Her 50 diwrnod i helpu i cleifion i adael yr ysbyty ac i wella gofal cymunedol
New 50-day challenge to improve hospital discharge and community care
Heddiw (11 Tachwedd), mae Llywodraeth Cymru wedi lansio her 50 diwrnod i helpu mwy o bobl i ddychwelyd adref o’r ysbyty yn ddiogel, ac i leddfu pwysau'r gaeaf ar ein system iechyd a gofal.
Bydd byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd i ddefnyddio cynllun gweithredu 10 pwynt i helpu mwy o bobl sydd wedi bod yn aros yn hir yn yr ysbyty i gael mynd adref.
Nod yr her yw sicrhau bod y GIG a chynghorau lleol yn cydweithio i rannu arferion gorau, a dysgu o'r rhain. Bydd hynny wedyn yn gwella perfformiad ein system ac yn sicrhau bod gennym y gefnogaeth gywir ar gael i helpu pobl i aros yn iach, neu i wella gartref neu yn y gymuned.
Mae pob bwrdd iechyd ac awdurdod lleol wedi derbyn Her 50 Diwrnod y Gaeaf ar gyfer Gofal Integredig, a osodwyd gan Weinidogion.
Bydd yr her, a fydd yn rhedeg tan ddiwedd y flwyddyn, hefyd yn targedu'n benodol y bobl sydd wedi bod yn aros hiraf i adael yr ysbyty.
Mae'r GIG yng Nghymru – fel y GIG mewn rhannau eraill o'r DU – yn profi lefelau uchel parhaus o oedi mewn llwybrau gofal (oedi wrth ryddhau). Mae hyn yn cael effaith negyddol ar iechyd hirdymor pobl a'r "llif" drwy'r system iechyd a gofal ehangach.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles: "Mae'n hanfodol ein bod yn cefnogi ein gwasanaethau iechyd a gofal dros y gaeaf fel eu bod yn gallu parhau i ofalu am y bobl fwyaf sâl a mwyaf agored i niwed.
"Does unman yn debyg i gartref ar gyfer gwella o salwch neu anaf pan fydd pobl yn barod i adael yr ysbyty. Yn yr un modd, mae ystod eang o wasanaethau cymorth ar gael yn ein cymunedau sy'n gallu helpu i atal pobl rhag gorfod mynd i'r ysbyty yn y lle cyntaf, a helpu pobl i aros yn iach gartref.
"Bydd Her 50 Diwrnod y Gaeaf ar gyfer Gofal Integredig a'r cynllun gweithredu 10 pwynt yn cryfhau ein system iechyd a gofal cymdeithasol fel ein bod yn gallu helpu mwy o bobl i aros yn iach gartref a chael mwy o bobl adref o'r ysbyty pan fyddan nhw'n barod i adael.
"Rwy'n falch iawn bod y Gwasanaeth Iechyd ac awdurdodau lleol wedi croesawu'r her yma mewn modd adeiladol ac wedi paratoi i gymryd camau ar y cyd, a hynny ar unwaith mewn ymateb."
Ychwanegodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden: "Mae gofal yn y gymuned yn gallu gwella canlyniadau, yn enwedig i bobl hŷn a'r rhai ag anghenion cymhleth. Rydym yn gwybod bod pobl yn gwella'n well gartref nag mewn ysbyty, lle mae arosiadau diangen yn gallu effeithio ar eu llesiant corfforol a meddyliol.
"Mae llawer o enghreifftiau da o dimau iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio'n agos i sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi i aros yn iach gartref neu symud o'r ysbyty i'r gymuned yn ddidrafferth lle mae'r gefnogaeth gywir ar gael iddyn nhw.
"Nod yr her 50 diwrnod yma yw hyrwyddo arferion gorau a sicrhau bod y rhain yn cael eu rhoi ar waith yn gyson ledled Cymru."
Mae'r cynllun gweithredu 10 pwynt o ymyriadau sy'n seiliedig ar arferion gorau yn cynnwys camau i gael gwared ar y rhwystrau yn y system iechyd a gofal fel y gellir rhyddhau pobl yn brydlon.
Mae hyn yn cynnwys gwella gweithdrefnau ar gyfer rhyddhau cleifion o'r ysbyty; sicrhau bod cynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion yn dechrau adeg eu derbyn; gweithio'n gymesur ac yn effeithiol saith diwrnod yr wythnos i ryddhau cleifion ar y penwythnos; cynnal mwy o asesiadau yn y gymuned; a darparu gwasanaethau adsefydlu ac ailalluogi yn y gymuned i helpu pobl i wella'n llawn.
Mae gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned rôl ganolog i'w chwarae wrth gefnogi pobl i aros yn iach yn y gymuned. Maen nhw'n asesu pa gymorth sydd ei angen ar bobl, gan gynnwys mynediad at wasanaethau adsefydlu, addasiadau i'r cartref neu ofal personol yn y gymuned.
Mae'r Her 50 Diwrnod yn elfen allweddol o gynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi gwytnwch dros y gaeaf. Mae’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol gwerth £146m, y cyllid Ymhellach yn Gyflymach gwerth £11.95m, a'r cyllid cweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd gwerth £5m yn helpu i feithrin capasiti cymunedol yn y system.
Yn ddiweddar, cyfarfu'r Ysgrifennydd Iechyd a'r Gweinidog â thimau yn y Gwasanaeth Rhyddhau Integredig yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, i ddysgu mwy am eu dull o gael pobl adref yn ddiogel ac i drafod arferion gorau.
Dywedodd Diane Walker, Pennaeth y Gwasanaeth Rhyddhau Integredig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Rydym yn gwybod ei bod hi'n well i gleifion adael yr ysbyty cyn gynted ag y byddan nhw'n barod i wneud hynny. Pan fydd claf yn treulio mwy o amser nag sydd ei angen yn yr ysbyty, mae mewn mwy o berygl o golli ei annibyniaeth a dirywio ymhellach.
"Yn ddiweddar, cafodd dyn oedrannus bregus ei dderbyn i'r ysbyty oherwydd salwch acíwt ac anghenion cynyddol. Yn dilyn ei asesu yn yr ysbyty, cytunwyd y byddai angen i'w ofal gael ei ddarparu gan gartref gofal.
"Er mwyn ceisio dod o hyd i gartref gofal addas, aeth y tîm gofal cymdeithasol i oedolion ati i rannu manylion y claf â chartrefi ac aros am ateb. Ond, roedd dod o hyd i gartref a allai ddiwallu ei anghenion yn dalcen caled. Arweiniodd hyn at oedi cyn ei ryddhau o'r ysbyty a risg uwch y byddai’n datgyflyru, yn dal haint yn yr ysbyty ac yn cwympo. Er mwyn atal hyn, gweithiodd timau iechyd a gofal cymdeithasol gyda'i gilydd i rannu manylion am y claf, a sicrhawyd lle mewn cartref gofal.
"O ganlyniad i'r cydweithio llwyddiannus hwn, cytunwyd y bydd yr holl fanylion sy'n rhoi braslun o gleifion yn cael eu cwblhau gan dimau iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol."