Cenhedloedd datganoledig yn beirniadu cynlluniau annerbyniol a diangen Llywodraeth y DU i ollwng y Ddeddf Hawliau Dynol
Devolved nations criticise “unwelcome and unnecessary” UK Government plans to drop Human Rights Act
Mae Llywodraethau Cymru a’r Alban wedi disgrifio cynlluniau Llywodraeth y DU i ddisodli’r Ddeddf Hawliau Dynol â Bil Hawliau fel ymosodiad ar ryddid pobl ar sail ideoleg.
Mae Gweinidogion wedi galw ar Lywodraeth y DU i wrando ar dystiolaeth cymdeithas sifil a’r proffesiwn cyfreithiol a thynnu ei chynigion yn ôl.
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y DU wrthi’n ymgynghori ar gynlluniau i ddisodli’r Ddeddf Hawliau Dynol â Bil Hawliau, er gwaethaf y ffaith bod ei Hadolygiad Annibynnol ei hun o’r Ddeddf Hawliau Dynol wedi methu â dod o hyd i reswm da dros wneud newidiadau sylweddol.
Daw’r alwad gan y ddwy wlad cyn digwyddiad yn nes ymlaen heddiw a drefnwyd gan Gonsortiwm Hawliau Dynol Gogledd Iwerddon, Consortiwm Hawliau Dynol yr Alban a Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru. Bydd llywodraethau datganoledig ac arbenigwyr cymdeithas sifil ledled y DU yn cyfrannu at y digwyddiad.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Gweinidogion o Lywodraethau Cymru a’r Alban:
“Mae gennym bryderon difrifol a dwfn ynghylch y cynigion presennol ac ynghylch trywydd Llywodraeth y DU yn y tymor hirach.
“Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn chwarae rôl hanfodol bwysig o ran diogelu hawliau dynol sylfaenol ledled y Deyrnas Unedig. Ers mwy na dau ddegawd, mae wedi sicrhau manteision i aelodau unigol o gymdeithas ac wedi gofalu bod cyrff cyhoeddus yn parchu, yn diogelu ac yn gweithredu hawliau dynol.
“Mae’r hyn a gyflawnir yn sgil y Ddeddf yn cwmpasu popeth o weithredu ynghylch cydraddoldeb i fenywod i ddiogelu rhyddid mynegiant a’r hawl i brotestio. Mae wedi helpu teuluoedd y lluoedd arfog i sicrhau cyfiawnder pan na chawsant eu hawliau, mae wedi helpu i sicrhau cydraddoldeb i bobl LHDTC+, a gofalu bod sgandalau ynghylch esgeulustod meddygol a cham-drin cleifion a oedd yn agored i niwed yn cael eu dadlennu i’r cyhoedd. Mae hefyd wedi helpu pobl i herio polisïau lles annheg megis treth ystafell wely.
"Mae’r Ddeddf wedi bod yn gwbl ganolog hefyd yn y frwydr dros gyfiawnder yn dilyn trychineb Hillsborough, ac wrth i ddioddefwyr y ‘treisiwr cab du’ herio’n llwyddiannus fethiannau difrifol yr Heddlu Metropolitanaidd. Ac mae’n sobreiddiol ystyried sut y gallai Deddf Hawliau Dynol wannach fod wedi arwain at anfon mwy byth o genhedlaeth Windrush o’r wlad.
“Daeth yr Adolygiad Annibynnol o’r Ddeddf Hawliau Dynol i’r casgliad nad oedd rheswm da dros wneud newidiadau sylweddol i’r Ddeddf fel y mae ar hyn o bryd, ar sail y dystiolaeth helaeth gan rai o arbenigwyr cyfreithiol amlycaf y Deyrnas Unedig. Gellir ond dehongli penderfyniad i ddiystyru’r swmp hwnnw o dystiolaeth ac arbenigedd i fwrw ymlaen â chynlluniau fel ymosodiad ar y rhyddid a ddiogelir gan y Ddeddf Hawliau Dynol ar sail ideoleg.
“Mae’r cynigion ar gyfer ‘Bil Hawliau modern’ yn annerbyniol ac yn ddiangen. Rydym yn glir iawn ar y ffaith mai cadw’r Ddeddf Hawliau Dynol ar ei ffurf bresennol sy’n diogelu buddiannau pobl Cymru a’r Alban yn y ffordd orau.”
- Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru
- Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn Llywodraeth Cymru
- Christina McKelvie, y Gweinidog Cydraddoldeb a Phobl Hŷn yn Llywodraeth yr Alban