Grŵp arbenigol i gynllunio hybiau llawfeddygol newydd i leihau amseroedd aros y GIG
Expert group to plan new surgery hubs to cut NHS waiting times
- Bydd grŵp newydd o lawfeddygon, nyrsys a rheolwyr y GIG yn bwrw ati i gynllunio hyd at ddeg hwb gofal wedi’i gynllunio ledled Cymru
- Bydd yr hybiau yn cynyddu’r capasiti llawfeddygol a diagnostig ac yn diogelu gofal wedi’i gynllunio rhag pwysau argyfwng.
- Disgwylir i’r cynllun cyflawni gael ei gyhoeddi erbyn diwedd 2026.
Mae grŵp arbenigol a arweinir yn glinigol yn cael ei sefydlu i lunio cynllun cyflawni ar gyfer hyd at ddeg hwb gofal wedi’i gynllunio ledled Cymru.
Bydd hyn yn cyflawni un o gamau gweithredu allweddol cynllun 100 diwrnod cyntaf Llywodraeth newydd Cymru.
Mae’r hybiau yn ganolog i’r gwaith o fynd i’r afael â’r ôl-groniad o achosion ar y rhestrau aros a etifeddwyd gan y weinyddiaeth flaenorol. Byddant yn sicrhau bod cleifion yn gallu cael triniaethau yn gynt yn ogystal â sicrhau gwell canlyniadau ar eu cyfer.
Byddant yn cael eu sefydlu a’u gweithredu yn ystod tymor y Senedd hon.
Byddant yn cynyddu’r capasiti diagnostig a llawdriniaethau wedi’u cynllunio, yn lleihau nifer y triniaethau sy’n cael eu canslo ac yn helpu i leihau amseroedd aros hir drwy wahanu gofal wedi’i gynllunio oddi wrth bwysau argyfwng.
Bydd y gwaith o ddatblygu’r hybiau yn cael ei amlinellu mewn argymhellion i’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal erbyn diwedd y flwyddyn.
Mae’r Grŵp Arbenigol Gofal a Gynlluniwyd yn dwyn ynghyd uwch lawfeddygon, nyrsys, anesthetyddion ac arweinwyr gweithredol o bob rhan o GIG Cymru.
Y cadeirydd clinigol annibynnol fydd Rhidian Morgan-Jones, Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol newydd ymddeol sydd â phrofiad o weithio yng Nghymru a Lloegr. Ar hyn o bryd, mae ef yn un o ymddiriedolwyr etholedig Cymdeithas Orthopedig Prydain ac yn gwasanaethu ar sawl pwyllgor cenedlaethol.
Bydd yr Athro Jon Barry, Cyfarwyddwr Cymru Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn rhannu dysgu o bob cwr o’r DU.
Mae aelodau’r grŵp hefyd yn cynnwys Dr Claire R Dunstan, yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Anestheteg, Sophie O’Donovan, Nyrs Arweiniol ar gyfer Anestheteg, Gofal Critigol a Theatrau, a Corrina Casey, Cyfarwyddwr Perfformiad a Chyflawni Perfformiad a Gwella GIG Cymru.
Bydd y grŵp yn manteisio ar ddysgu o hybiau sy’n bodoli eisoes yng Nghymru yn ogystal ag arferion gorau o bob rhan o’r DU ac yn rhyngwladol.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor:
“Mae cynyddu’r capasiti diagnostig a llawdriniaethau wedi’u cynllunio a lleihau amseroedd aros hir drwy wahanu gofal wedi'i gynllunio oddi wrth bwysau argyfwng yn un o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth newydd Cymru. Ry’n ni eisoes wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth £145 miliwn i gefnogi'r nodau hyn.
“Mi fydd y grŵp arbenigol hwn yn cynllunio faint o hybiau gofal wedi’i gynllunio fydd eu hangen arnon ni, ble fyddan nhw wedi’u lleoli a sut fyddan nhw’n gwella capasiti yn y system.
“Ry’n ni am i waith cynllunio’r hybiau hyn gael ei arwain gan y bobl sy’n gwybod orau, hynny ydy, y llawfeddygon, y nyrsys a’r anesthetyddion sy’n gweithio ar y rheng flaen bob dydd.
“Mi fydd eu harbenigedd yn sicrhau ein bod yn datblygu system gofal wedi’i gynllunio sy’n wydn, yn effeithlon ac yn gweithio i gleifion ledled Cymru.”
Nodiadau i olygyddion
Chair and membership
The group is chaired by Rhidian Morgan-Jones, a recently retired Consultant Orthopaedic Surgeon
Core members include senior clinical and operational leaders from across NHS Wales, spanning surgery, orthopaedics, spinal care, ophthalmology, anaesthetics, gastroenterology, diagnostics and nursing:
Gethin Hughes, Chief Operating Officer, Cwm Taf Morgannwg University Health Board, Sharron Price (Group Nurse Director, SBUHB), Sophie O'Donovan (Lead Nurse, Anaesthetics, Critical Care & Theatres, CTM), Mr Ken Harries and Mr Richard Egan (Consultant Surgeons, National Clinical Directors for Planned Care), Professor Jon Barry (Consultant Bariatric Surgeon), Dr Claire R Dunstan (Consultant Anaesthetist), Mr Owain Ennis, Mr Navin Philip Verghese and Mrs Rhiannon Reynolds (Consultant Surgeons, Clinical Implementation Network Leads), Mrs Corrina Casey (Director of Performance & Delivery, NHS Wales) and Dr Neil Hawkes (Consultant Gastroenterologist, National Clinical Lead for Diagnostics).
- The group can co-opt additional specialists and independent advisors as needed.
- Secretariat support will be provided by NHS Wales Performance and Improvement.