English icon English
Julie Morgan (1)

Rhaglen flaenllaw i ehangu Dechrau’n Deg yn rhagori ar y targed yn y cam cyntaf

Flagship programme to expand Flying Start exceeds target in first phase

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi rhagori ar ei tharged ar gyfer y cam cyntaf o ehangu ei rhaglen flaenllaw, Dechrau’n Deg.

Mae ehangu’r rhaglen Dechrau’n Deg yn rhan o ehangu’r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar yn raddol i bob plentyn dwyflwydd oed yng Nghymru, gyda phwyslais arbennig ar gryfhau’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae hwn yn ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Nod y cam cyntaf, a ddechreuodd ym mis Medi 2022, oedd darparu pob un o bedair elfen y rhaglen Dechrau’n Deg, gan gynnwys gofal plant i’r rhai rhwng dwy a thair oed, i 2,500 o blant ychwanegol rhwng 0 a 4 oed.

Mae ffigurau gan awdurdodau lleol yn dangos bod 3,178 o blant wedi’u cyrraedd erbyn diwedd mis Mawrth 2023. Golyga hyn fod 600 yn fwy o blant na’r disgwyl wedi gallu elwa ar y gefnogaeth y mae Dechrau’n Deg yn ei darparu. Mae nifer y lleoedd gofal plant cyfrwng Cymraeg sy’n cael eu llenwi hefyd wedi cynyddu dros yr un cyfnod.

Mae Hannah Jones, o Geredigion, yn un rhiant sydd wedi elwa ar gam cyntaf y rhaglen Dechrau’n Deg.

Dywedodd: “Rydyn ni wedi elwa’n fawr ar y gefnogaeth y mae Dechrau’n Deg wedi’i rhoi i ni. Ar wahân i’r ffaith eu bod bellach yn ariannu lleoedd y plant yn y Cylch Meithrin lleol, maen nhw hefyd wedi ein cefnogi’n aruthrol gyda’n plentyn ieuengaf sydd ag anghenion ychwanegol. Maen nhw wedi ein cefnogi fel teulu ac maen nhw hefyd wedi rhoi’r asiantaethau perthnasol ar waith i sicrhau bod gennym gefnogaeth ychwanegol. Rydyn ni fel teulu yn ddiolchgar iawn.”

Heddiw bydd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn mynd i Gynhadledd Cefnogi Teuluoedd, Rhieni a Phlant 2023, a gynhelir yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Casnewydd.

Dywedodd:

“Rydyn ni’n gwybod bod dysgu a gofal o ansawdd uchel yn y blynyddoedd cynnar yn cefnogi datblygiad plant ac yn chwarae rhan bwysig o ran paratoi plant ar gyfer yr ysgol.

“Felly, rwy’n falch iawn bod hyd yn oed mwy o blant wedi gallu elwa ar gam cyntaf y gwaith o ehangu Dechrau’n Deg nag yr oeddem wedi’i fwriadu’n wreiddiol.

“Mae hyn yn dyst i waith awdurdodau lleol, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r sector gofal plant i ymestyn gwasanaethau Dechrau’n Deg a sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel – yn enwedig yn y cymunedau hynny sy’n wynebu’r heriau mwyaf.

“Mae’r gynhadledd heddiw yn gyfle i ddathlu’r hyn a gyflawnwyd yn sgil y gwaith partneriaeth hwn, a rhannu arferion gorau wrth i ni barhau â’r gwaith pwysig hwn i gefnogi plant a theuluoedd.

“Rydyn ni’n gwneud cynnydd rhagorol o ran cyflawni’r ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu i ehangu gofal plant a ariennir i blant dwyflwydd oed. Mae ein Cynnig Gofal Plant hefyd yn darparu tri deg awr o ofal plant a ariennir yr wythnos am hyd at bedwar deg wyth wythnos y flwyddyn i blant tair a phedair oed rhieni cymwys, sy’n cynnwys rhieni mewn addysg neu hyfforddiant – o’i gymharu â thri deg wyth wythnos y flwyddyn yn Lloegr, a hynny ar gyfer rhieni sy’n gweithio yn unig.”

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

"Mae llawer o blant yn dechrau ar eu taith ddysgu mewn lleoliad gofal plant ac mae’n galonogol iawn gweld bod y nifer sy’n manteisio ar leoedd gofal plant cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac mae plant sy’n dysgu ac yn mwynhau ein hiaith o’r cychwyn cyntaf yn cael budd mawr o hynny. Fel llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac mae annog dysgwyr newydd yn hanfodol i gyflawni hyn. Mae’r Cynnig Gofal Plant a ariennir drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o sawl ffordd yr ydym yn darparu cymorth ymarferol i ddysgwyr newydd.”

Dywedodd Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian:

“Gall buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar fod yn allweddol ar gyfer canlyniadau addysgol plant. Mae’n wych gweld y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran ein hymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio i gynnig gofal plant am ddim i bob plentyn dwyflwydd oed.

“Mae miloedd o bobl ledled Cymru yn gweithio’n galed i’n helpu i gyflawni’r ymrwymiad hwn – o’r rhai sy’n cynllunio darpariaeth newydd i’r rhai sy’n gweithio mewn lleoliadau i ddarparu’r gofal plant. Mae eu gwaith mor bwysig ac mae’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i flynyddoedd ffurfiannol plant, ac i’w teuluoedd. Rwy’n edrych ymlaen at ddal ati i weithio gyda Llywodraeth Cymru wrth i’r ehangu barhau.”

Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd rhaglen Dechrau’n Deg yn cefnogi mwy na 9,500 yn ychwanegol o blant dwyflwydd oed diolch i fuddsoddiad pellach o £46m. Mae hyn yn ychwanegol at y Cynnig Gofal Plant, sy’n darparu 30 awr o ofal plant wedi’i ariannu am 48 wythnos y flwyddyn i rieni sy’n gweithio a’r rhai mewn addysg a hyfforddiant sydd â phlant tair a phedair oed.