English icon English
Money-5

Pecyn £45m i hyfforddi staff a helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru i dyfu

£45m package to train staff and help Welsh SMEs grow

Heddiw, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, becyn £45m o gyllid a fydd yn helpu busnesau bach ledled Cymru i dyfu a chefnogi miloedd o bobl i hyfforddi i weithio mewn sectorau allweddol.

Fel rhan o'r pecyn, bydd £35m yn helpu busnesau bach a chanolig (BBaCh) yng Nghymru i i ail-ddechrau, datblygu, datgarboneiddio a thyfu i helpu i sbarduno adferiad economaidd Cymru. Bydd y cyllid yn cefnogi mwy na 1,000 o fusnesau, yn helpu i greu 2,000 o swyddi newydd ac yn diogelu 4,000 o swyddi eraill.

Mewn menter ar y cyd rhwng Gweinidog yr Economi a'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg, Jeremy Miles, mae £10m ychwanegol ar gael i roi hwb i Gyfrifon Dysgu Personol poblogaidd Cymru. Bydd hyn yn galluogi colegau addysg bellach i ddarparu cyrsiau a chymwysterau ychwanegol a fydd yn helpu 2,000 o bobl i fanteisio ar ystod ehangach o gyfleoedd ar gyfer swyddi ac ennill cyflog mewn sectorau â blaenoriaeth sy'n wynebu prinder llafur. 

Bydd cyllid yn cael ei dargedu'n benodol at ail-gysylltu gyda ac ail-hyfforddi staff i ddychwelyd i'r gwaith yn y GIG ac ym maes gofal cymdeithasol, hyfforddi mwy o yrwyr lorïau HGV, ailsgilio unigolion i ymateb i gyfleoedd gwaith newydd cyffrous mewn adeiladu gwyrdd ac ynni adnewyddadwy, a sicrhau bod mwy o gogyddion, staff aros a staff blaen tŷ hyfforddedig i weithio yn sector lletygarwch ffyniannus Cymru.

Dywed gweinidogion y bydd y pecyn sylweddol yn helpu i gefnogi economi Cymru drwy fisoedd y gaeaf.

Gwnaeth Gweinidog yr Economi'r cyhoeddiad yn ystod ymweliad ag Advance Energy Services yn Cross Keys i nodi dechrau Wythnos Hinsawdd Cymru. Mae'r cwmni'n ffitio boeleri, inswleiddio a phympiau gwres gan ganolbwyntio ar wneud cartrefi a busnesau'n fwy effeithlon o ran ynni. 

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Mae'r pecyn £45m rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn cael ei ddarparu ar adeg dyngedfennol yn ein hadferiad economaidd. Mae'n rhoi cyfle i roi hwb i'r economi a thyfu wrth i ni ganolbwyntio ar greu dyfodol tecach, gwyrddach a llewyrchus i Gymru.

"Bydd y cyllid yn cynnig cyfle i fusnesau sydd angen ail-fuddsoddi - yn enwedig yn dilyn effaith pandemig y Coronafeirws, ein hymadawiad â'r UE, a chyda golwg ar ddiogelu'r hinsawdd a rhag Covid - y cyfle i wneud hynny, er mwyn ail-lansio, datblygu a thyfu.

"Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i adeiladu Cymru gydag economi ffyniannus, deg, werdd, lle nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl na'i adael ar ôl."

Wrth gyhoeddi'r buddsoddiad ychwanegol mewn Cyfrifon Dysgu Personol, ychwanegodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles:

"Rwy'n falch ein bod yn sicrhau bod £10m ychwanegol ar gael i roi hwb i'n menter cyfrifon dysgu personol.

"Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn rhoi cyfle i bobl ennill y sgiliau, yr wybodaeth a'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i weld cynnydd yn eu gyrfa. Rwy'n falch ein bod wedi sicrhau £10m ychwanegol i roi hwb i'r fenter hon.

"Bydd hyn yn rhoi cyfleoedd i bobl ailhyfforddi a chynyddu eu potensial i ennill cyflog mewn meysydd o'r economi y gwyddom sydd dan bwysau eithafol – gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, hyfforddiant i yrwyr HGV, lletygarwch ac adeiladu gwyrdd."

