English icon English

Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn – Llywodraeth Cymru yn amlinellu cynlluniau i newid y ffordd rydyn ni'n teithio

One network, one timetable, one ticket – Welsh Government sets out plans to change the way we travel

“Ers dros 70 mlynedd rydyn ni wedi ei gwneud yn haws teithio mewn car ac yn anoddach teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus – mae'n rhaid i hynny newid.”

Dyna oedd geiriau'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters wrth iddo gyhoeddi cynlluniau i gyflwyno deddfwriaeth i newid y ffordd mae gwasanaethau bysiau'n cael eu darparu ledled Cymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog mai cynllunio system sy'n 'hawdd ei defnyddio, hawdd cael mynediad ati ac wedi'i chysylltu'n dda' fyddai ei brif flaenoriaeth, i ddarparu trafnidiaeth gynaliadwy sy'n 'ddewis cynaliadwy ymarferol’ i bobl yn lle defnyddio ceir preifat.

Mae'r Papur Gwyn ar Fysiau, a gafodd ei gyhoeddi heddiw, yn gam allweddol tuag at fodel newydd ar gyfer gweithredu bysiau yng Nghymru, ac yn gyfle inni edrych ar yr hyn mae angen i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus Cymru ei ddarparu.

Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol, y diwydiant bysiau a theithwyr ar fodel masnachfreinio arfaethedig sydd â'r nod, yn y pen draw, o ddarparu Un Rhwydwaith, Un Amserlen ac Un Tocyn.

Fel rhan o'r gwaith hwn, mae ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos yn agor heddiw, i ganiatáu i bobl ledled Cymru ddweud eu dweud ar sut bydd y system newydd yn cael ei chynllunio.

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am drafnidiaeth:

“Ers gormod o flynyddoedd rydyn ni wedi creu diwylliant lle rydyn ni'n dibynnu ar geir sydd wedi caniatáu rhyddid a hyblygrwydd unigol yr ydyn ni i gyd yn eu gwerthfawrogi, ond mae hefyd wedi arwain at anghydraddoldebau ac iddyn nhw wreiddiau dwfn a niwed i'r amgylchedd.

“Wrth inni geisio adfer o'r pandemig a chymryd camau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, bydd bysiau’n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gysylltu ein cymunedau a chynnig dewis arall cynaliadwy i bobl yn lle defnyddio ceir preifat.

“Rydyn ni wedi gweld dirywiad graddol yn y diwydiant bysiau yng Nghymru dros y blynyddoedd ac, o ganlyniad, rydyn ni wedi etifeddu diwydiant sydd wedi torri y mae angen buddsoddi ynddo yn fawr iawn.

“Ond, rwy'n hyderus y bydd y cynlluniau rydyn ni wedi'u cyhoeddi heddiw yn helpu i baratoi'r ffordd at adferiad iach.

“Ein bwriad yw rhoi pobl o flaen elw a darparu rhwydwaith bysiau ar gyfer teithwyr sydd wedi'i gynllunio'n dda, yn hawdd ei ddeall ac wedi’i gysylltu sy'n sicrhau bod gwneud y peth iawn yn hawdd.”

Cyn y diwygio deddfwriaethol hwn, mae 'Bws Cymru' yn amlinellu map ffordd manwl ar gyfer sut rydyn ni am wella pob agwedd ar ddarparu gwasanaethau bysiau i deithwyr. Mae hyn yn cynnwys seilwaith, dyrannu ffyrdd, hygyrchedd, integreiddio â dulliau trafnidiaeth gyhoeddus eraill ac, yn ehangach, sut y gallwn ni sicrhau newid cadarnhaol drwy weithio gyda'n partneriaid mewn llywodraeth leol a'r diwydiant bysiau.

Fel rhan o ymrwymiad parhaus i gludiant i'r ysgol, heddiw cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganfyddiadau'r Adolygiad o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr a gynhaliwyd y llynedd.

Nodwyd nifer o feysydd yr oedd angen eu hystyried ymhellach. Mae'r camau nesaf sydd i'w cymryd yn cael eu hamlinellu yn yr adroddiad, a bydd ymgynghoriad i ddilyn yn ddiweddarach eleni.

Nodiadau i olygyddion

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus deuddeg wythnos (dolen) yn agor ddydd Iau 31 Mawrth ac yn rhedeg tan ddydd Gwener 24 Mehefin.

Cysylltiadau:

Ymgynhoriad: Papur Gwyn: Un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn: cynllunio bysiau fel gwasanaeth cyhoeddus i Gymru

Bws Cymru: Bws Cymru: cysylltu pobl â lleoedd

Teithio gan DdysgwyrTeithio gan ddysgwyr: Adolygiad 2021 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) (2008)