English icon English
Cynllun Sgiliau Sero Net

Cynllun newydd i ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen ar blant a gweithwyr heddiw i weithio yn swyddi ‘sero net’ y dyfodol

New plan to equip today’s children and workers with the skills needed to work in the ‘net zero’ jobs of tomorrow

  • Bydd cynllun sgiliau sero net newydd yn amlinellu gweledigaeth o'r rôl y bydd sgiliau yn ei chwarae wrth symud Cymru oddi wrth economi tanwydd ffosil y gorffennol i ddyfodol carbon isel newydd, fel rhan o broses bontio teg.
  • Bydd swyddi sero net yn dod yn gonglfaen diwydiannau newydd y dyfodol, sydd siŵr o fod ddim yn bodoli eto.
  • Gweinidog yr Economi yn lansio cynllun newydd i sicrhau y bydd gan blant a gweithwyr heddiw y sgiliau sydd eu hangen arnynt i weithio yn swyddi newydd economi sero net y dyfodol.

Heddiw mae Llywodraeth Cymru yn nodi sut y bydd yn sicrhau bod gan blant, pobl ifanc a gweithwyr heddiw y sgiliau sydd eu hangen arnynt i weithio yn swyddi newydd y dyfodol yn y diwydiannau "Sero Net" gwyrdd sydd ddim yn bodoli eto.

Heddiw, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, yn cyhoeddi Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach: Cynllun Sgiliau Sero Net Llywodraeth Cymru sy'n cyflwyno gweledigaeth hirdymor ar sut bydd Llywodraeth Cymru, busnesau a diwydiant, y sectorau addysg a sgiliau, a'r undebau llafur yn cydweithio i uwchsgilio pobl Cymru i weithio yn swyddi Sero Net y dyfodol.

Roedd Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn hoelio sylw ar ffocws clir Gweinidogion ar yrru economi gryfach, fwy cystadleuol yng Nghymru drwy leihau'r bwlch sgiliau a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb – er mwyn hybu swyddi da a thynnu pobl allan o dlodi.

Yn y cynllun Cymru Sero Net, a lansiwyd yn 2021, ail-bwysleisiodd Llywodraeth Cymru ei hymrwymiad i bontio teg wrth symud i ffwrdd o economi tanwydd ffosil y gorffennol i ddyfodol carbon isel newydd. Mae hyn yn golygu creu dyfodol gwell, tecach, a gwyrddach i bawb, drwy greu swyddi newydd o ansawdd sy'n helpu i gyflawni ymrwymiadau sero net Llywodraeth Cymru mewn economi sy'n newid yn gyflym.

Mae Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net Llywodraeth Cymru yn nodi ymrwymiad Gweinidogion i sgiliau sero net drwy fuddsoddi mewn pobl, sgiliau a thalent fel gyrwyr hanfodol i sicrhau economi gryfach, decach, a gwyrddach sy'n gweithio i bawb, lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Bydd hyn yn sicrhau y gall gweithlu presennol Cymru uwchsgilio wrth i'r gofynion sgiliau ar gyfer eu swyddi presennol newid a bod gan weithlu'r dyfodol y sgiliau cywir i ymgymryd â'r swyddi sydd ddim yn bodoli eto. Bydd hyn yn allweddol i alluogi Cymru i drawsnewid i economi sero net.

I gyflawni’r weledigaeth ar gyfer Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach, bydd y Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net yn rhoi blaenoriaeth i 7 maes gweithredu allweddol:

