Lansio adnodd ar-lein ar newydd wedd sy'n darparu cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc
New look online support launched providing mental health support for young people
Mae adnodd ar-lein gyda'r nod o helpu pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed i ddod o hyd i gymorth iechyd meddwl wedi cael ei ail-lansio er mwyn cynnwys gwybodaeth a chyngor newydd.
Mae'r lansiad yn cyd-daro ag Wythnos Iechyd Meddwl Plant, sy'n digwydd rhwng 7 a 13 Chwefror.
Mae'r fersiwn newydd o'r pecyn cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc ar gael drwy'r wefan addysgol Hwb, sef y Platfform Dysgu Digidol Cenedlaethol. Mae'r pecyn cymorth yn cynnwys dolenni at amrywiaeth o wefannau allanol, apiau a llinellau cymorth gyda'r nod o gefnogi pobl ifanc gyda'u hiechyd meddwl a'u llesiant.
Lansiwyd y pecyn gymorth gyntaf yn 2020 er mwyn darparu un man i bobl ifanc gael gwybodaeth am sefydliadau adnabyddus sy'n cynnig cymorth. Dewiswyd yr adnoddau gydag anghenion pobl ifanc mewn cof, ac maent yn trafod y pynciau canlynol:
- Coronafeirws a'ch llesiant
- Argyfwng
- Cadw'n iach
- Profedigaeth a cholled
- Hwyliau isel
- Gorbryder
Dywedodd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: “Mae'n Wythnos Iechyd Meddwl Plant, felly mae'n gyfle da i dynnu sylw at ba mor bwysig yw iechyd meddwl a llesiant emosiynol plant a phobl ifanc.
Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn heriol iawn, ond gwyddom na fydd angen gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol ar y rhan fwyaf o'r bobl ifanc sy'n ceisio help. Rhaid inni sicrhau bod gwahanol lefelau o gymorth ar gael iddynt pryd a lle y bydd ei angen arnynt. Rwy'n falch ein bod yn gallu rhoi cyngor a chymorth i bobl ifanc ledled Cymru drwy Hwb.
Mae'n hollbwysig bod pobl ifanc a'u teuluoedd yn gallu dod o hyd i gyngor sy'n adlewyrchu eu hanghenion. Bydd yr adnodd hunangymorth hwn yn cynnig hynny, ac yn darparu gwybodaeth bwrpasol sy'n briodol i oedran y bobl sy'n ei ddefnyddio. Byddwn yn annog teuluoedd, ysgolion a grwpiau i roi gwybod i bobl ifanc am yr adnodd allweddol hwn sydd ar gael iddynt.”
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Mae iechyd emosiynol, iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth lwyr imi. Mae ein dull ‘ysgol gyfan’ yn sicrhau bod y rhain wrth wraidd y ffordd y mae ysgolion yn gweithredu, a'u bod yn berthnasol i bob agwedd ar fywyd yr ysgol.
“Drwy gael y cymorth cywir ar yr adeg gywir, gellir osgoi effeithiau andwyol mwy hirdymor mewn llawer o achosion. Mae pobl ifanc yng Nghymru eisoes yn gyfarwydd â'r platfform dysgu Hwb, felly bydd yn hawdd iddynt gael gafael ar y pecyn cymorth pryd y bydd ei angen arnynt.”