
Rhoi'r cyfle i bob plentyn allu siarad Cymraeg yn hyderus
Every child to be given the opportunity to confidently speak Welsh
Mae'r Senedd wedi pasio deddfwriaeth nodedig i roi cyfle i bob plentyn ledled Cymru allu siarad Cymraeg yn hyderus, waeth beth fo'u cefndir neu iaith yr ysgol y maent yn ei mynychu.
Nod Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), a basiwyd gan y Senedd heddiw, yw cau'r bwlch yng ngallu disgyblion o wahanol ysgolion i siarad Cymraeg.
Nod y Bil yw symud tuag at darged 2050 o filiwn o siaradwyr drwy gryfhau rôl y Gymraeg mewn addysg, gyda'r amcan cyffredinol o sicrhau bod holl ddisgyblion ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn defnyddio'r Gymraeg yn annibynnol pan fyddant yn gadael yr ysgol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gymraeg, Mark Drakeford: "Mae'r Gymraeg yn perthyn inni i gyd. Mae'r Bil hwn yn rhoi cyfle gwell i blant a phobl ifanc ddod yn siaradwyr Cymraeg, gan ddod â ni'n agosach at ein nod o weld miliwn o siaradwyr yng Nghymru.
"Fel Senedd, rydyn ni wedi creu Bil pwysig, pellgyrhaeddol a fydd yn galluogi pob plentyn i ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus. Dw i'n edrych ymlaen at gydweithio ymhellach wrth inni weithredu'r Bil."
Mae'r ddeddfwriaeth yn nodi tri chategori iaith ar gyfer ysgolion a gynhelir, a lefel ofynnol o addysg Gymraeg i'w darparu gan ysgolion ym mhob categori. Bydd hefyd yn sicrhau bod camau yn cael eu cymryd i ddarparu addysg drochi ddwys yn y Gymraeg ledled Cymru, gan helpu dysgwyr o bob oed i ddatblygu eu sgiliau – hyd yn oed y rhai nad ydynt efallai yn defnyddio'r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd ar hyn o bryd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: "Mae ein dull trochi hwyr yn y Gymraeg yn unigryw. Mae'r Bil hwn yn adeiladu ar y gwaith ardderchog sydd eisoes yn digwydd ledled Cymru, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael dysgu'r Gymraeg, ei defnyddio ac elwa ohoni."
Mae'r llywodraeth yn cefnogi ysgolion i wireddu'r uchelgais hon drwy:
- Barhau â chynlluniau grant i gynyddu nifer yr athrawon a'r cynorthwywyr sy'n siarad Cymraeg.
- Cynnig gwersi Cymraeg am ddim i holl staff ysgolion.
Nodiadau i olygyddion
Mae cynlluniau i gynyddu’r nifer o staff ysgol sy'n siarad Cymraeg yn cynnwys:
- Cynllun Pontio - cefnogi siaradwyr Cymraeg mewn ysgolion cynradd neu'r rhai sy'n addysgu mewn ysgolion y tu allan i Gymru i ddod yn athrawon ysgolion uwchradd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg
- Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory - cymhelliant o £5,000 i fyfyrwyr sy'n astudio i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu i addysgu'r Gymraeg fel pwnc.
- Bwrsariaeth cadw athrawon Cymraeg mewn addysg – bwrsariaeth o £5,000 i athrawon uwchradd sydd wedi dysgu Cymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg am dair blynedd ers 2020 ac sy'n parhau i gael eu cyflogi yn eu pedwaredd flwyddyn o addysgu
- Parhau i ddatblygu llwybrau amgen i addysgu, gan gynnwys ehangu'r rhaglenni'r Brifysgol Agored a modelau amgen eraill, gan gynnwys rhaglen ysgol Metropolitan Caerdydd a achredwyd yn ddiweddar.
- Amrywiaeth o gyrsiau am ddim i ymarferwyr ddatblygu eu sgiliau Cymraeg a ddarperir gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg, gan gynnwys cynllun Sabothol.
Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)
I grynhoi, mae'r Bil:
- yn darparu sail statudol ar gyfer targed 2050 o filiwn o siaradwyr Cymraeg;
- yn sicrhau bod targedau yn cael eu gosod mewn perthynas â'r Gymraeg mewn addysg a defnydd o'r Gymraeg, gan gynnwys yn y gweithle ac yn gymdeithasol;
- yn sefydlu dull safonol i bobl o bob oed ddisgrifio eu gallu yn y Gymraeg yn seiliedig ar safonau rhyngwladol (Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd);
- yn nodi tri chategori iaith ar gyfer ysgolion, gan gynnwys isafswm o addysg Gymraeg sydd i'w ddarparu gan ysgolion (sy'n cynnwys addysgu'r Gymraeg fel pwnc yn ogystal ag addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg):
- categori "Prif Iaith – Cymraeg" (80%)
- categori "Dwy Iaith" (50%)
- categori "Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg" (10%)
- yn gosod nodau dysgu Cymraeg ar gyfer pob categori iaith;
- yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cymryd camau i ddarparu addysg drochi ddwys yn Gymraeg i blant o 7 oed sy'n dymuno mynychu ysgol categori "Prif Iaith – Cymraeg" neu "Dwy Iaith";
- yn creu system o gynllunio addysg Gymraeg ar lefel genedlaethol, lleol ac ysgol;
- sefydlu Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol i, ymhlith pethau eraill:
- darparu cymorth i ddysgu Cymraeg fel bod mwy o bobl (o bob oedran) yn dysgu'r iaith ac yn ei defnyddio yn eu bywydau bob dydd; a
- trefnu i'r gweithlu addysg ddysgu Cymraeg a gwella eu sgiliau Cymraeg.
Mae'r Bil ar gael ar wefan y Senedd.