Y £35m ar gyfer busnesau bach a chanolig yw cam nesaf Llywodraeth Cymru o adfer yr economi ac mae'n gam pwysig tuag at ailsefydlu cydnerthedd o fewn economi Cymru a pharhau i ddatgarboneiddio sector busnes Cymru.

Yn cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol, mae'n rhoi cyfle i roi hwb i'r economi a'i datblygu yn dilyn effaith y Coronafeirws ac ymadawiad y DU â'r UE.

Gwahoddir busnesau i nodi ffyrdd y bydd buddsoddiad yn eu helpu i ail-lansio eu busnes, ei ddatblygu mewn ffyrdd newydd arloesol, a chreu swyddi newydd.

Bydd hefyd yn cefnogi busnesau i fynd i'r afael â rhai o'r prif faterion sy'n wynebu Cymru, megis mynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau mewn rhai sectorau, uwchsgilio'r gweithlu presennol, sicrhau gwaith teg i weithwyr a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd - gyda Gweinidogion yn chwilio am gynigion a fydd yn helpu Cymru i gyrraedd ei tharged allyriadau di-garbon net sy'n gyfreithiol rwymol erbyn 2050.

Bydd disgwyl i fusnesau gyfateb i unrhyw grantiau sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru.

Disgwylir y bydd y £35m yn cefnogi tua 1,000 o fusnesau, gan eu helpu i greu 2,000 o swyddi newydd a diogelu 4,000 o swyddi eraill. Bydd yn helpu i ysgogi gwerth £40m o fuddsoddiadau gan fusnesau eu hunain, a fydd yn helpu i gefnogi creu 50 o fentrau newydd.

Bydd y £10m ar gyfer colegau addysg bellach yn golygu ehangu Cyfrifon Dysgu Personol ymhellach, a fydd yn caniatáu i golegau lleol ddarparu cyrsiau a chymwysterau ychwanegol i gefnogi 2,000 o bobl i fanteisio ar ystod ehangach o gyfleoedd gwaith a chynyddu eu potensial i ennill cyflog mewn sectorau â blaenoriaeth.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Logisteg (yn enwedig gyrru HGV ac LGV) gan gynnwys ffioedd a phrofion trwyddedau gyrwyr. Bydd cyllid yn cael ei dargedu at hyfforddiant i yrwyr drwy gynnig cyrsiau i yrwyr posibl newydd, darparu hyfforddiant gloywi i'r rhai a allai fod yn ceisio dychwelyd i'r sector; a hyfforddi a chynyddu nifer yr hyfforddwyr a'r arholwyr sydd ar gael i gynnal profion gyrru;
  • Adeiladu gwyrdd ac ynni adnewyddadwy - gan gynnwys rolau mewn ôl-ffitio tai, ac mewn sectorau ynni gwynt, llanw a solar;
  • Deunyddiau a gweithgynhyrchu Uwch - gan gynnwys peirianwyr technegol;
  • Lletygarwch - gan gynnwys cogyddion, cynorthwywyr arlwyo, staff aros a staff blaen tŷ;
  • Iechyd a gofal cymdeithasol – gan gynnwys cymorth i ail-ymgysylltu ac ailhyfforddi cyn weithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ôl i'r sector a bodloni'r gofynion trwydded newydd i ymarfer.

Ers dechrau pandemig Covid, mae Gweinidogion wedi buddsoddi mwy na £2.5bn mewn cymorth busnes brys, gan helpu i ddiogelu dros 160,000 o swyddi a allai fod wedi'u colli fel arall.

Bydd y gronfa BBaCh gwerth £35m ar agor ar gyfer ceisiadau ym mis Tachwedd gyda chynigion yn cael eu gwneud i ymgeiswyr llwyddiannus o ganol mis Tachwedd ymlaen. Bydd angen gwneud ceisiadau'n uniongyrchol i awdurdodau lleol.

Bydd y £35m o gyllid I BBaCh yn rhoi hwb pellach i grantiau cymorth busnes presennol awdurdodau lleol a bydd yn dechrau agor ar gyfer ceisiadau ym mis Tachwedd. Bydd angen gwneud ceisiadau'n uniongyrchol i awdurdodau lleol unwaith y bydd eu cynlluniau grant unigol ar agor.