 'therapi trosi' ymhlith grŵp arbenigol sy'n helpu i gynghori Llywodraeth Cymru ar gamau i wahardd yr arfer "ffiaidd" yng Nghymru

Survivors of ‘conversion therapy’ among expert group helping advise Welsh Government on actions to ban “abhorrent” practice in Wales

Heddiw (dydd Mawrth, 17 Ionawr) cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn y bydd grŵp o arbenigwyr yn gweithio gyda'i gilydd i gynghori Llywodraeth Cymru ar gamau i wahardd arferion trosi yng Nghymru ar gyfer pob person LHDTC+.

Mae hyn yn cyflawni ymrwymiad gan y Gweinidog i ffurfio gweithgor sy'n dod â chynrychiolwyr o gymunedau ffydd, y sector iechyd a gofal cymdeithasol, a chynrychiolwyr plant a phobl ifanc at ei gilydd, ochr yn ochr â phobl LHDTC+ i gynghori ar elfennau allweddol o'r gwaith.

Mae'r aelodau'n cynnwys Jayne Ozanne, a ddioddefodd bron i 20 mlynedd o arferion trosi, a arweiniodd ati’n gorfod mynd i’r ysbyty ddwywaith.

Nawr mae'n gweithio i sicrhau bod yr holl bobl LHDTC+ yn cael eu cynnwys yn llawn, yn enwedig pobl LHDTC+ sydd â ffydd, a hi yw Sylfaenydd a Chadeirydd Cynghrair Gwahardd Therapi Trosi y DU sy'n ymgyrchu dros wahardd yr arfer yn llwyr.

Wrth gael ei gwahodd i ymuno â'r gweithgor, dywedodd Jayne:

"Rydyn ni'n gwybod bod hyn yn digwydd mewn llawer o eglwysi a grwpiau crefyddol ar draws y byd. Dyw Cymru ddim yn eithriad.

"Mae'n ffiaidd, yn niweidiol ac yn gamdriniol. Yn anffodus, mae'n drawma sy'n aros gyda chi am oes gan ei fod yn mynd at wraidd pwy ydych chi a sut rydych chi'n caru.

"Mae cynnwys pobl traws ac anneuaidd mewn gwaharddiad yn hanfodol gan fod lefel y cam-drin corfforol a cham-drin geiriol yn erbyn y gymuned draws ac anneuaidd mor ddifrifol. Mae'n arbennig o bwysig ein bod yn gweithio i ddiogelu pobl ifanc ar draws y gymuned LHDTC+ oherwydd bod y canlyniadau meddyliol mor erchyll.

"Os ydych chi'n dioddef trawma yn gymharol ifanc oherwydd rhywbeth mor sylfaenol â'ch hunaniaeth graidd, yna gall hynny fynd ymlaen i effeithio ar eich rhagolygon o ran addysg ac o ran gyrfa, eich ymdeimlad o hyder a'ch gallu i garu a chael eich caru, sy'n golygu bod perthnasoedd cadarnhaol gydol oes yn aml yn cael eu heffeithio'n ddifrifol."

Gydag uchelgais cadarn i sicrhau mai Cymru yw'r wlad fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop, llofnododd Llywodraeth Cymru a GIG Cymru 'Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth' gyda'r Gynghrair Gwahardd Therapi Trosi yn 2022.

Bydd sefydliadau sy'n llofnodi'r Memorandwm ac sy’n gweithio ym meysydd darparu neu gomisiynu iechyd meddwl neu iechyd seicolegol, fel y GIG, yn ymrwymo i sicrhau nad ydynt yn comisiynu neu'n darparu arferion trosi yng Nghymru.

Aelod arall o’r grŵp arbenigol newydd yw Ian Green sydd â mwy na 25 mlynedd o brofiad mewn rolau arwain uchel eu proffil. Dywedodd Prif Weithredwr presennol Terrence Higgins Trust:

“Fel rhywun a brofodd therapi trosi LHDT yn ddyn ifanc, rwy’n gwybod pa mor bwysig yw gwahardd yr arfer ffiaidd hwn. Nid yw bod yn lesbiad, hoyw, deurywiol neu drawsryweddol yn rhywbeth y mae angen ei newid na’i wella.

“Rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o weithgor Llywodraeth Cymru ar arferion trosi, gan chwarae rôl weithredol yn y gwaith o helpu i sicrhau bod yr arfer yng Nghymru yn cael ei wahardd.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu cyngor cyfreithiol i sefydlu'r union bwerau sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru er mwyn ceisio cael datganoli unrhyw bwerau ychwanegol sydd eu hangen i wahardd arferion trosi yn gyfan gwbl.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn:

"Dangosodd data'r Cyfrifiad yn ddiweddar fod pobl LHDTC+ yn preswylio ac yn cyfrannu ym mhob rhan o Gymru, sy'n pwysleisio ymhellach ein hymrwymiad i sicrhau bod pob cornel o'n gwlad yn lle diogel i fyw yn agored ac yn driw i’ch hunan.

"Mae arferion trosi yn ffiaidd, ac rydym wedi ymrwymo i'w gwahardd i helpu i ddiogelu pawb yn ein cymunedau LHDTC+.

"Mae aelodau o'n gweithgor yn dod â chyfoeth o brofiad, ac, mewn rhai achosion, profiad uniongyrchol o'r gofid llwyr a’r niwed difrifol y gall arferion trosi eu peri. Bydd gwybodaeth yr holl aelodau ar y cyd yn amhrisiadwy wrth i ni weithio i wahardd yr arfer gwirioneddol ddieflig hwn."