English icon English
Building safety pic-2

Rhaglen diogelwch adeiladau’n gwneud i drigolion deimlo’n ‘ddiogel a saff yn eu cartrefi’

Ambitious building safety programme will make residents feel ‘safe and secure in their homes’

Mae datblygiadau pwysig wedi’u gwneud i’r camau y mae Llywodraeth yn eu cymryd i daclo problem diogelwch tai.

Mae’r diweddariad hwn yn rhan o Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru fydd yn chwyldroi’r system diogelwch adeiladau yng Nghymru.

Disgrifiodd y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James y newidiadau hyn fel ‘rhaglen uchelgeisiol’ fydd yn gwneud i drigolion deimlo’n ‘’ddiogel a saff yn eu cartrefi’.

Cyhoeddodd y Gweinidog y datblygiadau yn y Senedd a chadarnhaodd fod cwmnïau datblygu mawr wedi cytuno i lofnodi’r Cytundeb fyddai’n eu rhwymo i gynnal gwaith atal tanau ar adeiladau uchel a chanolig yng Nghymru.

Mae Redrow, McCarthy Stone, Lovell, Vistry, Persimmon a Countryside eisoes wedi llofnodi’r cytundeb newydd.

Mae Taylor Wimpey, Crest Nicholson a Barrett wedi cadarnhau eu bod am wneud.

Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gamu i’r bwlch a gwneud gwaith unioni mewn grŵp dechreuol o 28 o adeiladau preifat na wyddom pwy yw’r datblygwr neu lle mae’r datblygwr wedi rhoi’r gorau i fasnachu – adeiladau ‘diriant’ fel y galwn ni nhw.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y gwaith hwn yn lleihau’r perygl o dân ‘cyn gynted â phosibl’

Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £40m arall i unioni 38 o adeiladau eraill yn y sector cymdeithasol.

Mae hynny ar ben y 26 o adeiladau’r sector cymdeithasol sydd wedi’u hunioni hyd yma a’r 41 o adeiladau sector cymdeithasol rydym eisoes wedi dechrau gweithio arnyn nhw.

Cadarnhawyd heddiw hefyd fanylion Cynllun Benthyg i Ddatblygwyr i Ddiogelu Adeiladau. Mae’r cynllun newydd hwn yn werth £20m.

Bydd y cynllun yn rhoi benthyciad di-log dros gyfnod o hyd at bum mlynedd i helpu datblygwyr i gynnal gwaith unioni i ddiogelu adeiladau 11 metr o uchder a mwy yng Nghymru rhag tanau.

Mae’r benthyciad ar gael yn unig i ddatblygwyr sydd wedi addo gwneud gwaith unioni trwy lofnodi Cytundeb Datblygwyr Llywodraeth Cymru.

Y nod yw osgoi unrhyw oedi am resymau ariannol i unrhyw waith unioni.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James: “Bydd ein rhaglen uchelgeisiol yn gwneud yn siŵr bod trigolion yn teimlo’n ddiogel a saff yn eu cartrefi eu hunain.

“Dw i wedi dweud o’r dechrau y dylai’r diwydiant ysgwyddo’i gyfrifoldebau o ran diogelu ei adeiladau rhag tân.

“Datblygwyr ddylai unioni unrhyw ddiffygion diogelwch tân. Y nhw ddylai talu am y gwaith, neu beryglu eu henw da proffesiynol a’u gallu i weithredu yng Nghymru yn y dyfodol.

“Mae’n dda gennyf ddweud bod datblygwyr wedi gwneud y peth iawn ac ymrwymo i gynnal gwaith unioni rhag tân ar adeiladau tal a chanolig ledled Cymru.

“Ein hagwedd ni yng Nghymru o’r dechrau yw cydweithio â datblygwyr a dw i’n disgwyl ymlaen at weld y gwaith yn cael ei wneud yn gyflym"

Dywedodd yr Aelod Dynodedig Siân Gwenllian: “Trwy ein Cytundeb Cydweithredu rydym wedi ymrwymo i gyflwyno ail gam Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru a diwygio’r system diogelu adeiladau.

“Hoffwn gydnabod ymdrechion y rheini sydd wedi ymgyrchu i dynnu sylw at y problemau hyn.

“Er bod rhagor i’w wneud, rydw i’n croesawu’r datblygiadau newydd hyn ac rydw i’n falch y bydd y £375m a neilltuwyd fel rhan o Gytundeb Cydweithredu Plaid Cymru â’r Llywodraeth yn cael ei ddefnyddio ar gamau i unioni y diffygion diogelwch tân a gwella’r adeiladau amddifad o’r haf ymlaen.” 

Cadarnhawyd hefyd fod Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig wedi cytuno i estyn eu canllaw i briswyr yng Nghymru yn ogystal ag yn Lloegr.

Bydd y canllaw estynedig hwn yn sicrhau trefn brisio gyson ar gyfer adeiladau sy’n rhan o Raglen Diogelwch Adeiladau Llywodraeth Cymru.

Bydd hynny’n helpu i chwalu’r rhwystrau a chaniatáu i lesddeiliaid gael morgeisi a chynnyrch ariannol eraill, gan sicrhau cysondeb ac eglurder i bob rhanddeiliad.

Dywedodd Luay Al-Khatib, Cyfarwyddwr Safonau a Datblygu Proffesiynol RICS: “Mae’n dda cael estyn ein canllaw i gynnwys Cymru, yn sgil sefydlu Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru. 

“Bydd hyn yn hwb mawr ei angen i hyder prynwyr, gwerthwyr a’r farchnad, a bydd yn sicrhau cysondeb.”

“Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddiweddaru’r drefn yn gyflym ac yn hwylus, gyda chymorth rhanddeiliaid, a helpu’r rheini y mae’r argyfwng diogelwch adeiladau wedi effeithio arnyn nhw.”

DIWEDD