English icon English
Building safety pic-2

Lansio cynllun cynghori cyfreithiol newydd ar gyfer lesddeiliaid y mae materion diogelwch tân yn effeithio arnynt

Launch of new legal advisory scheme for leaseholders affected by fire safety issues

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun cynghori cyfreithiol newydd ar gyfer lesddeiliad i helpu i gefnogi lesddeiliaid mewn adeiladau canolig ac uchel wedi eu heffeithio gan broblemau diogelwch tân yng Nghymru.

O ddydd Gwener 10 Mai bydd y cynllun yn cynnig cyngor cyfreithiol am ddim a phwrpasol i lesddeiliaid er mwyn helpu i ddatrys anghydfodau posibl.

Mae sicrhau diogelwch cartrefi yng Nghymru yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac yn ddiweddar cyhoeddodd Julie James, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio lwybr i fynd i’r afael â phroblemau diogelwch tân ar gyfer pob adeilad preswyl dros 11 metr.

Gall lesddalwyr, neu bobl gyfrifol ar ran lesddalwyr, gael mynediad i'r cynllun drwy'r Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliad (LEASE).

Bydd cynghorydd yn adolygu'r sefyllfa, yn asesu a yw cymorth cyfreithiol yn briodol ac yna'n rhoi cyngor sut i fwrw ymlaen.

Lle bo'n briodol, bydd LEASE wedyn yn gweithredu fel gwasanaeth atgyfeirio i ddarparwr gwasanaethau cyfreithiol penodol a Llywodraeth Cymru yn talu am ei gyngor cychwynnol.

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet: "Rydym wedi gwrando ar bryderon lesddeiliaid ynghylch diogelwch adeiladau a chymhlethdodau'r system gyfreithiol ac rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal gwaith rhag cael ei wneud.

"Heddiw, rydym wedi cyflawni ein haddewid i gaffael cynghorwyr cyfreithiol annibynnol arbenigol a all helpu i lywio lesddeiliaid ac eraill trwy unrhyw anawsterau cyfreithiol.

"Rwyf wedi ei wneud yn glir bob amser nad wyf yn disgwyl i lesddeiliaid ysgwyddo'r gost o drwsio problemau diogelwch tân nad ydynt wedi eu hachosi eu hunain, a'm bod yn disgwyl i ddatblygwyr gyflawni eu cyfrifoldebau."

DIWEDD