Cyngor newydd i ysgolion ynghylch defnyddio e-sigaréts
New advice for schools about vaping
Heddiw, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd i ysgolion uwchradd ar gyfer mynd i'r afael â defnyddio e-sigaréts.
Mae'r canllawiau'n nodi manylion ynghylch defnydd e-sigaréts ymhlith pobl ifanc yng Nghymru a chamau y gall ysgolion eu cymryd i fynd i'r afael â defnyddio e-sigaréts.
Mae ffigurau Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion yn dangos bod 20% o bobl ifanc o flwyddyn 7 i flwyddyn 11 yn dweud eu bod wedi rhoi cynnig ar e-sigaréts, gyda 5% o ddisgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru yn eu defnyddio o leiaf unwaith yr wythnos.
Mae iechyd a lles yn rhan orfodol o'r Cwricwlwm newydd i Gymru, ac mae'r canllawiau'n darparu cyfleoedd i addysgu am e-sigaréts a'r dyfeisiau ar gyfer eu defnyddio. Dylid gwneud hyn fel rhan o addysg ehangach ynghylch camddefnyddio sylweddau.
Mae'r canllawiau hefyd yn cynnwys cyngor i ysgolion ehangu eu polisïau ar ysmygu ac ymddygiad i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn defnyddio e-sigaréts. Anogir ysgolion i ddatblygu'r rhain gyda dysgwyr, staff a chymuned ehangach eu hysgol.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: "Ni ddylai unrhyw un o dan 18 oed fod yn defnyddio e-sigaréts. Mae ysgolion yn dweud wrthym bod hyn yn broblem go iawn, boed hynny oherwydd pwysau gan gyfoedion, marchnata lliwgar wedi'i anelu at blant neu ddiffyg dealltwriaeth o'r risgiau posibl i iechyd. Rwy'n gobeithio y bydd y canllawiau newydd hyn yn helpu disgyblion i ddeall effaith defnyddio e-sigaréts fel y gallant wneud y penderfyniadau cywir.
"Mae ein cwricwlwm newydd yn rhoi'r hyblygrwydd i athrawon addasu eu gwersi yn ôl y problemau a'r heriau sy'n wynebu eu disgyblion. Dylai hyn gynnwys dysgu am effeithiau defnyddio e-sigaréts ar iechyd a lles. Mae pob ysgol uwchradd bellach yn addysgu'r cwricwlwm hwn i flynyddoedd 7 ac 8, a bydd yr adnodd hwn yn cefnogi'r holl ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd."
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:
"Ni ddylai dyfeisiau fêpio fod yn nwylo plant a phobl ifanc ac mae cefnogi pobl i gael plentyndod di-fwg yn flaenoriaeth.
"Mae rhoi'r adnoddau i'n pobl ifanc y mae eu hangen arnynt i gadw'n iach yn ffordd bwysig y gallwn eu helpu i wella eu hiechyd a'u lles. Bydd y canllawiau hyn yn helpu ysgolion i dynnu sylw at beryglon iechyd defnyddio e-sigaréts a chefnogi pobl ifanc a allai fod yn gaeth ac sy'n dymuno rhoi'r gorau iddynt."
Dywedodd Dr Julie Bishop, Cyfarwyddwr Gwella Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
"Mae ein gwaith gyda'r grŵp amlasiantaeth ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau wedi tynnu sylw at heriau newydd sylweddol y mae ein lleoliadau addysg yn eu hwynebu wrth ymateb i'r defnydd o e-sigaréts ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. Rydym yn gobeithio y bydd y canllawiau cynhwysfawr hyn yn gam cyntaf o ran cefnogi staff addysg i fynd i'r afael â'r broblem gynyddol hon."