Prif Weinidog Cymru yn croesawu'r penderfyniad ynghylch EURO UEFA 2028.
First Minister welcomes UEFA EURO 2028 decision.
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi croesawu'r newyddion heddiw y bydd Cymru'n cynnal gemau yn rowndiau terfynol twrnament pêl-droed rhyngwladol mawr am y tro cyntaf.
Mewn seremoni yn y Swistir heddiw, cyhoeddodd UEFA fod cais y DU ac Iwerddon i gynnal Pencampwriaethau Ewropeaidd UEFA 2028 wedi bod yn llwyddiannus.
Mae Cymru eisoes wedi cynnal digwyddiadau chwaraeon mawr, gan gynnwys Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yn 2017, bocsio, Gemau Olympaidd Llundain 2012 a rownd derfynol Cwpan Rygbi'r Byd. EURO 2028 fydd y tro cyntaf i gemau yn rowndiau terfynol twrnamaint pêl-droed rhyngwladol mawr ar gyfer dynion hŷn gael eu cynnal yng Nghymru.
Dywedodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog:
"Mae Cymru wedi magu enw da am gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr yn llwyddiannus, a hithau wedi cyrraedd ffeinals tri twrnamaint pêl-droed i ddynion ers 2016.
"Mae pêl-droed yn ganolog i'n huchelgais ym myd y campau - boed hynny trwy gynnal Ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn 2017 neu anfon Cymru'n dalog i'w rowndiau terfynol cyntaf yng Nghwpan y Byd FIFA am fwy na 60 mlynedd. Rydym hefyd yn rhoi cefnogaeth ddigynsail i gêm y merched ac yn buddsoddi mewn pêl-droed ieuenctid a lleol ledled Cymru.
"Y newyddion heddiw yw'r cyfle cyffrous nesaf i ni ddangos beth sydd gan Gymru i'w gynnig. Mae gennym hanes cryf o weithio mewn partneriaeth â phartneriaid lleol allweddol, gan gynnwys Cyngor Caerdydd a'r stadiwm – i gynnal digwyddiadau y gall cefnogwyr o Fôn i Fynwy eu mwynhau.
"Mae sicrhau EURO 2028 yn garreg filltir wych arall i chwaraeon Cymru ac rwy'n hyderus y bydd y DU ac Iwerddon yn cynnal yr EURO UEFA gorau erioed."
Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden: "Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, y stadiwm a'n partneriaid cenedlaethol yn y DU ac Iwerddon i gynnal dathliad angerddol a bythgofiadwy, a fydd yn ddiogel, yn groesawgar ac wedi'i drefnu'n dda. Bydd Pencampwriaethau Ewropeaidd UEFA 2028 yn ŵyl bêl-droed wych a chynaliadwy - i'r chwaraewyr, i'r cefnogwyr a holl Deulu UEFA.
"Bydd manteision economaidd cynnal digwyddiad mor uchel ei broffil yn sylweddol - a bydd hefyd yn rhoi llwyfan ardderchog i ni godi proffil Cymru ar lwyfan y byd gan ein halinio â brand wirioneddol fyd-eang. Gwnaeth y cyfleoedd a gawsom fel rhan o Gwpan y Byd y llynedd roi llwyfan i ni lunio ymgyrch hyrwyddo arobryn i Gymru.
"Bydd y cyfle cyffrous hwn yn cael ei ddefnyddio hefyd i annog pobl i gymryd rhan, yn enwedig menywod, ac i ddefnyddio pêl-droed i hyrwyddo a chefnogi mentrau sy'n annog cynhwysiant cymdeithasol. Bydd hynny'n etifeddiaeth barhaol ar gyfer Pencampwriaethau Ewropeaidd UEFA 2028."
Bydd enw Stadiwm Principality yn cael ei newid i Stadiwm Cenedlaethol Cymru at ddibenion y twrnamaint hwn.
"Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i Gymru a chwaraeon Cymru," meddai Prif Weithredwr dros dro Grŵp URC, Nigel Walker.
"Rydym yn disgwyl ymlaen yn aruthrol i chwarae ein rhan i gynnal ffeinal EURO UEFA 2028 rhagorol, gan weithio ochr yn ochr â'n partneriaid yn Llywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd, Cymdeithas Bêl-droed Cymru ynghyd â gweddill y DU ac Iwerddon.
"Rydym wedi cynnal digwyddiadau pêl-droed rhyngwladol pwysig yn ein stadiwm o'r blaen, o gemau rhyngwladol Cymru i ffeinals Cwpan yr FA, gemau Olympaidd a Ffeinal Cynghrair Pencampwyr UEFA 2017. Rydym yn cynnig profiad hyfryd i wylwyr, maes chwarae sy'n deilwng o oreuon y byd a tho caeadwy - a'r cyfan mewn lleoliad hynod ddeniadol yng nghanol y ddinas gyda'r holl fanteision y mae prifddinas Caerdydd yn eu cynnig.
"Rydym eisoes yn gwybod yr effaith gadarnhaol iawn y mae cynnal digwyddiadau chwaraeon mawr yn y stadiwm yn ei chael ar Gaerdydd a'r cylch. Ni fydd EURO UEFA 2028 yn wahanol, a byddwn yn barod i groesawu cefnogwyr pêl-droed o bob cwr o'r byd ar gyfer un o'r sioeau chwaraeon mwyaf yn y byd."
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Mae hyn yn newyddion gwych i Gaerdydd ac i Gymru ac rydym yn disgwyl ymlaen yn frwd at groesawu cefnogwyr - llawer ohonynt yn newydd-ddyfodiaid i Gaerdydd. Mae'n gyfle gwych arall i atgoffa'r byd mor arbennig yw Caerdydd o ran cynnal digwyddiadau mawr. Gall ymwelwyr ddisgwyl awyrgylch unigryw, dinas gynnes a chroesawgar, a phobol angerddol gyda chariad gwirioneddol at y gêm. Beth allai fod yn well na chwarae'r gêm 'hardd', mewn awyrgylch hardd, yn ein dinas hardd. Allwn ni ddim aros!