Ailbenodi Dafydd Trystan Davies yn Gadeirydd y Bwrdd Teithio Llesol
Dafydd Trystan Davies re-appointed as Chair of Active Travel Board
Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi cyhoeddi bod Dr Dafydd Trystan-Davies wedi’i ailbenodi’n Gadeirydd Bwrdd Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.
Cafodd Dr Dafydd Trystan Davies ei benodi’n gadeirydd annibynnol y Bwrdd Teithio Llesol ym mis Medi 2020 yn wreiddiol.
Bydd yn parhau â’i waith o arwain y bwrdd yn ei rôl o gynghori a chefnogi Gweinidogion Cymru ynglŷn â gweithredu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a chynyddu cerdded a beicio yng Nghymru.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James,
“Rwy’n falch bod Dafydd Trystan Davies wedi’i ailbenodi’n Gadeirydd ein Bwrdd Teithio Llesol. Bydd yn parhau i ddod â chyfoeth o brofiad i’r rôl wrth hyrwyddo teithio llesol a chreu amodau yng Nghymru a fydd yn ei gwneud yn llawer haws, llawer mwy diogel a llawer mwy deniadol i lawer mwy o bobl gerdded a theithio ar feic bob dydd.”
Dywedodd Dr Dafydd Trystan Davies,
“Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi fy ailbenodi’n Gadeirydd y Bwrdd Teithio Llesol. Mae’r pandemig wedi bwrw ei gysgod dros ein gwaith dros y ddwy flynedd diwethaf, ond rwy’n hyderus, gyda’r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu teithio llesol ledled Cymru ac ymgysylltu cadarnhaol gan awdurdodau lleol a phartneriaid eraill, y byddwn yn gallu gwneud cryn gynnydd dros y ddwy flynedd nesaf. Nid yw’r argyfwng hinsawdd rydym yn ei wynebu yn mynnu dim llai.”