English icon English

Cyllid gwerth cannoedd o filoedd o bunnoedd i undebau credyd sy’n cynnig achubiaeth wrth i’r Gweinidogion annog y rhai sy’n cael trafferthion i geisio cymorth mewn lle diogel

Hundreds of thousands of pounds of funding for ‘lifeline’ credit unions as Ministers urge those struggling to turn to a safe place for help

Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru heddiw (dydd Iau 5 Ionawr) wedi ymweld ag undebau credyd ledled Cymru wrth iddynt gyhoeddi cyllid estynedig gwerth ychydig dros £422,000 y flwyddyn i sefydliadau sy’n cynnig cymorth hanfodol i’r rhai sy’n wynebu anawsterau ariannol.

Mae undebau credyd yn sefydliadau nid-er-elw sydd ym mherchnogaeth y bobl sy’n defnyddio eu gwasanaethau, yn hytrach na rhanddeiliaid allanol neu fuddsoddwyr.

Mae undebau credyd yn ymwneud â chymunedau ar hyd a lled y wlad ac yn cyfrannu at yr economi ac at les ariannol yr aelodau, a all gynilo mewn modd diogel a benthyg arian ar gyfradd llog fforddiadwy.

Ar ymweliad ag Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro ochr yn ochr â’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Gall yr adeg hon o’r flwyddyn fod yn arbennig o anodd gan fod rhaid i bobl yn awr ddelio â chostau’r Nadolig.

“Y gaeaf hwn yn enwedig, yn ystod argyfwng costau byw digynsail, gwyddom fod llawer yn ei chael yn anodd iawn. Yn anffodus bydd benthycwyr arian didrwydded a benthycwyr stepen drws llog uchel yn targedu’r rhai sy’n wynebu anawsterau ariannol.

“Rwy’n annog y rhai mewn angen i fynd at eu hundebau credyd lleol, sy’n gallu cynnig credyd teg a fforddiadwy – gan ategu ein taith i hybu cyfiawnder cymdeithasol a threchu tlodi yng Nghymru.”

Gall undebau credyd helpu’r rhai a allai yn draddodiadol ei chael yn anodd cynilo drwy gynnig cynlluniau fel didyniadau o’r gyflogres. Maent hefyd yn cynnig cynlluniau cynilion Nadolig sydd ond yn caniatáu tynnu arian yn y cyfnod sy’n arwain at yr ŵyl, gan helpu ar adeg o’r flwyddyn sy’n aml yn heriol.

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

“Bydd llawer ohonom ddim eisiau hyd yn oed meddwl am y Nadolig nesaf, ond gallai nawr fod yr amser perffaith i ystyried dechrau cynilo. Gall undebau credyd wneud y broses honno’n haws.”

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid refeniw i unedau credyd i sicrhau y gallant ddatblygu llu o brosiectau mewn cymunedau gyda’r nod o gael rhagor o aelodau.

I amlygu pwysigrwydd unedau credyd yng Nghymru, fe wnaeth Gweinidogion yng Nghabinet Llywodraeth Cymru gymryd rhan mewn ymweliad wedi’i gydlynu ar hyd a lled y wlad, gan godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau maent yn eu darparu, sy’n cynnwys benthyca fforddiadwy.

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:

“Rwy’n annog y rhai sy’n ei chael yn anodd ac yn cael eu temtio i ddefnyddio credyd cost uchel i droi at eu hundebau credyd lleol fel dewis cyfrifol yn lle mathau eraill o fenthyciadau.

“Mae’n amlwg fod unedau credyd Cymru yn gweithio’n galed iawn a hoffwn ddiolch iddynt am eu hymrwymiad i ddarparu cynilion moesegol a benthyciadau fforddiadwy.

“Maent wir yn achubiaeth i bobl ledled Cymru.”