English icon English
TT Logo

Gwerth dros £8m o fenthyciadau yn helpu i adfywio canol trefi a dinasoedd ledled Cymru

More than £8m worth of loan funding will help revitalise town and city centres across Wales

Heddiw, cadarnhaodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd y bydd pum awdurdod lleol yn elwa ar raglen trefi gwerth £8m Llywodraeth Cymru.

Mae'r Rhaglen Benthyciadau Trawsnewid Trefi yn cefnogi awdurdodau lleol i gynnal prosiectau adfywio canol trefi a dinasoedd. Mae wedi dyrannu mwy na £73m ers ei lansio yn 2014 ac wedi sicrhau bod dros 600 o unedau yn cael eu defnyddio eto.

Bydd awdurdodau lleol Caerffili, Caerdydd, Abertawe, Gwynedd a Wrecsam yn elwa ar y cyhoeddiad cyllido diweddaraf a byddant yn defnyddio'r arian i helpu i adfywio canol trefi a dinasoedd, a rhoi bywyd newydd i adeiladau gwag.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: "Mae ein Rhaglen Benthyciadau Trawsnewid Trefi yn caniatáu i gynghorau gefnogi prosiectau sy'n adfywio canol trefi a dinasoedd i helpu i greu ymdeimlad o le a strydoedd mawr bywiog i'w cymunedau.

"Gyda'r uchelgais o wneud cymunedau'n gynaliadwy yn y tymor hir, nod y rhaglen yw gwella ansawdd bywyd, cyfleoedd am swyddi a thwf economaidd i'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y trefi hynny a'r cyffiniau.

"Rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae cynghorau'n darparu benthyciadau i gefnogi prosiectau adfywio a dod â bywyd yn ôl i'r stryd fawr ac adeiladau gwag sydd wedi'u anghofio wrth galon canol eu trefi."

Gwnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gais i'r rownd ddiweddaraf hon yn gofyn am £1m i adfer 12 safle defnydd cymysg yng nghanol trefi Caerffili, y Coed-duon a Bargoed.

Mae'r benthyciad yn cael ei ddefnyddio i helpu perchnogion eiddo i gael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnynt i fuddsoddi a thyfu yn ystod cyfnodau heriol. Bydd yn lleihau nifer y safleoedd gwag, segur nad ydynt yn cael eu defnyddio'n ddigonol i annog arallgyfeirio i gynnal y trefi fel mannau i fyw, gweithio ac aros ynddynt ac i ymweld â nhw.

Yn y cais a wnaed gan Gyngor Caerdydd, gwnaethant ofyn am dros £2.9m i ariannu tri phrosiect adfywio yng nghanol y ddinas a'r ardal.

Un o'r prosiectau yw caffael ac ailddatblygu Park House ym Mharc y Plas, adeilad rhestredig Gradd I gwag o bwys cenedlaethol.

Cyn hynny, roedd yr adeilad wedi bod yn wag am dros flwyddyn a thrwy'r Rhaglen Trawsnewid Trefi bydd yn cael ei adnewyddu i leoliad 5* ar gyfer priodasau a digwyddiadau.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas: "Mae hwn yn gynllun pwysig sy'n ein galluogi i gadw a gwarchod adeiladau pwysig sydd o ddiddordeb hanesyddol yng nghanol y ddinas, gan ddod â nhw'n ôl yn fyw. Mae Park House yn adeilad trawiadol, a gynlluniwyd gan William Burges, felly mae'n wych y bydd yn elwa ar y gronfa hon.

"Ers i'r pandemig ddod i ben mae chwyddiant wedi codi'n sylweddol. Mae hyn wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn costau datblygu gan wneud adnewyddu adeiladau hanesyddol a rhestredig yn arbennig o heriol.

"Mae rhaglen benthyciadau'r cyngor, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn caniatáu i'r adeiladau hyn gael eu hailbwrpasu, gan greu swyddi newydd sydd o fudd i'r economi leol gan hefyd warchod adeiladau pwysig ar gyfer y dyfodol.

"Mae'r rhaglen eisoes wedi arwain at drawsnewid y Tramshed yn Grangetown; Gorsaf reilffordd Butetown; 30-31 Plas Windsor; y Gât Imperial ar waelod Heol y Santes Fair; a helpu gyda'r gwaith ar Westy’r Parador 44 yn Stryd y Cei. Rwy'n falch iawn o glywed bod y cyngor wedi derbyn ychydig o dan £3m yn y rownd ddiweddaraf o geisiadau, a bydd peth ohono’n cael ei ddefnyddio i drawsnewid Park House ger y Ganolfan Ddinesig, y Tollty ar Stryd Bute, ac i helpu gyda chynlluniau newydd ar gyfer gwelliannau pellach yng Ngorsaf Drenau Bae Caerdydd."

Dywedodd y cogydd Tom Simmons: “Rydym yn gyffrous i gael y cyfle i adfer yr adeilad rhestredig Gradd I hanesyddol godidog ac unigryw hwn yng nghanol Caerdydd mewn i leoliad syfrdanol. Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth. Bydd ein cynlluniau uchelgeisiol yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.”

Mae Cyngor Abertawe wedi manteisio ar y gyfran fwyaf o'r Rhaglen hyd yma ac wedi gofyn am £3m o fenthyciad, y swm mwyaf yn y rownd hon o geisiadau, i gefnogi chwe phrosiect ar gyfer y ddinas a chymunedau ehangach.

Gofynnodd y cais a wnaed gan Gyngor Gwynedd am £700 mil i ymestyn a gwella'r cynllun benthyciadau presennol sy'n gweithredu yn yr awdurdod lleol, gan adeiladu ar eu llwyddiant presennol a chefnogi'r agenda Trawsnewid Trefi.

Gofynnodd cais Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam am £500 mil i ymestyn y cyllid benthyciad sydd ar gael ar gyfer canol y ddinas i ail-bwrpasu a gwella eiddo yn benodol a lleihau faint o eiddo gwag sydd yno.

Mae mynd i'r afael ag eiddo gwag yn biler canolog Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, a bydd y cyllid hwn ar ffurf benthyciadau yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr â phrif raglen y grant adfywio gwerth £100m (dros dair blynedd), y rhaglen Benthyciadau Eiddo gwerth £43m, ac ystod o ddulliau gorfodi sydd ar gael i gefnogi awdurdodau lleol ledled Cymru.

DIWEDD