Prosiectau mawr newydd yn cael eu cyhoeddi i helpu twf yr iaith Gymraeg
Major new projects announced to grow Welsh language
- 11 o brosiectau cyfalaf ledled Cymru i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg
- £1.2m i roi cymorth i’r Urdd ar ôl y pandemig.
I nodi Dydd Gwŷl Dewi, mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wedi cyhoeddi 11 o brosiectau cyfalaf newydd i gefnogi twf yr iaith Gymraeg.
Mae’r prosiectau’n cael eu henwi yn sgil proses ymgeisio a fydd bellach yn golygu eu bod yn symud ymlaen i’r cam nesaf yn y broses achos busnes ac yn gwneud cais am gyllid o’r Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg, sydd werth dros £30 miliwn, yn dilyn y cyhoeddiad am y cyllid y llynedd.
Mae’r cyllid wedi anelu at gynyddu capasiti mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, sefydlu darpariaeth Cyfrwng Cymraeg newydd a chefnogi’r gwaith o drochi disgyblion yn yr iaith yn gynnar yn ogystal â helpu dysgwyr o bob oed i wella’u sgiliau a meithrin hyder yn ymdrin â’r Gymraeg.
Bydd y prosiectau o fewn naw ardal awdurdod lleol yng Nghymru:
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerdydd
- Caerfyrddin
- Ceredigion
- Conwy
- Sir y Fflint
- Gwynedd
- Sir Benfro
- Wrecsam
Mae’r cynlluniau’n cynnwys sefydlu ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg, cynyddu capasiti mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg sydd eisoes yn bodoli, sefydlu Canolfannau Trochi Cymraeg ac yn ehangu capasiti’r ddarpariaeth drochi iaith Gymraeg bresennol.
Mae £1.2m ychwanegol hefyd yn cael ei roi i’r Urdd ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd, a hynny er mwyn rhoi cymorth i’r sefydliad ieuenctid i barhau â’i weithgareddau ar ôl i Covid-19 effeithio’n fawr arnynt.
Bydd y cyllid yn cefnogi rhwydwaith o swyddogion datblygu yn yr Urdd ledled Cymru, ac yn rhoi cymorth i gynnal prentisiaethau cyfrwng Cymraeg o fewn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae’r cyllid yn ychwanegol at gyllid Llywodraeth Cymru i sicrhau bod mynediad i’r Eisteddfod yn Sir Ddinbych eleni yn rhad ac am ddim yr haf hwn.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
“Mae cynyddu’r cyfleoedd i gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg yn hollol ganolog i feithrin twf y Gymraeg a’i defnyddio fwyfwy yn ein bywyd bob dydd.
“Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i fodloni’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg, drwy gynyddu capasiti mewn ysgolion a throchi iaith. Bydd y buddsoddiad yn ategu ein cynlluniau i gynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg a datblygu sgiliau Cymraeg staff mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
“Mae creu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth yn bwysig hefyd, boed hynny’n cystadlu yn gelfyddydol neu mewn chwaraeon, neu ymweld â’r Eisteddfod. Rwy’n falch, felly, o roi cymorth i’r Urdd dros y flwyddyn nesaf er mwyn iddynt allu parhau â’r gwaith arbennig o agor drysau a rhoi cyfleoedd gwych i bobl ifanc.
“Bydd yr holl weithgareddau hyn yn helpu i ni gyrraedd y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg erbyn 2050.”
Nodiadau i olygyddion
Rhain fydd yr 11 o brosiectau cyfalaf sy’n symud ymlaen i’r cam nesaf o’r broses achos busnes ac yn gwneud cais am y Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg:
Ysgol I D Hooson, Wrecsam - £6.3 miliwn
Ehangu’r ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg bresennol, gyda saith ystafell ddosbarth barhaol ychwanegol, gan greu lle i 105 o ddisgyblion ychwanegol.
Ysgol Gymraeg Aberystwyth, Ceredigion - £5.7 miliwn
Creu Canolfan Drochi Iaith Gymraeg a bloc o ystafelloedd dosbarth newydd, a fydd yn ychwanegu lle i 30 o ddisgyblion ychwanegol yn yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg.
Ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd ym Mwcle / Mynydd Isa, Sir y Fflint - £5.6 miliwn
Ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg sydd â chapasiti ar gyfer 150 o ddisgyblion llawnamser a hefyd lle i 30 o blant meithrin a 30 ar gyfer y blynyddoedd cynnar, yn ogystal â gweithgareddau trochi yn y Gymraeg a dysgu i oedolion er mwyn cefnogi’r ddarpariaeth gychwynnol cyfrwng Cymraeg.
Ysgol y Strade, Llanelli, Caerfyrddin - £4.4 miliwn
Canolfan Drochi Iaith Gymraeg bwrpasol a chapasiti ar gyfer 228 o leoedd cyfrwng Cymraeg, gan godi capasiti’r ysgol i 1,500 o leoedd.
Porthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr - £3.25 miliwn
Ysgol gynradd egin ar gyfer ardal Porthcawl, wedi ei chydleoli â chanolfan gofal plant cyfrwng Cymraeg arfaethedig.
Ysgol Caer Elen, Sir Benfro - £2.5 miliwn
Prosiect i gyllido lleoedd cyfrwng Cymraeg ychwanegol i 60 o ddisgyblion yn Ysgol Caer Elen yn y tymor hir.
Cynyddu capasiti ysgolion yng Ngwynedd - £1.875 miliwn
Cynyddu capasiti ysgolion cyfrwng Cymraeg er mwyn cefnogi cymunedau cyfrwng Cymraeg o arwyddocâd ieithyddol i ffynnu (cymunedau sydd â thros 70% o siaradwyr Cymraeg). Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ehangu capasiti mewn tair ysgol o fewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol, sef Llanllechid, Penygroes a Chwilog.
Canolfannau Iaith yng Ngwynedd - £1.15 miliwn
I gyllido Cam 2 o’r prosiect, i gynyddu’r capasiti ac adleoli Canolfannau Iaith Llangybi a Dolgellau i leoliadau strategol o arwyddocâd ieithyddol, a chynyddu capasiti Canolfan Iaith Maesincla yng Nghaernarfon. Bydd Canolfan Iaith Llangybi yn adleoli i Ysgol Cymerau, Pwllheli a bydd Canolfan Iaith Dolgellau yn adleoli i Ysgol Bro Idris, Dolgellau sy’n safle mwy o faint.
Ysgol y Creuddyn, Conwy - £914,000
Estyniad i Ysgol y Creuddyn. Cynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer trochi disgyblion ar gyfer symud o addysg gynradd i addysg uwchradd yn y dalgylch lleol.
Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, Pen-y-bont ar Ogwr - £270,000
Dyblu maint yr ystafell ddosbarth symudol i ymdrin â’r galw am leoedd ar hyn o bryd hyd nes y bydd yr ysgol newydd wedi ei chwblhau, a disgwylir y bydd hynny yn 2025-26.
Ysgol Bro Edern, Caerdydd - £100,000
Bydd dosbarth trochi yn cael ei ddarparu drwy addasu dosbarthiadau presennol. Bydd y prosiect hefyd yn galluogi rhoi cymorth i 20 i 30 o ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.