English icon English
FM gets flu vaccine

Y Prif Weinidog yn annog pobl i gael y brechlyn ffliw wrth iddo gael y pigiad

First Minister encourages people to get the flu vaccine as he gets the jab

Yr wythnos hon, cafodd y Prif Weinidog Mark Drakeford, ei frechu rhag y ffliw ac anogodd eraill i fanteisio ar y cyfle y gaeaf hwn i helpu i gadw pobl yn ddiogel ac iach.

Eleni, bydd Cymru'n rhoi ei rhaglen fwyaf erioed ar waith i frechu rhag y ffliw, gyda phobl 50 oed a hŷn a’r holl bobl hynny sy’n gymwys am frechlyn am ddim yn cael eu gwahodd i fynd am eu pigiad.

Mae’r rhaglen frechu rhag y ffliw mewn ysgolion hefyd wedi cael ei hestyn eleni i gynnwys pob disgybl ysgol uwchradd ym mlynyddoedd 7-11.

Yn ogystal â hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi estyn y brechlyn ffliw am ddim i bob gweithiwr gofal sylfaenol yng Nghymru.

Mae’r rhai hynny sy’n gymwys am y brechlyn ffliw am ddim hefyd yn cynnwys merched beichiog a phobl sydd â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes.

Bydd y rhaglen i roi dos atgyfnerthu o’r brechlyn COVID hefyd yn cael ei gweinyddu ar yr un pryd ar gyfer pobl sy’n gymwys, lle bo hynny'n briodol, er mwyn ceisio gwella effeithiolrwydd y broses ac annog mwy o bobl i fanteisio ar y cyfle i gael y ddau frechlyn. Mae modd gweinyddu’r ddau frechlyn ar ôl ei gilydd heb oedi, felly nid oes angen gohirio’r naill apwyntiad ar ôl eu trefnu.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a gafodd ei frechlyn ffliw wythnos yma:

“Yn wahanol i’r llynedd, rydyn ni’n disgwyl i’r ffliw fod ar led yn eang y gaeaf hwn ac mae COVID yn dal i fod gyda ni. Mae’n bwysig iawn bod pobl yn manteisio ar y cyfle i gael y brechlyn ffliw yn ogystal â dos atgyfnerthu o’r brechlyn COVID. Awgryma data y gallai tymor y ffliw y gaeaf hwn fod 50% i 100% yn uwch na'r tymor arferol.

“Fel rydyn ni wedi gweld gyda COVID, mae brechlynnau yn chwarae rhan fawr wrth helpu i’n diogelu ni. Dyma’r ffordd orau o gadw pawb yn ddiogel a helpu i atal lledaeniad y feirws.

“Hoffem ddiogelu cymaint o bobl ag sy’n bosibl, yn arbennig y rhai hynny sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymuned, a lleihau’r pwysau ar ein GIG.”

Dywedodd Anne McGowan, Nyrs Ymgynghorol i Raglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Cael y brechlyn ffliw bob blwyddyn yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddiogelu yn erbyn y ffliw.”

"Mae’n syml i gael y brechlyn, ac i’r rhan fwyaf o grwpiau cymwys mae ar gael un ai yn eu Practis Cyffredinol neu Fferyllfa Gymunedol, gyda threfniadau ar wahân yn eu lle ar gyfer plant oed ysgol a staff y GIG.

"I helpu i sicrhau bod mwy o bobl yn cael eu diogelu rhag yr haint mae’n bwysig iawn cael eich dos atgyfnerthu o’r brechlyn COVID-19 pan fydd yn cael ei gynnig ichi. Mae ar gael i’r grwpiau cymwys hynny a gwblhaodd eu cwrs sylfaenol o frechlynnau yn gynharach eleni.

"Cynigir dosau atgyfnerthu o’r brechlyn COVID-19 drwy wahoddiad yn y canolfannau brechu torfol presennol. Ewch i gael eich un chi pan gewch chi wahoddiad.”