English icon English

Y Prif Weinidog yn cwrdd â mecanyddion ceir trydan y dyfodol

First Minister meets electric car mechanics of the future

Cafodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y cyfle i gwrdd â rhai o fecanyddion ceir trydan y dyfodol wrth ymweld â Choleg Cambria yn Wrecsam.

Mae'r myfyrwyr ar hyn o bryd wedi cofrestru ar gwrs Cerbydau Modur Lefel 3 a fydd yn eu galluogi i ddysgu am Dechnoleg Cerbydau Hybrid/Trydan. Yna, bydd y dysgwyr yn cael cyfle i gofrestru ar gymhwyster Lefel 3 City and Guilds ar gyfer Trwsio a Gwasanaethu Cerbydau Hybrid/Trydan.

Gallant wneud hyn ar safle’r Bers, sy’n gyfleuster arloesol yn cyfuno'r dechnoleg a'r offer diweddaraf gyda dysgu rhyngweithiol.

Mae'r cwrs wedi bod ar gael ers mis Medi eleni a bydd yn helpu i gynyddu nifer y mecanyddion sy'n gallu gweithio ar geir trydan.

Mae safle'r Bers hefyd wedi elwa ar raglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain ganrif Llywodraeth Cymru gyda buddsoddiad o fwy na £13m.

Dywedodd y Prif Weinidog: "Mae wedi bod yn bleser mawr cwrdd â mecanyddion ceir trydan y dyfodol yng Ngholeg Cambria. Rydym am weld mwy o ddefnydd o gerbydau trydan wrth inni fynd i’r afael â'r argyfwng o ran yr hinsawdd.

"Mae angen inni wneud mwy yn ystod y deng mlynedd nesaf nag yr ydym wedi'i wneud yn ystod y deng mlynedd ar hugain diwethaf os ydym am gyrraedd ein targed sero net erbyn 2050. Mae newid i gerbydau trydan yn un ffordd y gallwn wneud gwahaniaeth mawr.

"Mae'n hanfodol bod gennym y sgiliau yng Nghymru i gynnal cerbydau trydan ac mae'n wych gweld y datblygiad hwn yng Ngholeg Cambria.

"Lansiwyd y Warant i Bobl Ifanc gennym yn ddiweddar, un o ymrwymiadau allweddol y llywodraeth hon. Nod y warant yw rhoi’r cyfle i bawb o dan 25 oed gael addysg, hyfforddiant, cyflogaeth a hunangyflogaeth.

"Cymru'n Gweithio yw’r porth hwylus i gael mynediad at y Warant i Bobl Ifanc.

"Mae'r math hwn o gwrs arloesol a gynigir yma yng Ngholeg Cambria yn enghraifft o'r hyn sydd ar gael i'n pobl ifanc."

Dywedodd Pennaeth Coleg Cambria, Sue Price: "Roedd yn bleser croesawu'r Prif Weinidog a dangos iddo'r cyfleusterau modern ac arloesol sydd gennym yma ar safle Ffordd y Bers yn Wrecsam.

"Ein cyfleuster hyfforddiant cerbydau trydan a hybrid oedd un o'r rhai cyntaf yn y wlad ac mae’n arwain ar ddatblygiadau yn y diwydiant moduron. Bydd Coleg Cambria yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o fecanyddion i ateb cynnydd yn y galw am y sgiliau hyn, wrth i'r DU weithio at newid o betrol a diesel i ddefnyddio tanwydd nad yw’n danwydd ffosil nac yn allyrru nwyon.

"Mae'r ffocws byd-eang ar newid yn yr hinsawdd a gostwng ein hôl troed carbon yn golygu y byddwn yn defnyddio'r dechnoleg sydd gennym i droi at feysydd eraill a ffurfio partneriaethau newydd a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'n hamgylchedd am genedlaethau i ddod.

"Roedd gallu dangos hynny i'r Prif Weinidog yn galonogol i'r staff a'r myfyrwyr yma yn Wrecsam, ac rydym yn diolch iddo am ei gefnogaeth."

Cyfarfu'r Prif Weinidog hefyd â dau of ifanc blaengar o Wrecsam ar ei ymweliad. Mae’r cefndryd Ollie a Harvey Roberts o Fwras, sy’n 13 a 12 oed, wedi dysgu am waith metel gan eu taid, Anthony Roberts. Yn ystod y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth, a chan ddefnyddio'u gwybodaeth a'u sgiliau newydd, penderfynodd y ddau ddechrau eu busnes gof eu hunain ac maent wedi creu nifer o nwyddau gan gynnwys bracedi ar gyfer basgedi crog, ac maent wedi adnewyddu gwibgart hefyd.

Dywedodd y Prif Weinidog: "Mae Ollie a Harvey yn ysbrydoliaeth ac mae wedi bod yn bleser clywed am eu cyflawniadau. Dymunaf yn dda iawn iddynt ar gyfer y dyfodol.

"Mae'n hanfodol ein bod yn meithrin y genhedlaeth nesaf o arloeswyr ac entrepreneuriaid drwy'r Warant i Bobl Ifanc. Mae'r bobl ifanc yr wyf wedi cwrdd â hwy heddiw wedi ennill mewnwelediad, sgiliau a hyder a fydd yn eu galluogi yn y dyfodol i oresgyn pa bynnag heriau sydd o'u blaenau."