Cryfhau cymorth i bobl ifanc a theuluoedd ar gyfer mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau
Strengthening substance misuse support for young people and families
Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ynghylch y modd y mae gwasanaethau sy’n darparu triniaeth i bobl ifanc a theuluoedd ar gyfer mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau yn cael eu darparu yng Nghymru.
Mae dros 500 o blant yng Nghymru yn cael cymorth er mwyn gweithredu ar gamddefnyddio sylweddau, tra bo mwy na 4,000 yn cael gofal a chymorth gan fod eu rhieni â phroblemau camddefnyddio sylweddau.
Mae Llywodraeth Cymru am wella gwasanaethau i bobl hyd at 25 oed, gan sicrhau bod modd asesu anghenion unigolion yn well, a datblygu model ar gyfer un gwasanaeth i bobl sydd ag anghenion lluosog neu gymhleth.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r galw am gymorth i blant a phobl ifanc yng nghyswllt camddefnyddio sylweddau wedi cynyddu. Mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu ei chyllid sydd wedi’i glustnodi yn 2022-23 i £3.75 miliwn – sef £1 filiwn o gynnydd – ac mae wedi ymrwymo i godi’r swm hwnnw i £6.25 miliwn erbyn 2024-25 er mwyn helpu i gwrdd â’r galw.
Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ynghylch Fframwaith Triniaeth Camddefnyddio Sylweddau ar gyfer plant a phobl ifanc. Bwriad y fframwaith yw cynorthwyo darparwyr ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a chyfiawnder troseddol i ddarparu gwasanaethau atal a thrin o ansawdd uchel i’r rhai sydd mewn perygl o gael problemau camddefnyddio sylweddau, neu sy’n profi problemau o’r fath.
Ddoe, ymwelodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, â chanolfan yng Nghaerdydd sy’n darparu cymorth i bobl ifanc a theuluoedd y mae materion camddefnyddio sylweddau yn effeithio arnynt.
Dywedodd Lynne Neagle:
“Gall camddefnyddio sylweddau effeithio ar bobl o bob oedran ac o unrhyw gefndir. Mae ein gwasanaethau ar gyfer mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau yn darparu cymorth hanfodol i unigolion a theuluoedd ledled Cymru.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gwasanaethau’n canolbwyntio ar ymyrryd ac atal yn gynnar, fel bod niwed mwy hirdymor yn cael ei atal cyn iddo ddigwydd. Mae’r Fframwaith Triniaeth Camddefnyddio Sylweddau yn rhoi arweiniad pwysig er mwyn helpu darparwyr i roi cymorth yn llwyddiannus i’r bobl y maen nhw’n gweithio gyda nhw.
“Rydyn ni am glywed oddi wrth gymaint o bobl ag y bo modd yn ein hymgynghoriad, yn enwedig y bobl sy’n gweithio ym maes cymorth ac atal o ran camddefnyddio sylweddau, neu bobl y mae camddefnyddio sylweddau yn effeithio arnyn nhw’n bersonol. Bydd hynny’n ein helpu, yn y pen draw, i wella canlyniadau a lleihau niwed i blant a phobl ifanc.”