Llywodraeth Cymru’n ymrwymo i’w haddewidion i blant sy’n derbyn gofal
Welsh Government commits to promises to looked-after children
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi llofnodi’r Siarter Rhianta Corforaethol newydd heddiw lle mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gadw at naw addewid wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
Mae’r Siarter yn amlinellu’r egwyddorion y dylai pob corff cyhoeddus a’u harweinwyr eu dilyn wrth gynllunio a chyflawni gwasanaethau, fel dileu stigma, darparu cartref sefydlog ac addysg ac iechyd da.
Diffinnir ‘rhianta corfforaethol’ fel hyrwyddo cyfrifoldeb cyfunol y sector cyhoeddus cyfan i ddiogelu a hyrwyddo hawliau a chyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
Caiff unrhyw gorff cyhoeddus, sefydliad trydydd sector neu fusnes ymrwymo i’r Siarter.
Dywedodd Mark Drakeford:
“Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn amlinellu ein gweledigaeth uchelgeisiol i drawsnewid gwasanaethau plant yng Nghymru.
“Mae’n bleser gen i lofnodi’r Siarter heddiw. Bydd yn cefnogi ein holl gyrff cyhoeddus i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc sydd â phrofiad o ofal yn cael yr un cyfleoedd bywyd â phob plentyn a pherson ifanc arall.”
Ychwanegodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a lofnododd y Siarter yn ogystal:
“Fis Rhagfyr y llynedd, gwnaethom gynnal Uwchgynhadledd Profiad o Ofal cyntaf Cymru, gan ddod â phobl ifanc â phrofiad o ofal a Gweinidogion Cymru ynghyd i ddatblygu gweledigaeth radical ac uchelgeisiol ar y cyd ar gyfer y dyfodol.
“Neges allweddol yr Uwchgynhadledd, dan arweiniad Llysgenhadon Ifanc, oedd bod rhaid parchu hawliau plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, rhoi llais iddynt a gwrando arnynt.
“Rwy’n galw ar yr holl gyrff cyhoeddus, sefydliadau gwirfoddol a busnesau yng Nghymru i ymuno â ni i wneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd ag y mae pob person ifanc yn ei haeddu.”
Dywedodd Dr Andrew Goodall, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru:
“Dylai pob corff cyhoeddus fod yn gyfrifol am gefnogi plant sydd â phrofiad o ofal. Rydyn ni eisiau i’n sector cyhoeddus ddeall a datblygu eu cyfrifoldebau i blant a phobl ifanc â phrofiad o ofal ledled Cymru.
“Rwy’n croesawu lansiad y Siarter Rhianta Corfforaethol ac rwy’n annog cyrff cyhoeddus ar draws Cymru i ymrwymo i’r Siarter heddiw.”