Newyddion
Canfuwyd 27 eitem, yn dangos tudalen 3 o 3
Rhaglen i hybu cyrhaeddiad mewn ysgolion yn parhau am ail gyfnod
Bydd cynllun peilot y Pencampwyr Cyrhaeddiad, sydd wedi ei greu i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol dysgwyr, yn cael ei estyn i ail gyfnod er mwyn codi safonau mewn ysgolion ymhellach.
Cynlluniau newydd i godi safonau mewn mathemateg
Mae gwaith i wella safonau mathemateg yn ysgolion Cymru yn mynd rhagddo, sy'n cynnwys rhoi cynlluniau newydd ar waith i helpu i hybu hyder, datblygu sgiliau ac annog mwy o ddysgwyr i ddewis astudio mathemateg.
Mwy o gyllid a chysondeb i blant ag anghenion dysgu ychwanegol
Heddiw (dydd Mercher 8 Mai) bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn amlinellu sut y bydd yn sicrhau bod y diwygiadau’n ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cael eu gweithredu'n gyson mewn ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru.