Nid yw'r broses datganoli trethi'n addas i'w diben – y Gweinidog Cyllid
Devolution of tax process is not fit for purpose – Finance Minister
Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Rebecca Evans yn galw ar Lywodraeth y DU i ddiwygio'r broses ar gyfer cytuno ar bwerau trethi datganoledig, yn dilyn oedi wrth sicrhau pwerau ar gyfer treth ar dir gwag.
Bydd datganoli pwerau trethi'n caniatáu i Lywodraeth Cymru ddatblygu dull gweithredu cryfach o ran trethi canolog a lleol yng Nghymru, gan sicrhau ei bod yn gallu mynd i'r afael yn well ag anghenion a blaenoriaethau dinasyddion a busnesau.
Byddai treth ar dir gwag yn helpu i gymell datblygwyr i fwrw ymlaen â datblygiadau segur i helpu i ddarparu tai diogel a fforddiadwy o ansawdd uchel.
A hithau'n siarad mewn dadl yn y Senedd bydd y Gweinidog yn pwysleisio'r angen am system ddiwygiedig o ddatganoli trethi sy'n cyflawni gwell canlyniadau i bobl Cymru.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:
“Dechreuon ni drafodaeth genedlaethol yn 2017 ynghylch sut y gallai pwerau trethi newydd gynnig cyfleoedd i'n helpu i wireddu ein huchelgeisiau i Gymru. Fwy na phedair blynedd yn ddiweddarach dydy'r cyfleoedd hynny ddim ar gael inni o hyd. Dydy'r broses ddim yn addas i'w diben a rhaid ei gwella.
“Mae achos cryf dros ddatganoli treth ar dir gwag, o gofio ei fod yn cyd-fynd â phwerau datganoledig sy'n bodoli eisoes a'i gwmpas cymharol gul. Neilltuwyd dwy flynedd o waith i sicrhau bod gan Lywodraeth y DU'r wybodaeth yr oedd arni ei hangen i ystyried yr achos hwn. Cytunwyd mai mater i Lywodraeth Cymru oedd gwneud unrhyw benderfyniadau polisi ynghylch sut y byddai unrhyw dreth ddatganoledig newydd yn gweithio, ac mai mater i'r Senedd fyddai penderfynu a ddylid pasio unrhyw dreth mewn cyfraith.
“Serch hynny, ac er bod gwybodaeth helaeth eisoes wedi'i darparu, mae Llywodraeth y DU'n dal i ofyn am ragor o wybodaeth am sut y mae'r dreth yn gweithredu. Buom yn gweithio'n ddidwyll gyda Llywodraeth y DU ond nid yw'n briodol iddi geisio penderfynu ar bolisi datganoledig nac ymwneud â materion sy'n fater i Lywodraeth Cymru a'r Senedd."
Mae amcangyfrifon tai'n dangos bod angen 7,400 o gartrefi ychwanegol am y pum mlynedd nesaf.
Ychwanegodd y Gweinidog:
“Dydy treth ar dir gwag ar ei phen ei hyn yn ateb i'r argyfwng tai, wrth gwrs, ond fe allai helpu i gyflwyno datblygu amserol. Fel y mae ar hyn o bryd mae tirfeddannwr sy'n dal gafael ar dir a nodwyd ar gyfer datblygiadau'n arwain at elw preifat a chost gyhoeddus. Byddai treth ar dir gwag yn cymell gwaith datblygu ac yn creu cartrefi i bobl.”
Mae'r Gweinidog wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Ariannol newydd y Trysorlys i dynnu sylw at bwysigrwydd bwrw ymlaen â'r cais am bwerau ar gyda'r treth ar dir gwag.