Llywodraeth Cymru’n helpu dros 16,000 o weithwyr i ddysgu sgiliau newydd ac i ailhyfforddi yn ystod pandemig COVID-19
Welsh Government supports over 16,000 workers to upskill and retrain during the COVID-19 pandemic
Cafodd dros 16,000 o weithwyr eu helpu i ddysgu sgiliau newydd ac i ailhyfforddi yn ystod pandemig COVID-19, diolch i gynllun Llywodraeth Cymru, yn ôl ymchwil newydd.
Amcan y Rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol (PLA), rhan o Gynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yw helpu pobl sydd ar incwm is a’r rheini sydd â’u swyddi yn y fantol i ddysgu sgiliau newydd, ennill cymwysterau newydd a chreu gyrfa newydd.
Mae colegau addysg bellach ledled Cymru’n cynnig cyrsiau trwy’r PLA mewn meysydd lle mae prinder sgiliau, fel:
- Adeiladu
- Peirianneg
- TGCh
- Iechyd
- Lletygarwch.
Cafodd Rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol Llywodraeth Cymru ei rhoi ar waith yn gynt na’r bwriad, oherwydd dyfodiad pandemig COVID-19. Yn ogystal, cynigiwyd y rhaglen i weithwyr a chyflogwyr oedd ar ffyrlo dros y pandemig.
Dywed gwerthusiad o’r rhaglen, sydd newydd ei gyhoeddi:
“Mae angen canmol y ffordd y cafodd y rhaglen ei hehangu’n gyflym fel ymateb i alw na ellid bod wedi’i ragweld oherwydd y pandemig. Mae’n enghraifft ardderchog o’r rôl y gall llywodraeth ei chwarae mewn cyfnod o argyfwng yn sgil ergydion annisgwyl allanol i’r economi.”
O ganlyniad:
- Ymunodd 6 gwaith yn fwy na’r nifer gwreiddiol â’r rhaglen, o 1,187 yn 2019/20 i 7,603 ym mlwyddyn academaidd 2020/21
- O ran cyfrannau, cafodd mwy o fenywod eu helpu ym meysydd y rhaglen PLA nag yn yr un pynciau mewn addysg ôl 16 oed yn gyffredinol
- Mae 22% bellach yn dilyn gyrfa wahanol
- Dywedodd 88% fod ganddynt fwy o hunan-hyder
- Dywedodd 82% eu bod yn gliriach o ran eu huchelgais ar gyfer eu gyrfa.
Wrth groesawu’r adroddiad, dywedodd Gweinidog yr Economi Vaughan Gething:
“Rwy’n falch iawn bod Rhaglen PLA Llywodraeth Cymru wedi helpu gweithwyr a chyflogwyr i ymateb i anghenion busnes trwy ddysgu sgiliau newydd ac ailhyfforddi mewn sectorau lle ceir galw.
“Rwy’n falch iawn hefyd gweld bod menywod yn elwa ar y rhaglen, gan eu bod nhw fel arfer yn gorfod wynebu mwy o rwystrau i ddatblygu gyrfa a chael hyfforddiant. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i Gymru decach a mwy cyfartal, lle na chaiff neb ei adael ar ôl na’i ddal yn ôl, ac i newid bywydau pobl er gwell.”
Dywedodd y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles:
“Rwy’n benderfynol o sicrhau bod oedolion yn cael cyfle i ailgreu eu gyrfa fel bod Cymru’n cael ei hystyried yn wlad yr ail gyfle.
“Mae’r Rhaglen PLA yn rhoi cyfle i bobl wneud hynny a dw i mor hapus gweld cymaint o bobl yn ymuno â’r rhaglen a chael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i chwyldroi eu gyrfaoedd.”
Un person wnaeth elwa ar y Rhaglen PLA oedd Helen o Gwm-brân gafodd help i ddechrau ar yrfa newydd ar ôl blynyddoedd yn gofalu’n llawn amser am ei mam-gu.
Trwy’r rhaglen, cafodd Helen astudio cwrs iechyd a diogelwch yng Ngholeg Gwent i’w helpu i newid gyrfa. Roedd y cwrs yn un hyblyg ac yn hawdd ei addasu o gwmpas ei gofalon a’i bywyd fel mam a gweithiwr amser llawn.
Dywedodd:
“Mater syml iawn oedd trefnu Cyfrif Dysgu Personol. Y cyfan yr oedd angen ei wneud oedd llenwi ffurflen ar-lein ac ychydig o alwadau ffôn, a dyna bopeth wedi’i drefnu ac yn barod i ddechrau.
“Mantais anferth i fi yw nad oedd angen i fi dalu amdano. Roeddwn i’n gallu dechrau’r cwrs ar unwaith heb orfod aros i gynilo digon o arian ar ei gyfer.”
Mae Helen yn bwriadu cwblhau ei chymwysterau a dal ati i ddysgu sgiliau newydd.
Darllenwch am y Cyfrif Dysgu Personol i ddysgu mwy neu holwch Cymru'n Gweithio
DIWEDD.