English icon English
Laboratory Stock Image-3

Prifysgolion Cymru yn newid bywydau gyda deallusrwydd artiffisial a gwyddor data

Welsh universities change lives with artificial intelligence and data science

Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn prifysgolion a deallusrwydd artiffisial yn newid bywydau ac yn helpu Cymru i ddod yn arweinydd rhyngwladol yn y maes. Fel rhan o’r Strategaeth Ddigidol i Gymru, mae £500,000 o gyllid yn cael ei rannu rhwng 22 o brosiectau arloesol.

Mae Cyflymydd Cenedl Ddata Cymru yn fenter ar y cyd rhwng Prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor sy’n helpu Cymru i sicrhau llwyddiant hirdymor yn y maes deallusrwydd artiffisial a gwyddor data.

Wrth i ddeallusrwydd artiffisial a gwyddor data ddod yn fwy cyffredin, mae timau ymchwil y prifysgolion yn helpu pobl ledled Cymru drwy sicrhau bod prosiectau’n symud ymlaen gyda chymorth diwydiant fel bod modd mabwysiadu’r canlyniadau i wella cynaliadwyedd, ansawdd bywyd a chanlyniadau economaidd. Ar yr un pryd, bydd hyn yn helpu i greu gweithlu medrus sydd â chymhwysedd digidol.

Bydd yr Athro Matthias Eberl a’i dîm yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i helpu atal sepsis mewn cleifion sy’n cael llawdriniaethau ar yr abdomen. Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi’u helpu i gydweithio â phartneriaid i gefnogi eu hymchwil.

Gall buddsoddi yn y math hwn o ymchwil helpu i ddatrys heriau sy'n effeithio'n arbennig ar Gymru. Mae Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi'r sector amaethyddol drwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i nodi’n gyflym parasitiaid sy'n gyffredin mewn da byw sy'n pori yng Nghymru oherwydd ein hinsawdd.

Mae Prifysgol Bangor yn cefnogi ein hamgylchedd drwy ddatblygu offer meddalwedd i ddefnyddio technoleg radar ar hyd arfordir Cymru. Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth werthfawr, amser real i ddatblygwyr ynni adnewyddadwy morol, porthladdoedd ac awdurdodau lleol am y tonnau a'r cerrynt yn ein dyfroedd arfordirol. Bydd yr ymchwil yn helpu i ddod o hyd i safleoedd gwell ar gyfer ynni adnewyddadwy a gwella diogelwch.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

“Mae Cymru'n gartref i ymchwil addysg uwch wych. Mae'n dda gweld ein prifysgolion yn cydweithio i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran datblygiadau mewn gwyddor data a deallusrwydd artiffisial.

"Rwy'n falch bod y cyllid hwn wedi helpu i gefnogi prosiectau sydd â'r pŵer i wella bywydau pobl yma yng Nghymru a thu hwnt.

"Mae Cyflymydd Cenedl Ddata Cymru yn enghraifft o sut y gall sector addysg uwch cryf gefnogi pob agwedd ar ein bywydau a sicrhau ein bod yn barod ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Ni fu ymchwil, gwyddoniaeth a thechnoleg erioed yn bwysicach o ran cefnogi prosiectau a chanlyniadau sy'n canolbwyntio ar atebion i fynd i'r afael â phroblemau byd-eang mawr ein hoes.

"Rwy'n hyderus y bydd y cyllid newydd hwn yn cefnogi ein prifysgolion i  weithio gyda phartneriaid yn y diwydiant i ddefnyddio'r arloesedd technolegol diweddaraf mewn gwyddor data a deallusrwydd artiffisial i gyflawni hynny.

"Wrth wneud hynny, byddant yn helpu i roi hwb i economi Cymru drwy helpu i greu diwydiannau'r dyfodol, a fydd yn creu'r swyddi newydd o ansawdd uchel yr ydym am eu gweld ledled Cymru."

Dywedodd yr Athro Roger Whitaker, Dirprwy Is-ganghellor Etholedig ar gyfer Ymchwil, Arloesi a Menter ym Mhrifysgol Caerdydd:

“Mae'r byd yn newid ar gyflymder digynsail oherwydd gwyddor data a deallusrwydd artiffisial. Mae hyn yn effeithio ar bron bob sector yng Nghymru. Mae Prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Bangor ac Aberystwyth wedi ffurfio partneriaeth i gychwyn prosiect Cyflymydd Cenedl Ddata Cymru, rhaglen uchelgeisiol o ymchwil, arloesi a hyfforddiant i gefnogi trawsnewid digidol.

"Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau 'sbrint' tymor byr wedi galluogi partneriaethau â sefydliadau a chwmnïau i ddangos yn gyflym pŵer a photensial data a thechnolegau a yrrir gan ddeallusrwydd artiffisial. Mae hyn yn cefnogi gwell iechyd a lles, gwell gwasanaethau cyhoeddus, economi gystadleuol a phlaned wyrddach."

Nodiadau i olygyddion

A member of Cardiff University’s research team is available to be interviewed, and opportunities to film in the lab are available on Thursday May 19, Friday May 20 and Monday May 23. Please contact alys.jones045@gov.wales to arrange.

Professor Roger Whitaker will be available to interview on WDNA on Friday May 20 at the Abacws building in Cardiff University. Please contact alys.jones045@gov.wales to arrange.

WDNA invites people with an interest in AI and data science to attend their event on May 26. This will be an opportunity to network and engage with the projects and see how this could shape Wales’ future. Deputy Minister for Climate Change, Lee Waters, will give a Ministerial address at the event. More information is available here: Digital transformation: Wales Data Nation Accelerator (WDNA) Tickets, Thu 26 May 2022 at 13:15 | Eventbrite

Case study information:

Artificial intelligence-guided diagnosis and prognosis of post-operative sepsis

This project focused on early detection and prediction of complications after bowel surgery, which can result in poor patient outcomes, including sepsis and reduced cancer survival.

The project team used novel bespoke software and state-of- the-art algorithms for data visualisation and statistical analysis, enabling them to determine diagnostic/prognostic biomarker signatures in drain fluid from the surgical site to predict inflammatory complications, leaking bowel contents and signs of sepsis.

Early risk prediction and rapid diagnosis of surgical site infections will enable clinicians to treat or perform surgical repairs before overt infection becomes established, reducing the likelihood of lifechanging complications such as sepsis in colorectal cancer patients, and other patients undergoing abdominal surgery. There is excellent potential for healthcare savings and for positive economic impacts across Wales and more widely.

Professor Matthias Eberl and his team in the School of Medicine at Cardiff University specialise in artificial intelligence-based solutions for diagnosis of infection when patients present with acute symptoms. External partners are Cardiff & Vale University Health Board (UHB), and Siemens Healthineers. Additional data sets were provided by a Swedish company, Olink.

Thanks to the funding, the academic team has been able to deepen its collaboration with Siemens Healthineers with regards to using data approaches to validate biomarker of tests and seeking to identify additional biomarkers that may merit development.  This work has potential to attract funding from government and industry and contributes to consolidating Cardiff as a centre of excellence in precision medicine and data innovation.

Plans for prospective clinical studies are in development to help reduce demands on unplanned critical care admissions and improve cancer outcomes as a result of earlier/better diagnosis of post-operative complications.