Newyddion
Canfuwyd 3837 eitem, yn dangos tudalen 277 o 320
£4m o gyllid i ddarparwyr gofal plant mewn ymateb i’r Coronafeirws
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru heddiw y bydd dros £4m o gyllid yn cael ei roi i gefnogi darparwyr gofal plant sydd wedi’u heffeithio gan COVID-19.
Cwmni meddalwedd yng Nghaerdydd yn creu 100 o swyddi newydd
Mae cwmni meddalwedd newydd Aforza yn creu 100 o swyddi, diolch i £900,000 o gymorth gan Lywodraeth Cymru.
£10 miliwn ychwanegol ar gyfer bysiau wrth i ganllawiau ar drafnidiaeth ysgol gael eu cyhoeddi
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £10 miliwn ychwanegol i helpu’r diwydiant bysiau i gludo rhagor o deithwyr i’r ysgol, y coleg a’r gwaith mewn modd diogel.
Llywodraeth Cymru’n datgelu pecyn cymorth i gadw pobl yn eu cartrefi ac i roi diwedd ar ddigartrefedd
Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, wedi cadarnhau y bydd yn rhoi hyd at £50 miliwn i gefnogi prosiectau ledled Cymru, gan ddarparu cartrefi diogel a sefydlogi bobl i wneud yn siŵr nad ydynt yn mynd yn ddigartref ac nad oes neb yn cael eu gorfodi yn ôl i'r strydoedd.
Cynllun £1.55miliwn i helpu i blannu mwy o goed ar agor i geisiadau
Mae cynllun buddsoddi cyfalaf gwerth £1.55 miliwn i helpu i gynyddu capasiti yn y sector coedwigaeth i blannu mwy o goed a chyfrannu at adferiad gwyrdd ar agor i geisiadau.
Yr adolygiad o drafnidiaeth i ddysgwyr yn cael ei estyn i ystyried y trothwyon ar gyfer disgyblion sy’n teithio am ddim
Mae adolygiad gan Lywodraeth Cymru o drafnidiaeth i ddysgwyr wedi cael ei estyn i ystyried y trothwyon pellter lle mae plant 4–16 mlwydd oed yn gymwys i deithio i’r ysgol am ddim.
Mwynhau Cymru – yn ddiogel
Ar drothwy’r penwythnos cyntaf ers i leoliadau lletygarwch dan do ailagor a chan fod disgwyl i’r tywydd fod yn braf mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis Thomas, yn awyddus i atgoffa trigolion ac ymwelwyr i fwynhau’r hyn y gall Cymru ei gynnig – ond mewn modd diogel
Cyhoeddi £2.3m ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu – wrth i ymholiadau yng Nghymru godi traean yn ystod cyfnod y cyfyngiadau
- Bu cynnydd o un rhan o draean mewn ymholiadau cychwynnol ynglŷn â mabwysiadu
- Bu cynnydd yn nifer yr asesiadau mabwysiadu sydd wedi cychwyn
- Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £2.3m ar gyfer y gwasanaethau cymorth mabwysiadu
Campfeydd a phyllau nofio yn ailagor
Heddiw (dydd Gwener 7 Awst), cadarnhaodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y bydd pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd dan do a chanolfannau hamdden yn gallu ailagor o ddydd Llun ymlaen.
“Mae'n rhaid i ni weithredu nawr" – Gweinidog yn lansio Cynllun Aer Glân i Gymru, cynllun Llywodraeth Cymru i wella ansawdd aer
Heddiw (dydd Iau, 6 Awst), mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu'r camau y bydd yn eu cymryd i wella ansawdd aer y wlad o dan ei Chynllun Aer Glân i Gymru: Awyr Iach, Cymru Iach.