English icon English
FM Wrexham 1-2

Y Prif Weinidog yn ymuno â heddlu Wrecsam ar y strydoedd

First Minister joins Wrexham police on the beat

Ymunodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford â swyddogion yr heddlu ar y strydoedd yn Wrecsam heddiw [dydd Mercher, 24 Tachwedd] i wrando ar eu profiadau ac i weld hefyd sut y gall Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSOs) a ariennir gan Lywodraeth Cymru helpu i gadw cymunedau yn ddiogel.

Roedd y Prif Weinidog wedi cael gwahoddiad i ymuno â swyddogion yr heddlu ar y strydoedd gan Orsaf Heddlu Wrecsam.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £3.7 miliwn yn ychwanegol i ariannu 100 o PCSOs ychwanegol ledled Cymru i fynd i’r afael â throseddu a chefnogi cymunedau.

Mae’r 100 o PCSOs ychwanegol yn dod â’r cyfanswm a ariennir gan Lywodraeth Cymru i 600, gyda 121 yng ngogledd Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Hoffwn ddiolch i’r swyddogion yr wyf wedi cyfarfod â nhw heddiw yn Wrecsam am rannu eu profiadau gyda mi, ac am y gwaith pwysig a gwerthfawr y maen nhw’n ei wneud bob dydd i gadw pawb ohonom yn ddiogel. Yn benodol, hoffwn ddiolch iddyn nhw a’u holl gydweithwyr am eu gwaith yn ystod y pandemig, a hoffwn dalu teyrnged i’w hymroddiad.

“Mae plismona yn rhan bwysig o’n cymunedau, ac mae cael swyddogion ar lawr gwlad sy’n rhan o’r cymunedau hyn ac yn eu hadnabod yn dda yn hanfodol.

“Dyna pam y mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn ariannu PCSOs. Maen nhw’n gyswllt hanfodol rhwng ein cymdogaethau a gwasanaethau’r heddlu ac yn chwarae rôl bwysig wrth gadw ein cymunedau yn ddiogel.”

Mae PCSOs yn gweithio gyda swyddogion yr heddlu ac yn rhannu rhai o’u pwerau, ond nid eu holl bwerau. Maent yn gyswllt hanfodol rhwng eu cymunedau a gwasanaeth yr heddlu wrth sicrhau bod gan bobl y cymorth sydd ei angen arnynt.

Mae PCSOs yn helpu gyda rhai o wasanaethau plismona’r rheng flaen megis atal goryrru y tu allan i’n hysgolion, adrodd am fandaliaeth neu leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dywedodd yr Arolygydd Luke Hughes o Orsaf Heddlu Wrecsam:

“Rwy’n ddiolchgar i’r Prif Weinidog am ddod i Wrecsam heddiw ac ymuno â PS Evans ar batrôl yng nghanol ein tref.

“Mae Wrecsam bellach yn sicr yn dechrau cael gwared ar yr enw drwg a gafodd rai blynyddoedd yn ôl. Nid yw bellach fel y disgrifiodd y wasg hi, a oedd hyd yn oed ar y pryd yn annheg ac yn tynnu oddi wrth yr hyn a oedd gan ein tref hanesyddol a balch i’w gynnig.

"Yn ddiweddar, a chyda chefnogaeth swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu rydym wedi sicrhau cryn dipyn o gyllid a fydd yn cael ei ailfuddsoddi’n lleol. Fy nod yw cynyddu presenoldeb gweledol yr heddlu yng nghanol y dref a chydag ychwanegiad pum PCSO newydd i’r tîm cymdogaeth lleol byddwn yn sicr yn gallu gwneud hynny. Bydd eu presenoldeb yn cyfrannu at yr ymdeimlad cynyddol o ddiogelwch yn y dref, ddydd a nos.

“Byddwn yn annog y gymuned leol i fod yn falch o’r hyn sydd wedi cael ei gyflawni’n lleol; diddordeb a buddsoddiad rhyngwladol yn ein clwb pêl-droed, ymhlith pethau eraill. Peidiwch â chyfrannu at y sylwadau negyddol yr wyf yn eu gweld ar y cyfryngau cymdeithasol, na gwrando arnyn nhw. Dewch i’r dref dros yr ŵyl a sylweddoli bod gennym ganol tref gwerth chweil, un i fod yn falch ohono ac un a fydd yn parhau i fynd o nerth i nerth. Os oes gennych ffydd yn Wrecsam, yna bydd gennych unwaith eto, y dref yr hoffech ei chael.”

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru Andy Dunbobbin:

“Roedd cryfhau plismona cymdogaethau yn flaenoriaeth allweddol yn fy maniffesto pan gefais fy ethol ym mis Mai eleni ac mae’n sylfaen i fy Nghynllun Heddlu a Throseddu sy’n amlinellu’r glasbrint ar gyfer plismona yng ngogledd Cymru.

“Mae gan PCSOs rôl bwysig wrth sicrhau bod ein cymunedau yn elwa ar blismona gweledol, rhoi sicrwydd i’r cyhoedd a chasglu gwybodaeth ar lawr gwlad i fynd i’r afael â throseddu cyfundrefnol a difrifol.

“Rwy’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru yn gyffredinol ac i’r Prif Weinidog yn benodol am chwarae eu rhan drwy ariannu 100 o PCSOs ychwanegol ledled Cymru.

“Rwy’n hynod falch bod gogledd Cymru yn cael 20 o PCSOs ychwanegol, i gadw ein pobl a’n cymunedau yn ddiogel ac ymateb i bryderon allweddol y mae pobl wedi’u mynegi. Mae’n bwysig tu hwnt i lesiant pobl.”