  • Meithrin dealltwriaeth o'r sefyllfa sgiliau bresennol ar gyfer pob sector allyriadau - bydd hyn yn nodi'r sefyllfa sgiliau ar gyfer pob un o'r 8 sector allyriadau, pa sgiliau sydd eu hangen yn y tymor byr, y tymor canolig, a’r tymor hir a sut i gyflawni hyn drwy barhau i weithio mewn partneriaeth.
  • Meithrin dealltwriaeth gyffredin o sgiliau sero net ledled Cymru – bydd hyn yn helpu busnesau, gweithwyr a'r rhai sy'n gadael yr ysgol i ddeall beth a olygir gan swyddi gwyrdd/sero net a'r sgiliau sydd eu hangen.
  • Tyfu gweithlu medrus i gyflawni ein hymrwymiadau sero net – mae'r heriau sgiliau sy'n wynebu'r gweithlu yn real iawn nawr. Felly, bydd hyn yn golygu ymateb i'r galw cynyddol gan fusnesau er mwyn i fwy o bobl feithrin sgiliau sero net. Bydd hyn yn cynnwys cefnogi pobl i uwchsgilio yn y sectorau presennol a defnyddio eu sgiliau a'u cymwysterau presennol i helpu'r broses o drosglwyddo o fewn sectorau. I gyflawni hyn, mae Gweinidogion wedi buddsoddi £10miliwn yn ychwanegol mewn Cyfrifon Dysgu Personol eleni er mwyn gwella sgiliau gweithwyr i fynd i’r afael â'r bylchau sgiliau.
  • Cryfhau'r system sgiliau – bydd hyn yn golygu adeiladu ar y sylfeini cryf sy'n bodoli eisoes, gan gynnwys y rhaglen brentisiaethau. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried opsiynau o ran sut y gall fframweithiau prentisiaethau gyflawni'r ymrwymiadau sero net ymhellach. Yn ogystal, bydd Gweinidogion yn ceisio cryfhau'r cynnig o gyrsiau byr i ychwanegu sgiliau sero net ar gyfer prentisiaid ifanc mewn technoleg a thechnegau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg drwy Gyfrifon Dysgu Personol. Bydd hyn yn caniatáu i Gymru fodloni'r galw am sgiliau sy'n tyfu'n gyflym ym mhob sector.
  • Hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer y blynyddoedd cynnar a phobl ifanc er mwyn iddynt wireddu eu potensial – fel rhan o gwricwlwm newydd Cymru, bydd hyn yn ymwneud ag ysgogi, cynnwys a pharatoi plant a phobl ifanc i ddeall yn effeithiol eu hopsiynau gyrfa yn y dyfodol, a'r byd gwaith yn niwydiannau'r dyfodol.
  •  Dull traws-lywodraethol sy’n seiliedig ar bartneriaeth o gyflawni ein hymrwymiad sgiliau – bydd hyn yn golygu parhau i ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar bartneriaeth ar draws yr economi gyfan, gan dynnu ar y cryfder a ddarperir gan ein ffordd o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol.
  • Pontio teg – bydd hyn yn golygu nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Bydd hyn yn sicrhau bod unigolion yn rhan o'r sgwrs, drwy hyrwyddo diwylliant cadarnhaol sy'n hyrwyddo tegwch a chydraddoldeb i sbarduno newid.

Wrth lansio’r cynllun newydd, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o sicrhau ein bod yn adeiladu Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach, lle na chaiff neb ei adael ar ôl. Rydym wedi ymrwymo i greu Cymru lle gall unigolion o bob oed gael addysg o ansawdd uchel, gyda swyddi i bawb a lle gall busnesau ffynnu mewn economi sero net sy'n hyrwyddo tegwch a chydraddoldeb.

“Mae'r Cynllun Sgiliau Sero Net rwy'n ei ddatgelu heddiw wedi'i gynllunio i sicrhau y bydd gan blant a gweithwyr heddiw y sgiliau y bydd eu hangen arnynt i weithio yn swyddi'r dyfodol; swyddi fydd yn dod yn gonglfaen diwydiannau newydd y dyfodol sydd naill ai yn eu dyddiau cynnar neu ddim yn bodoli eto.

“Dim ond dechrau'r broses hon yw cyhoeddi'r cynllun newydd. Ni all llywodraeth fynd i'r afael â'r her ar ei phen ei hun. Dim ond drwy weithredu fel ‘Tîm Cymru’ y gallwn ni fwrw ymlaen â'r newidiadau hyn a bodloni ein hymrwymiadau sero net. Mae angen i bawb gymryd cyfrifoldeb a chwarae eu rhan wrth gymryd camau i wella arferion, buddsoddi mewn pobl a chymunedau i arloesi ac adeiladu economi fwy cadarn.

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda'n holl bartneriaid i gyflawni ein Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net i greu Cymru Decach, Gryfach a Gwyrddach i bawb."

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

“Mae ein strategaeth Sero Net, a lansiwyd ychydig dros flwyddyn yn ôl, yn nodi mwy na 120 o bolisïau i helpu Cymru i gyrraedd sero net erbyn 2050.

Bydd y llwybr at sero net yn cynnig cyfleoedd i bobl ddefnyddio eu harbenigedd yn niwydiannau'r dyfodol ac i ddatblygu sgiliau newydd, yn ogystal â darparu gyrfaoedd newydd a chyffrous i bobl ifanc. Bydd y Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net newydd hwn yn arfogi cenedlaethau a busnesau'r dyfodol i fanteisio ar y cyfleoedd hyn ar gyfer swyddi hirdymor mewn meysydd twf.”

Mae mwy o wybodaeth am Gymru Gryfach, Decach a Gwyrddach: Y Cynllun Sgiliau Sero Net i'w gweld yma: www.llyw.cymru/sgiliauseronet